
Beth bynnag yw’r rheswm – damwain sydyn yn y cartref, argyfwng lleol neu rywbeth sy’n effeithio ar y wlad gyfan, mae meddwl ymlaen yn ein helpu i warchod y bobl sy’n bwysig i ni.
Gall effeithiau argyfwng gynnwys atal dŵr tap neu ddŵr tap anniogel, toriad trydan lleol neu genedlaethol, neu rwydweithiau ffôn neu’r rhyngrwyd yn methu. Mewn argyfwng, efallai y bydd angen i chi aros yn ddiogel ble’r ydych chi – efallai y byddwch chi’n methu â mynd allan i’r siopau neu ddefnyddio gwasanaethau eraill fel apwyntiadau iechyd, neu efallai y bydd angen i chi adael rhywle a mynd i le mwy diogel.
Mae bod yn barod ar gyfer argyfyngau yn arbennig o bwysig i deuluoedd â phlant ifanc: mae babanod a phlant bach wedi’u cyfyngu o ran pa fwyd y gallan nhw ei fwyta, ac maen nhw’n fwy sensitif i eithafion gwres ac oerfel. Gall fod yn anoddach gadael mewn argyfwng gyda babanod a phlant bach hefyd. Mae babanod o dan 6 mis yn arbennig o agored i niwed gan mai llaeth y fron neu fformiwla babanod yw eu hunig faeth ac maen nhw’n dibynnu ar oedolyn dibynadwy ar gyfer eu holl anghenion.

Os oes angen cymorth arnoch chi i wybod sut i fwydo’ch babi mewn argyfwng, gan gynnwys offer sterileiddio, paratoi llaeth fformiwla a bwydo ar y fron, gallech gysylltu â’ch bydwraig neu ymwelydd iechyd, cysylltu â’r gwasanaethau cymorth gan gymheiriaid lleol neu ffonio Llinell Gymorth Bwydo ar y Fron.
Mae’r adran hon o’n gwefan yn darparu cymorth a gwybodaeth ar fwydo babanod yn ystod cyfnodau o argyfwng. Pan fo’n bosibl, dylech ddilyn canllawiau perthnasol y GIG a’r llywodraeth ar baratoi fformiwla a sterileiddio offer bwydo.
Mae llywodraeth y DU yn darparu canllawiau cyffredinol ar sut i baratoi ar gyfer argyfyngau. Mae canllawiau ar gael gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru (Argyfyngau Sifil Posibl a Gwytnwch) a Ready Scotland hefyd.
Rydyn ni wedi datblygu rhestr wirio syml yn benodol i helpu teuluoedd â babanod neu blant ifanc i feddwl am gynllunio ar gyfer argyfyngau.
Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych chi blant o dan bump oed, ystyriwch gofrestru ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim ledled y DU sy’n darparu cyngor a chymorth ychwanegol, gan gynnwys pan fydd eich cyflenwad trydan, nwy neu ddŵr wedi torri.
Os ydych chi’n cefnogi teuluoedd sy’n bwydo babanod, neu’n rhan o wasanaeth parodrwydd am argyfwng, cysylltwch â ni am ein cwrs hyfforddi ar-lein – courses@breastfeedingnetwork.org.uk.
Bwydo ar y fron yw’r ffordd fwyaf diogel o fwydo babanod, yn enwedig yn ystod argyfwng, gan nad yw’n dibynnu ar gadwyni cyflenwi nac ar angen dŵr neu ynni glân ar gyfer paratoi a glanhau. Os ydych chi’n bwydo ar y fron, mae’n debygol y bydd angen mwy o ddŵr a bwyd arnoch nag oedolion eraill – tua 300-500 yn fwy o galorïau y dydd, a hyd at litr yn fwy o ddŵr.
Gallwch barhau i fwydo ar y fron, hyd yn oed os oes gennych chi lai o fwyd neu lai o fwyd maethlon na’r hyn sy’n ddelfrydol, yn y tymor byr. Bydd eich corff yn dal i gynhyrchu llaeth, ac ni ddylai eich cyflenwad ostwng oni bai eich bod yn mynd trwy gyfnod hir o beidio â bwyta digon. Bydd parhau i fwydo ar y fron, hyd yn oed os ydych chi’n llwglyd, yn helpu i gynnal eich cyflenwad llaeth.
