• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Accreditations and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
  • Feeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Using infant formula to feed your baby
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference 2025
    • AGM
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
    • Legacy Gifting
Home » Gwybodaeth am Fwydo » Heriau Bwydo ar y Fron » Poen: os yw bwydo ar y fron yn boenus

Poen: os yw bwydo ar y fron yn boenus

Read this page in English

Mae poen yn eich tethi neu eich bronnau wrth fwydo ar y fron yn aml yn gysylltiedig â’r ffordd rydych chi’n dal eich babi ac yn dod ag ef at eich bron (cyfeirir at hyn yn aml fel safle a chydio yn y deth, neu yn Saesneg, ‘positioning’ ac ‘attachment’). Cyn ystyried rhesymau eraill posibl dros brofi poen wrth fwydo ar y fron, defnyddiwch ein canllaw ar gyfer safle a chydio yn y deth er mwyn gallu diystyru’r rhain yn gyntaf fel achos y boen.

Efallai y gwelwch chi fod angen i chi ofyn am gymorth gan gefnogwr medrus ym maes bwydo ar y fron i’ch helpu gyda hyn, oherwydd waeth faint o waith theori rydych chi’n ei ddarllen, does dim i guro cael rhywun sydd â phrofiad ac wedi’i hyfforddi i’ch helpu chi. Hyd yn oed os oes sail feddygol arall dros eich poen, bydd sicrhau bod y safle a’r broses o gydio yn y deth mor gyfforddus â phosibl yn dal i helpu.

Pan fyddwch chi’n dechrau bwydo ar y fron am y tro cyntaf, mae’n beth cyffredin profi teimlad cryf ac weithiau anghyfforddus am yr ychydig eiliadau cyntaf wrth i’ch babi gydio yn y deth. Fodd bynnag, dylai hyn basio’n gyflym, a dylai’r bwydo ddod yn gyfforddus. Os nad yw hyn yn digwydd, gallai rhoi cynnig ar rai newidiadau bach i’ch safle a sut mae eich babi yn cydio yn y deth helpu i wneud y bwydo’n fwy cyfforddus i chi. 

Gallai’r arwyddion nad yw eich babi yn cydio yn y deth mor effeithiol â phosibl gynnwys:

  • Os yw’r poen ar ei waethaf wrth ddechrau bwydo, ac yn parhau am fwy nag ychydig eiliadau
  • Os yw ceg eich babi yn llithro ar y deth yn hytrach na’i fod yn cydio gyda cheg agored

Os nad yw safle a thechneg gydio eich babi y gorau y gallan nhw fod, gall y deth gael ei chywasgu yng ngheg eich babi, a all gyfyngu ar lif y gwaed neu niweidio eich teth. Mae arwyddion bod hyn yn digwydd yn cynnwys:

  • Mae eich teth yn newid siâp ar ôl bwydo ar y fron – gallai fod yn siâp minlliw, wedi codi’n grib neu’n wastad. 
  • Mae eich teth yn newid lliw ar ôl bwydo ar y fron – efallai y gwelwch chi flaen gwyn i’ch teth, sy’n arwydd bod llif y gwaed wedi’i gyfyngu, er efallai na fydd hyn mor amlwg os yw’r croen yn dywyllach. Cyfeirir at hyn weithiau fel fasosbasm. Mae rhagor o wybodaeth am hyn isod. 
  • Mae eich teth wedi cracio neu’n gwaedu.  

Os nad yw eich poen yn well ar ôl rhoi cynnig ar rai o’r syniadau yn ein canllaw ar safle a chydio yn y deth, gofynnwch am help gan gefnogwr bwydo ar y fron. Gallan nhw arsylwi ar sesiwn fwydo gyfan a gwneud asesiad. Dylai eich bydwraig neu ymwelydd iechyd allu dweud wrthych chi pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal chi. Gallwch ddod o hyd i grŵp cymorth lleol yma hefyd neu gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron. 

Os yw eich teth wedi’i niweidio, defnyddiwch y dull o wella briw trwy ei gadw’n llaith yn y briw ei hun (dylech osgoi rhoi eli ar y deth gyfan) fel nad oes crachen yn ffurfio, a fydd yn dyfnhau’r briw. Gallwch ddarllen mwy am y dull o wella briw trwy ei gadw’n llaith yn ein taflen ffeithiau. Gallwch barhau i fwydo ar y fron ar deth sydd wedi’i niweidio oherwydd bydd yn dal i allu gwella, ond mae’n eithriadol o bwysig cael help o ran y safle a’r cydio er mwyn atal rhagor o niwed. 

