Mae modd gwybod a yw eich babi yn cael digon o laeth trwy edrych ar gynnwys ei gewynnau gwlyb a budr, a gweld a yw’n magu pwysau. Os yw cynnwys cewynnau gwlyb a budr eich babi yn cyd-fynd â’r hyn y gellid ei ddisgwyl, a bod ei bwysau’n cynyddu yn ôl y disgwyl, yna mae’n cael digon o laeth. Allwch chi ddim dweud faint o laeth rydych chi’n ei gynhyrchu ar sail pa mor lawn/gwag mae eich bronnau yn teimlo, neu am faint o amser mae’ch babi yn bwydo.
Dydy poeni nad ydych chi’n cynhyrchu digon o laeth i’ch babi ddim yn anarferol. Fodd bynnag, trwy gael cymorth bwydo ar y fron o ansawdd da, mae’r rhan fwyaf o famau a rhieni geni YN gallu cynhyrchu digon o laeth. Os yw eich cyflenwad llaeth yn gostwng, fel arfer gallwch ei gynyddu eto trwy roi rhai mesurau syml ar waith, gan gynnwys addasu eich safle a sut mae’ch babi yn cydio yn y deth, a bwydo’ch babi yn aml ac mewn ffordd ymatebol.
Mae gan ganran fach o famau a rhieni geni gyflyrau a allai olygu nad ydyn nhw’n cynhyrchu digon o laeth i fwydo ar y fron yn unig, er enghraifft, llawdriniaeth ar y fron yn y gorffennol, cyflyrau thyroid, syndrom ofarïau polysystig neu feinwe chwarennol annigonol (a elwir hefyd yn hypoplasia y fron). Os yw hyn yn berthnasol i chi, dylai’ch cefnogwr bwydo ar y fron, eich bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd allu eich helpu i fanteisio’n llawn ar eich cyflenwad llaeth a chyfuno bwydo ar y fron â llaeth ategol gan roddwr neu fformiwla babanod (sy’n cael ei alw weithiau’n bwydo cymysg neu gyfunol).
Os ydych chi’n poeni nad yw eich babi yn cael digon o laeth, siaradwch â’ch cefnogwr bwydo ar y fron, eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch meddyg teulu. Gall yr erthygl hon ar gyflenwad llaeth isel (a pham mae llawer o fenywod yn poeni bod eu cyflenwad yn isel pan nad ydy o mewn gwirionedd) fod yn ddefnyddiol hefyd: Low milk supply 101 – Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron.
Rhai awgrymiadau i gynyddu faint o laeth mae eich babi yn ei gael
Yn ystod yr wythnosau cyntaf rydyn ni bellach yn meddwl bod babanod yn mynd yn gysglyd pan fydd llif y llaeth yn arafu, nid oherwydd eu bod yn llawn.
Dylai’r pwyntiau canlynol eich helpu i sicrhau mwy o laeth yn ystod pob sesiwn fwydo:
- Ceisiwch sicrhau bod eich babi yn cydio yn y deth yn y ffordd orau bosibl. A hyd yn oed os yw’n cydio’n dda yn barod, nid da lle gellir gwell! Gallwch ddarllen rhagor am hyn ar ein tudalen “sut i fwydo ar y fron“.
- Dysgwch sut i weld llaeth yn cael ei drosglwyddo: agor y geg yn llydan->saib-> cau’r geg: po hiraf yw’r saib y mwyaf o laeth y mae eich babi yn ei yfed
- Dylech gynnig y ddwy fron ym mhob sesiwn fwydo. Efallai y bydd angen saib rhwng y bronnau ar eich babi
- Gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd, eich bydwraig neu’ch cefnogwr bwydo ar y fron (mewn grŵp neu drwy gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron) sut i adnabod arwyddion cynnar bwydo. Mae’n haws sicrhau bod babi yn cydio yn y deth cyn ei fod yn llwglyd iawn. Gallwch ddarllen mwy am arwyddion cynnar ac am fwydo ar y fron ymatebol yma.
- Drwy fwydo mewn ymateb i arwyddion cynnar, mae’n bosibl y bydd modd bwydo’r babi unwaith yn ychwanegol o fewn 24 awr.
- Gofynnwch i weithiwr iechyd proffesiynol neu gefnogwr bwydo ar y fron ddangos i chi sut mae dull cywasgu’r fron yn gweithio. Gall fod yn ffordd dda o roi llaeth ychwanegol i’ch babi wrth ei fwydo.
Cywasgu’r fron
Mae cywasgu’r fron yn ffordd syml o geisio sicrhau bod eich babi yn cymryd mwy o laeth yn ystod sesiwn fwydo. Mae’n digwydd tra bod eich babi yn cydio yn y deth.
- Gallwch wasgu’ch bron yn ysgafn gan ddefnyddio llaw siâp c, wedi’i dal i ffwrdd o’ch teth. Cywasgwch eich bron yn ysgafn a’i dal, nes eich bod yn gweld eich babi yn dechrau sugno a llyncu’n gyflymach eto.
- Unwaith y bydd y llyncu yn arafu, gallwch ryddhau eich bron. Efallai y bydd eich babi yn bwydo’n gyflymach eto wrth i chi ryddhau eich bron.
- Pan fydd eich babi yn arafu eto, cywasgwch eich bron eto, mewn safle ychydig yn wahanol o bosibl.