Mae pobl yn poeni y bydd straen yn sychu eu llaeth – gall straen ei gwneud hi’n anoddach i dynnu llaeth o’r fron ond ni ddylai leihau faint o laeth rydych chi’n ei gynhyrchu. Mae bwydo ar y fron yn rhyddhau hormonau a all eich helpu i ymlacio a lleihau eich straen. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi eistedd yn gyfforddus mewn man tawel lle rydych chi’n teimlo’n ddiogel, yn enwedig os yw’ch babi wedi cyrraedd y cam lle mae’n hawdd tynnu ei sylw wrth fwydo. Os ydych chi wedi gorfod gadael rhywle a symud i ganolfan orffwys gyhoeddus, gofynnwch a oes ardal gyfforddus neu breifat lle gallwch chi fynd i fwydo os oes angen.
Os ydych chi’n cyfuno bwydo ar y fron a llaeth fformiwla ar hyn o bryd, efallai y gallwch gynyddu’ch cyflenwad a symud i fwydo ar y fron yn unig. Os hoffech chi wneud hyn, dechreuwch trwy fwydo’n amlach a thynnu llaeth o’r fron rhwng cyfnodau bwydo. Bydd angen i chi barhau i roi rhywfaint o laeth fformiwla hyd nes y bydd eich cyflenwad chi yn gallu diwallu anghenion eich babi. Gall Llinell Gymorth Genedlaethol y DU ar gyfer Bwydo ar y Fron, gwasanaethau cymorth gan gymheiriaid lleol neu eich darparwyr gofal iechyd lleol roi cymorth ac arweiniad i chi.
Os nad ydych chi’n bwydo ar y fron ar hyn o bryd, ond wedi gwneud hynny yn y gorffennol, gallech ystyried ceisio ailddechrau bwydo ar y fron. Ail-laetha yw’r enw ar hyn. Os bydd eich babi yn cydio yn y deth, gallwch ddechrau trwy geisio ei fwydo, gan gofio na fydd o bosib yn cael unrhyw laeth i ddechrau. Gallwch hefyd dynnu llaeth â llaw neu ddefnyddio pwmp. Gallai’r Llinell Gymorth ar gyfer Bwydo ar y Fron neu eich darparwyr gofal iechyd lleol roi cymorth ac arweiniad i chi. Os byddwch chi’n gwneud hyn, bydd angen parhau i roi llaeth fformiwla i’ch babi wrth i’ch cyflenwad ddychwelyd.
Mewn sefyllfaoedd o argyfwng lle nad yw rhieni yn gallu bwydo eu babi gyda’u llaeth y fron eu hunain ac nad oes modd iddyn nhw baratoi fformiwla yn ddiogel, neu fod yn well ganddyn nhw beidio â defnyddio fformiwla, mae rhai rhieni yn dewis defnyddio llaeth y fron gan rywun arall. Weithiau bydd hyn yn cael ei alw’n bwydo a rennir neu rannu llaeth yn anffurfiol.
Mae fformiwla cyntaf babanod yn addas i fabanod hyd at 12 mis; does dim angen newid i laeth dilynol. Mae’r GIG yn nodi nad yw newid i laeth dilynol yn cynnig unrhyw fudd i’ch babi.
Mewn argyfwng, fformiwla hylif parod yw’r opsiwn mwyaf diogel. Os ydych chi’n defnyddio hwn, yna eich prif bryder fydd sicrhau bod y botel rydych chi’n ei defnyddio i fwydo’ch babi yn ddi-haint. Gallwch hefyd brynu fformiwla parod i’w fwydo mewn poteli bach – mae’n ddrud iawn ond weithiau gallai fod yn ddefnyddiol.
Paratoi fformiwla – I baratoi llaeth fformiwla, mae angen dŵr glân arnoch, a’r gallu i’w ferwi, yn ddelfrydol. Pryd bynnag y bo’n bosibl dylech geisio paratoi’r llaeth fformiwla gan ddefnyddio canllawiau arferol y GIG – mae hyn yn arbennig o bwysig os cafodd eich babi ei eni’n gynnar neu os yw’n ifanc iawn neu’n sâl. Mae’n bwysig defnyddio dŵr sydd o leiaf 70°C gan nad yw fformiwla powdr yn ddi-haint.