Os yw ymarferydd bwydo ar y fron wedi eich helpu i addasu eich safle a thechneg gydio eich babi a bod eich teth yn dal i frifo neu ei bod wedi’i niweidio, efallai y bydd angen cael asesiad o weithrediad ceg eich babi, gan gynnwys archwiliad am gwlwm tafod posibl neu am faterion eraill a allai fod yn gwneud bwydo ar y fron yn anoddach. 


Pethau eraill sy’n achosi poen wrth fwydo ar y fron:

Llif eithaf cryf o laeth

Os yw’r poen ar ei gryfaf ar ddechrau’r cyfnod bwydo neu ychydig cyn bwydo a bod yna boen dwys yn eich bron(nau), a ddisgrifir yn aml fel poen gwasgu, gall hyn fod yn digwydd yn sgil yr atgyrch llaeth yn gollwng i lawr/yn cael ei alldaflu. Gall y poen fod yn waeth ar fron sy’n fwy llawn.

Os yw’n gysylltiedig â llaeth sy’n gollwng, gallwch leihau hyn drwy bwyso eich llaw yn gadarn ar eich bron ar yr adeg y mae’r llaeth yn llifo allan. 

Os yw eich babi hefyd yn gwneud sŵn clicio yn ystod y bwydo neu’n tynnu i ffwrdd gan dagu ar ôl i’r bwydo ddechrau, mae’n bosibl bod llif cyflym y llaeth yn atal y babi rhag cydio’n dda. Byddai’n werth chweil cael rhagor o gymorth gan ymarferydd bwydo ar y fron medrus i wella’r ffordd mae’n cydio.

Gallai tynnu ychydig o’ch llaeth eich hun cyn bwydo, os yw eich bronnau’n llawn, eich helpu, fel bod y gollwng pwerus wedi digwydd cyn i chi ddechrau bwydo. Neu gallai defnyddio ystum bwydo ar y fron mwy hamddenol eich helpu, fel bod llif y llaeth yn llai o ruthr i’ch babi.

Bronnau gorlawn

Os yw eich bronnau’n boenus o galed ac yn llawn, a bod bwydo neu dynnu llaeth yn lleddfu’r teimlad hwn, mae’n bosibl bod eich bronnau’n orlawn. Gall hyn fod ar ei waethaf ben bore, yn enwedig os nad ydych chi wedi bwydo’n aml yn ystod y nos. Gallwch osgoi bronnau gorlawn trwy fwydo’n aml ac mewn ffordd ymatebol, gan gynnwys yn ystod y nos.

Ystyriwch gynnig llaeth i’ch babi pryd bynnag y bydd eich bronnau’n dechrau teimlo’n llawn neu’n anghyfforddus. Os na allwch chi fwydo ar yr adeg honno, neu os yw eich babi yn gwrthod bwydo, gallwch dynnu dim ond digon o laeth i leddfu’r anghysur. Ceisiwch osgoi tynnu mwy o laeth nag sydd ei angen, gan y gallai hyn sbarduno cynnydd yn eich cyflenwad llaeth a gwneud y bronnau hyd yn oed yn fwy gorlawn.

Gallai gadael i’ch bronnau aros yn orlawn achosi llid ar eich bronnau (mastitis), neu ostyngiad yn eich cyflenwad llaeth, felly mae’n well osgoi hyn os oes modd yn y byd.

Os ydych chi’n cael trafferth cael eich babi i gydio yn y deth pan fydd eich bronnau’n llawn iawn, gallwch dynnu ychydig o laeth cyn dechrau i’w meddalu. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar feddalu’r fron drwy roi pwysau ysgafn ar y fron i wthio’r llaeth yn ôl oddi wrth y deth. Mae’r dull hwn o feddalu’r fron drwy roi pwysau ar y fron yn ysgafn i wthio’r llaeth yn ôl oddi wrth y deth yn ffordd o feddalu’ch areola. Gall helpu i wneud cydio a thynnu llaeth yn haws pan fydd eich areola yn chwyddedig iawn a’ch bronnau’n orlawn trwy leddfu bronnau caled a chwyddedig dros dro.