- Gallwch ddal ati i wneud hyn cyn hired ag y bydd yn cael effaith ar faint o laeth y mae eich babi yn ei gymryd (e.e. sugno/llyncu’r babi yn cynyddu).
Mae fideo sy’n esbonio sut i gywasgu’r fron ar gael yma.
Os yw cywasgu’r fron yn helpu, mae’n bosibl y bydd yna fwy o gewynnau gwlyb a budr. Os nad oes unrhyw newid, gofynnwch i gefnogwr bwydo ar y fron neu weithiwr iechyd proffesiynol chwilio am ffactorau eraill a allai fod yn gwneud y bwydo’n anoddach.
Yn achlysurol iawn, gall meddyginiaethau fel moddion llacio neu’r bilsen atal cenhedlu effeithio ar eich cyflenwad llaeth. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein taflenni ffeithiau neu cysylltwch â’n gwasanaeth Cyffuriau yn Llaeth y Fron i drafod hyn.
Am ragor o wybodaeth am sut i wybod a yw’r broses fwydo yn mynd yn dda, darllenwch Off to the Best Start.
Achosion cyffredin cyflenwad llaeth isel/eich babi yn methu â chael digon o laeth:
Safle a chydio yn y deth
Yn aml, defnyddir y term ‘safle a chydio yn y deth’ i ddisgrifio sut mae’ch babi yn cydio yn eich bron a sut rydych chi’n dal eich babi. Os nad yw eich babi yn cydio yn eich bron yn effeithiol, bydd yn anoddach iddo gael llaeth yn effeithlon. Gall hyn olygu bod eich babi yn cael llai o laeth na’r hyn sydd ei angen arno. Os yw’r sefyllfa hon yn parhau, gall eich cyflenwad llaeth ostwng, oherwydd mae cynhyrchu llaeth yn seiliedig ar gyflenwad a galw.
Trwy weithio ar eich safle a’r cydio, byddwch yn helpu i sicrhau bod eich babi yn gallu yfed mwy o laeth yn fwy effeithlon, ac wrth iddo gymryd mwy o laeth o’ch bronnau, bydd eich corff yn ymateb i’r galw cynyddol trwy gynyddu eich cyflenwad. Hyd yn oed os yw rhai o’r achosion eraill yma yn berthnasol i chi a’ch babi, bydd gwella sut mae’ch babi yn dod tuag at y fron yn gwella’r broses o drosglwyddo llaeth. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein tudalen ar sut i fwydo ar y fron.
Trefnu amser penodol rhwng pob sesiwn fwydo neu fwydo gan ddilyn amserlen
Os ydych chi’n ceisio gadael amser penodol rhwng pob sesiwn fwydo, neu’n aros i’ch bronnau “lenwi”, neu’n bwydo gan ddilyn amserlen, yn hytrach na bwydo mewn ffordd ymatebol, gall eich bronnau orlenwi rhwng pob sesiwn fwydo. Pan fydd eich bronnau’n llawn, mae protein o’r enw atalydd adborth llaetha (FIL) yn dweud wrth eich corff bod angen rhoi’r gorau i gynhyrchu llaeth. Gall hyn yn ei dro wneud i’ch cyflenwad llaeth ostwng.
Bwydo ar y fron mewn ffordd ymatebol, gan gynnwys rhoi eich babi ar eich bron unrhyw bryd y bydd eich bronnau’n dechrau teimlo’n llawn, yw’r ffordd orau o sefydlu a chynnal eich cyflenwad llaeth, a sicrhau bod eich babi yn cael digon o laeth. Dydy’ch bronnau byth yn cael eu gwagio’n llwyr am eu bod nhw’n cynhyrchu mwy o laeth trwy’r amser. Felly gallwch eu cynnig i’ch babi hyd yn oed os ydyn nhw’n teimlo’n wag. Bydd hyn yn helpu i gynyddu eich cyflenwad llaeth.
Defnyddio dymi neu heddychwr
Gall dymi neu heddychwr guddio arwyddion bwydo cynnar, sy’n golygu nad ydych chi’n bwydo’ch babi cyn gynted ag y bydd yn dechrau teimlo’n llwglyd. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd mwy o amser yn pasio rhwng pob sesiwn fwydo. Gallai hyn arwain at eich babi yn cymryd llai o laeth yn gyffredinol, a’ch bronnau’n gorlenwi rhwng pob sesiwn fwydo. Gall eich cyflenwad llaeth ostwng o ganlyniad. Os hoffech ddefnyddio dymi, gallech ystyried aros nes bod y broses o fwydo ar y fron wedi’i sefydlu’n dda cyn rhoi un i’ch babi.
Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio dymi ar gael gan NHS start4life a Baby Sleep Information Source (BASIS).
Os ydych chi’n dal i gael trafferth gyda’ch cyflenwad llaeth ar ôl rhoi cynnig ar yr awgrymiadau uchod, dylech siarad â chefnogwr bwydo ar y fron, eich bydwraig, eich meddyg teulu neu’ch ymwelydd iechyd. Weithiau, gall blithogydd – meddyginiaeth neu sylwedd sy’n cynyddu’r cyflenwad llaeth (‘galactagogue’ yn Saenseg) – helpu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein taflen ffeithiau Increasing Milk Supply – use of Galactagogues.