Gallwch ddefnyddio dŵr tap â hysbysiad berwi ar gyfer paratoi fformiwla babanod, oni bai bod eich cwmni dŵr wedi eich cynghori fel arall. Os ydych chi’n cael eich cynghori nad yw’ch dŵr tap yn ddiogel i’w ddefnyddio neu os yw’ch cyflenwad dŵr wedi’i ddiffodd, gallwch ferwi dŵr potel i baratoi fformiwla. Mae angen i ddŵr potel fod â llai na 200mg y litr o sodiwm (Na), a llai na 250mg y litr o sylffad (SO4), er mwyn bod yn ddiogel i’w ddefnyddio ar gyfer fformiwla. Gwiriwch label y botel ddŵr cyn ei defnyddio.
Mewn argyfwng, efallai na fyddwch chi’n gallu dod o hyd i’ch brand arferol o fformiwla. Mae rhieni yn aml yn poeni y gall newid fformiwla achosi problemau, ond does dim unrhyw dystiolaeth bod newid fformiwla yn gwneud unrhyw les na niwed. Mae gan bob fformiwla babanod yn y DU yr un cyfansoddiad yn y bôn. Mae hefyd yn ddiogel rhoi fformiwla cam cyntaf i fabi dros chwe mis – mae’n addas ar gyfer babi hyd at 12 mis oed, a does dim angen newid i laeth dilynol.
Os na allwch chi ferwi dŵr yn eich cartref, gallech wneud y canlynol:
- Defnyddio fformiwla hylif parod i fwydo.
- Berwi dŵr yn nhŷ ffrind neu aelod o’r teulu sy’n byw gerllaw, os yn bosibl, gan wneud poteli ymlaen llaw neu gludo’r dŵr adref mewn fflasg a fydd yn cadw’r dŵr uwchlaw 70°C nes i chi ei ddefnyddio.
- Paratoi llaeth fformiwla gan ddefnyddio dŵr berw sydd wedi oeri neu ddŵr glân ar dymheredd ystafell. Dim ond os nad oes opsiwn arall ar gael, a hynny am yr amser byrraf posibl, y dylid gwneud hyn.
Mae canllawiau’r GIG ar gael yma os na allwch chi ddilyn y canllawiau arferol wrth baratoi poteli.
Os mai dim ond llaeth a dynnwyd o’r fron rydych chi ei ddefnyddio ar hyn o bryd, gallai hyn fod yn fwy cymhleth mewn argyfwng. Os yw’n opsiwn i chi, beth am geisio bwydo’ch babi yn uniongyrchol ar y fron, a allai fod yn haws. Os ydych chi eisiau cymorth i bontio o laeth a dynnwyd o’r fron yn unig, i fwydo ar y fron, holwch eich bydwraig neu’ch Ymwelydd Iechyd, gwasanaeth cymorth gan gymheiriaid lleol neu’r Llinell Gymorth ar gyfer Bwydo ar y Fron.
Os yw’ch trydan wedi’i ddiffodd, efallai y bydd angen i chi ystyried tynnu llaeth â llaw, neu ddefnyddio pwmp llaw (pwmp y fron nad oes angen unrhyw bŵer iddo weithio). Mae llaeth ffres a dynnwyd o’r fron yn ddiogel ar dymheredd ystafell am hyd at 6 awr, felly gallwch dynnu llaeth o’ch bron a’i roi i’ch babi heb fod angen oergell. Unwaith y bydd eich babi wedi yfed o botel neu gwpan, dim ond am awr arall y gellir cadw a defnyddio’r llaeth hwnnw. Gweler yr adran ar sterileiddio pympiau a photeli am y manylion yn llawn.
Os na allwch chi sterileiddio’ch pwmp neu’ch poteli yna gallech dynnu llaeth o’r fron â llaw a defnyddio cwpan i fwydo gan ddefnyddio cwpanau tafladwy untro. Yn ddelfrydol, dylai’r cwpanau hyn fod yn newydd sbon ac mewn pecyn wedi’i selio. Dim ond unwaith y dylid eu defnyddio.