(Missing paragraph)

Mae meddalu’r fron drwy roi pwysau arni yn symud chwydd ysgafn neu eithaf caled i ffwrdd oddi wrth yr ardal o dan eich areola, yn ôl rhyw fymryn ac i mewn i’r fron am gyfnod byr o tua 5-10 munud. Mae hyn yn rhoi cyfle i’ch areola newid siâp ac mae’n gwneud cydio yn y deth yn haws oherwydd gall eich babi gael mwy o’ch areola a meinwe’r fron i’w geg. 

Mae meddalu’r fron drwy bwyso arni’n ysgafn yn achosi atgyrch ‘gollwng’ y llaeth hefyd, gan ei gwneud hi’n haws i’ch babi gael llaeth neu i chi dynnu llaeth â llaw neu dynnu llaeth gan ddefnyddio pwmp pwrpasol.

Ni ddylid defnyddio’r dull o feddalu’r fron drwy bwyso arni’n ysgafn os oes gennych chi fastitis, ddwythellau cywasgedig neu grawniad (abscess) y fron.

Sut i feddalu’r fron drwy roi pwysau ysgafn arni:

Y nod yw meddalu’ch areola o amgylch gwaelod y deth.  Gall hyn ei gwneud hi’n haws i’ch babi gydio’n well yn y deth.

  • Pwyswch yn ysgafn ar ymylon eich areola, tuag at wal eich brest, gan gyfrif yn araf i 50.
  • Unwaith y bydd yr areola wedi meddalu, gallwch ddechrau bwydo’ch babi neu dynnu llaeth (â llaw neu gan ddefnyddio pwmp pwrpasol ar bwysedd isel i ganolig)
  • Os oes gennych fronnau chwyddedig iawn, fe gewch fwy o ryddhad os ydych chi’n meddalu’r fron drwy bwyso arni’n ysgafn wrth i chi orwedd ar eich cefn (gan fanteisio ar ddisgyrchiant)
  • Meddalwch eich areola yn union cyn pob sesiwn fwydo (neu dynnu llaeth) nes bod y chwydd yn diflannu. Gall hyn gymryd dau i bedwar diwrnod neu fwy

Tynnu llaeth

Os yw eich teth yn boenus neu wedi’i niweidio a’ch bod chi’n defnyddio pwmp ar gyfer y fron yn hytrach na bwydo’n uniongyrchol, efallai y bydd angen i chi leihau cryfder y sugno ar eich pwmp, neu efallai eich bod yn defnyddio fflans o’r maint anghywir. Siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, eich bydwraig neu’ch ymarferydd bwydo ar y fron er mwyn cael cymorth i dynnu eich llaeth os oes angen.

Ecsema neu ddermatitis

Llid ar y croen yw dermatitis. Gall ymddangos fel cochni (ar groen mwy golau) neu afliwiad, cosi neu ddolur, neu gall y deth, yr areola neu’r croen o’i amgylch gaenu, gracio neu ffurfio crawen. Gall fod yn anghyfforddus iawn, yn goslyd neu hyd yn oed yn boenus.

Mae rhai pobl yn fwy tueddol nag eraill o ddatblygu dermatitis, ac os nad oes achos amlwg, cyfeirir ato yn aml fel dermatitis atopig, neu ecsema.

Weithiau gall dermatitis ddigwydd yn sgil rhywbeth sy’n dod i gysylltiad â’ch bron, sy’n gallu cosi’r fron neu sbarduno adwaith alergaidd (dermatitis alergaidd/cyswllt). Fe allai fod yn hufen neu’n eli teth, sebon neu hylif golchi’r corff, padiau i’r fron, cwpanau neu amddiffynwyr, dillad neu amgylchedd llaith.

Er mwyn lleddfu dermatitis, gallwch roi cynnig ar y canlynol:

  • ewch ati i gael gwared ar unrhyw wrthrych llidus posibl 
  • cadwch eich tethi a’ch bronnau yn sych  
  • ceisiwch osgoi mynd yn rhy boeth neu’n rhy oer 
  • gwisgwch ddillad cotwm llac 
  • defnyddiwch feddalydd croen ar gyfer ymolchi a lleithio. Un sy’n nodi ei fod yn addas i’w ddefnyddio ar yr wyneb os oes modd. 
  • Newidiwch badiau’r fron yn aml. Os yw padiau tafladwy yn achosi llid, gallech roi cynnig ar badiau y gellir eu golchi, neu fel arall.

Os yw’r llid yn parhau, mae’n bosibl y gallai hufen steroid eich helpu. Gallwch siarad â’ch meddyg neu’ch fferyllydd am hyn. Am ragor o wybodaeth, gweler ein taflen ffeithiau ar ecsema.  

Fasosbasm a Ffenomen Raynaud

Mae fasosbasm yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed yn methu â llifo’n iawn i flaen eich teth dros dro. Gall hyn ddigwydd os yw eich babi’n gwasgu’ch teth rhwng ei dafod a’i daflod. Hefyd, gall fod yn symptom o ffenomen Raynaud, sy’n digwydd pan fydd eich gwaed yn methu â llifo i’ch bysedd a’ch traed.

Fe allech chi fod yn profi fasosbasm os yw’r boen yn waeth ar ddiwedd neu ar ôl bwydo’ch babi, neu os yw blaen eich teth yn wyn neu’n newid lliw yn gyflym ar ôl bwydo ar y fron (gwyn i borffor yna coch, er nad yw hyn yn digwydd bob amser ac efallai na fydd modd gweld hyn ar bob lliw croen).

Efallai y bydd y poen wedi’i gyfyngu i’ch teth, ond gan fod llawer o nerfau ym meinwe’r fron, gall ledu i’ch bron a phara hyd at hanner awr. Gall fasosbasm ddigwydd yn un o’r bronnau neu yn y ddwy.

Os mai cywasgu’r deth sy’n achosi fasosbasm, y driniaeth orau fydd cael help gyda safle a chydio gan ymarferydd bwydo ar y fron arbenigol. Gallwch ofyn i’ch bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd am y cymorth sydd ar gael yn eich ardal chi. Hefyd, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron.

Os ydych chi’n parhau i ddioddef cyfnodau o fasosbasm, a bod y safle a’r cydio cystal ag y gallan nhw fod, neu os oes gennych chi hanes o broblemau gyda chylchrediad y gwaed neu feigryn, os yw eich poen yn waeth yn y nos, neu os yw eich poen yn cael ei sbarduno neu’n cael ei waethygu gan yr oerfel, mae’n bosibl bod Ffenomen Raynaud arnoch. Gall y poen ddod yn syth ar ôl bwydo, ond gall ddigwydd yn ddiweddarach neu gael ei sbarduno gan yr oerfel hyd yn oed pan nad ydych chi’n bwydo.

Efallai y gallwch wella’ch symptomau trwy gadw eich bronnau’n gynnes, osgoi bwydo ar y fron mewn llefydd oer, gorchuddio’ch teth cyn gynted ag y byddwch wedi gorffen bwydo, a chynhesu’ch teth ar ôl bwydo. Gallech roi cynnig ar ddefnyddio padiau gwresogi neu gynhyrchion gwresogi amldro fel pecynnau reis neu gynheswyr dwylo y mae modd eu cynhesu yn y popty microdon. Fodd bynnag, cymerwch ofal wrth ddefnyddio’r cynhyrchion hyn a pheidiwch â’u rhoi yn syth ar eich croen rhag ofn y byddan nhw’n eich llosgi. Gall lleihau straen (os yn bosibl) a lleihau eich defnydd o gaffein helpu hefyd.

Gall rhai meddyginiaethau achosi ffenomen Raynaud neu ei waethygu. Os ydych chi’n ansicr am sgileffeithiau eich meddyginiaethau, cofiwch ddarllen y daflen wybodaeth i gleifion neu siarad â’ch fferyllydd lleol. Am wybodaeth am ba mor gydnaws yw meddyginiaethau amgen â bwydo ar y fron, gallwch gysylltu â’r tîm Cyffuriau mewn Llaeth y Fron.

Os nad yw’r mesurau hyn yn effeithiol, gall eich meddyg teulu roi presgripsiwn am rai meddyginiaethau a allai fod o gymorth. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn ein taflen ffeithiau ar ffenomen Raynaud, ac ar y dudalen Gwybodaeth gan y GIG hon. 