Os ydych chi mewn canolfan orffwys neu loches dros dro, dywedwch wrth staff eich bod yn tynnu llaeth o’r fron a bod angen ystafell neu fan preifat arnoch i wneud hynny. Gallwch hefyd ofyn am le mewn oergell neu rewgell a allai fod ar gael i chi storio eich llaeth a dynnwyd o’r fron.
Os bydd digwyddiad yn tarfu ar eich cyflenwad dŵr neu drydan, efallai y bydd yn rhaid i chi ystyried ffyrdd gwahanol o sterileiddio eich offer bwydo neu bwmp y fron. Bydd y dull mwyaf addas yn dibynnu ar y sefyllfa a pha offer sydd gennych chi gartref. Mae’r opsiynau gwahanol yn cynnwys sterileiddio mewn microdon neu â stêm (os oes gennych bŵer), sterileiddio dŵr oer neu ddŵr berw. Mae canllawiau’r GIG ar y dulliau gwahanol o sterileiddio poteli ar gael yma.
Mae modd defnyddio dŵr â hysbysiad berwi fel dŵr tap arferol ar ôl ei ferwi. Os yw’ch dŵr tap yn anniogel neu ddim ar gael, yna gallwch ddefnyddio dŵr potel ar gyfer sterileiddio dŵr oer, dŵr berw neu sterileiddio stêm neu ficrodon. Bydd angen digon o ddŵr arnoch i olchi’r poteli cyn eu sterileiddio hefyd (ac i’w rinsio wedyn yn achos sterileiddio dŵr oer). Does dim rhaid i unrhyw ddŵr potel rydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer sterileiddio fod yn ddiogel ar gyfer paratoi fformiwla, gan na fydd eich babi yn yfed y dŵr hwnnw. Mae hyn yn golygu nad yw lefelau sodiwm neu sylffad yn y dŵr potel yn bwysig.
Os na allwch chi olchi a sterileiddio poteli, un opsiwn yw bwydo trwy gwpan gan ddefnyddio cwpanau tafladwy, er enghraifft cwpanau coffi untro newydd. Dilynwch ganllawiau arferol y GIG ar gyfer paratoi llaeth fformiwla os oes modd, a defnyddiwch gynhwysydd mesur gwrth-wres i fesur y dŵr poeth yn ofalus cyn cymysgu â’r powdr fformiwla yn y cwpan tafladwy. Dim ond unwaith y dylid defnyddio pob cwpan.
Os ydych chi’n gorfod gadael rhywle mewn argyfwng, neu fod angen i chi gysgodi a pheidio â gadael eich tŷ am ychydig ddyddiau, gall fod yn ddefnyddiol meddwl am y cyflenwadau eraill sydd eu hangen arnoch, os oes gennych fabi neu blentyn ifanc. Gall dillad sbâr, amlhaenog i gadw’n gynnes neu’n oer, dillad gwely, llyfrau a theganau, i gyd helpu i wneud pethau fymryn yn haws pan fyddwch mewn sefyllfa anodd. Efallai y bydd angen pram neu sedd car arnoch i gludo’ch babi. Hefyd, gallech ystyried sling neu gludwr babi i gadw’ch babi yn agos.
Byddai’n ddefnyddiol meddwl am ble all eich babi gysgu mewn argyfwng hefyd. Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ystyried canllawiau cwsg diogel mewn sefyllfaoedd o argyfwng, yn eich cartref ac mewn lleoliadau dros dro fel canolfannau gorffwys neu westai. Mae canllawiau cyffredinol am gwsg diogel ar gael gan y GIG yma, a chan lywodraeth yr Alban yma.
Hefyd, gwnewch yn siŵr bod gennych becyn cymorth cyntaf babi neu gyffredinol gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau presgripsiwn sydd eu hangen ar eich babi a digon o glytiau neu gewynnau, weips, bagiau cewynnau a hylif diheintio dwylo a fydd yn para am ychydig ddyddiau. Gallai weips gwrthfacterol fod yn ddefnyddiol ar gyfer glanhau arwynebau cyn paratoi fformiwla fabanod neu ar ôl newid cewynnau, hefyd.
Gallai’r rhestr wirio hon eich helpu i feddwl am yr hyn sydd angen ei baratoi a meddwl amdano pe bai argyfwng yn codi.