Smotyn gwyn, pothell neu fandwll teth wedi’i rwystro

Os yw’r boen yn waeth ar ddiwedd sesiwn fwydo neu ar ôl bwydo ar y fron a’ch bod yn gallu nodi smotyn penodol (a all fod yn wyn, yn felyn neu’n binc golau) ar eich teth fel tarddiad y boen, mae’n debygol o ddeillio o smotyn gwyn. Weithiau bydd hyn hefyd yn cael ei alw’n bothell (‘bleb’ yn Saesneg), mandwll teth wedi’i rwystro neu’n bothell laeth (‘milk blister’). Gall y symptomau ddychwelyd o bryd i’w gilydd.

Y gred yw bod pothelli yn ymgyflwyniad ar yr arwyneb o lid sylfaenol, a’r ffordd orau o’u trin felly yw trwy ddefnyddio mesurau gwrthlidiol. Hefyd, maen nhw’n gallu cael eu hachosi gan bwysau neu rwbio wrth i chi fwydo, felly mae’n syniad da cael cymorth gyda safle a chydio. 

Gallwch barhau i fwydo os oes gennych bothell, a gall bwydo ei helpu i glirio’n ohono’i hun. Os ydych chi mewn poen, gallwch gymryd meddyginiaeth lleddfu poen, fel paracetamol neu ibuprofen (am ragor o wybodaeth, gweler ein taflen ffeithiau ar leddfu poen). Hefyd, gallech roi cynnig ar gywasgiad cynnes neu oer ar ôl bwydo.

Os nad yw’r bothell yn gwella, mynnwch air â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae’n bosibl y gall roi presgripsiwn am hufen steroid a allai helpu. Am wybodaeth ar ddefnyddio hufenau steroid wrth fwydo ar y fron, gweler ein taflenni ffeithiau ar ecsema a gwahanol fathau o hufen ac eli.

Mae rhai ffynonellau yn awgrymu y gall cael gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i dynnu’r haen uchaf o’r croen oddi ar y bothell trwy ddefnyddio nodwydd ddi-haint leddfu’r poen, oherwydd bydd hyn yn rhyddhau unrhyw laeth sydd wedi cronni y tu ôl i’r bothell. Fodd bynnag, mae eraill yn dweud bod hyn yn ddiangen ac y gall achosi llid pellach. Peidiwch â cheisio tynnu’r haen uchaf o’r croen eich hun trwy ddefnyddio nodwydd neu drwy ei chodi, ei gwasgu neu ei rhwbio, oherwydd gallai hyn waethygu’r sefyllfa neu achosi haint. Os ydych chi’n penderfynu gofyn i weithiwr gofal iechyd proffesiynol dynnu’r haen uchaf o’r croen oddi ar y bothell, gall bwydo’n aml o’r fron honno wedyn helpu i’w hatal rhag ffurfio eto.

Dwythellau cywasgedig a Mastitis

Os oes man poenus ar ffurf lwmp ar eich bron sydd efallai yn teimlo’n boeth ac yn ymddangos wedi’i afliwio neu’n goch ar groen mwy golau, mae’n bosibl bod gennych chi ddwythellau cywasgedig neu fastitis.

Mae dwythellau cywasgedig yn digwydd pan fydd y bronnau’n orlawn, pan fydd chwydd lleol neu bwysau ar eich bron yn gwasgu’r tiwbiau bach niferus, neu ddwythellau, y mae eich llaeth yn pasio drwyddyn nhw, gan atal eich llaeth rhag llifo’n rhydd mewn ardal o’ch bron.

Os na fydd y dwythellau cywasgedig yn cael eu trin, gall hyn arwain at fastitis. Llid ar y fron yw mastitis. Mae’n gallu cael ei ategu gan symptomau tebyg i’r ffliw. Os oes mastitis arnoch chi, dylech barhau i fwydo mewn ffordd ymatebol a gofyn am gymorth gan ymarferydd bwydo ar y fron arbenigol cyn gynted â phosibl.

Gall dwythellau cywasgedig neu fastitis ddigwydd os nad ydych chi’n bwydo’n ddigon aml gan arwain at sefyllfa lle mae’ch bronnau yn gorlenwi. Neu oherwydd sefyllfaoedd eraill sy’n cynyddu’r pwysau ar eich bron, er enghraifft, gwisgo bra sy’n rhy dynn neu gario eich babi mewn sling am gyfnod hirach nag arfer. Gall addasu sut rydych chi’n dal eich babi ac yn ei gyflwyno i’ch bron wrth fwydo (safle a chydio) helpu hefyd. 

Os oes gennych boen neu dwymyn, gallwch gymryd paracetamol neu ibuprofen os yw hynny’n briodol (am ragor o wybodaeth, gweler ein taflen ffeithiau ar leddfu poen). Gall clwtyn oer helpu i leddfu poen a chwyddo hefyd. Ni fydd angen gwrthfiotigau arnoch fel arfer os ydych chi’n dechrau mesurau hunangymorth yn gyflym, ond dylech weld meddyg os yw eich symptomau’n parhau. Mae gwybodaeth fanylach ar gael ar ein tudalen mastitis.

Crawniad

Mae crawniad yn gymhlethdod prin sy’n deillio o fastitis. Mae’n bosibl bod crawniad arnoch os nad yw lwmp ar y fron neu fastitis wedi gwella ar ôl bwydo yn aml ac yn effeithiol ac ar ôl cymryd cwrs o wrthfiotigau neu os yw’r croen ar eich bron yn edrych fel croen oren.

Dylid cymryd sampl llaeth i ddarganfod pa ficro-organeb sy’n achosi’r haint a phenderfynu pa wrthfiotig a allai fod yn fwyaf effeithiol. Mae angen archwiliad uwchsain i wneud diagnosis o grawniad. Mae’n bosibl y bydd angen draenio’r crawn trwy allsugno â nodwydd neu ddraenio llawfeddygol a defnyddio gwrthfiotig priodol. Gallai cymorth emosiynol gan gynorthwyydd bwydo ar y fron ynghyd â chymorth arbenigol gan staff meddygol fod o fudd i chi.

Y Llindag

Yn unol â’r gwaith ymchwil a’r canllawiau diweddaraf, mae ein gwybodaeth am y llindag (candida) yn y deth neu’r fron wedi’i thynnu’n ôl. Bu’n arfer cyffredin gwneud diagnosis o lindag yn y deth neu’r fron fel achos poen yn y fron, gan roi presgripsiwn am feddyginiaeth wrthffwngaidd wedyn. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil mwy diweddar yn awgrymu bod llindag yn y fron yn llawer llai cyffredin nag a feddyliwyd yn flaenorol, ac mae rhai ymchwilwyr o’r farn na fydd efallai fyth yn ddiagnosis dilys. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein blog.

Fe allai eich babi ddatblygu haint llindag eneuol. Mae angen i weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig priodol wneud diagnosis o’r fath. Gallwch ddarllen mwy am hyn ar dudalen y GIG am lindag eneuol ac yn ein taflen ffeithiau ar gel miconasol a llindag eneuol mewn babanod sy’n bwydo ar y fron. Os oes gan eich babi lindag eneuol, gall achosi anghysur iddo a’i wneud yn llai tebygol o fwydo mor effeithiol ag arfer. Gall hyn arwain at boen i chi. Fodd bynnag, dydy llindag ddim yn heintus, a does dim angen i chi gael eich trin am lindag dim ond oherwydd bod gan eich babi haint.

Os ydych chi’n dal i ddioddef poen yn y fron ar ôl darllen yr holl wybodaeth uchod a’ch bod wedi ystyried pob achos posibl arall, rydyn ni’n argymell eich bod yn ceisio cymorth wyneb yn wyneb gan ymarferydd bwydo ar y fron arbenigol. Mae gwybodaeth am ein grwpiau cymorth lleol ar gael yma. Os na allwch chi gael gafael ar gymorth wyneb yn wyneb, gallwch gysylltu â’r 
Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar 0300 100 0212 neu drwy we-sgwrs i gael gwybodaeth a chymorth.

Os oes gennych chi gwestiwn am gymryd meddyginiaeth wrth fwydo ar y fron, cysylltwch â’r tîm Cyffuriau yn Llaeth y Fron drwy e-bost neu ar eu tudalen Facebook.

Os oes gennych chi gwestiwn cyffredinol am ein penderfyniad i ddileu ein gwybodaeth am lindag yn y fron nad oes angen ymateb ar frys iddo, gallwch gysylltu ag admin@breastfeedingnetwork.org.uk.

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2026 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up