• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Accreditations and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
  • Feeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Using infant formula to feed your baby
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference 2025
    • AGM
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
    • Legacy Gifting
Home » Gwybodaeth am Fwydo » Parhau â’r daith bwydo ar y fron » Tynnu llaeth y fron a’i storio

Tynnu llaeth y fron a’i storio

Read this page in English

Mae’r dudalen hon yn rhoi rhai awgrymiadau i chi ar sut i dynnu a storio eich llaeth y fron. Hefyd, mae’n ateb rhai cwestiynau cyffredin am y pwnc hwn.

Efallai eich bod chi’n ystyried dychwelyd i’r gwaith, i astudio, neu’n bwriadu cael noson allan. Gall hefyd helpu i leddfu pwysau o ddwythell sydd wedi’i blocio neu fastitis. Gall tynnu ychydig bach o golostrwm cyn i’ch babi gael ei eni hefyd helpu i roi llaeth ychwanegol i’ch babi yn y dyddiau cyntaf.

Hefyd, gweler ein taflen y gellir ei lawrlwytho ar Tynnu a Storio Llaeth y Fron.

Os byddwch chi’n tynnu llaeth yn unig (yn bwydo â llaeth y fron sydd wedi’i dynnu yn unig), am ychydig ddyddiau neu fwy, mae gwybodaeth am hyn ar gael yn ein blog.

Nodyn: Os yw eich babi wedi bod yn sâl neu os cafodd ei eni yn gynamserol, dylech drafod y wybodaeth hon gyda’ch gweithiwr iechyd proffesiynol er mwyn cadarnhau bod yr amseroedd storio yn berthnasol. Mae hyn yn bwysig iawn os ydych chi’n dod â’ch colostrwm neu’ch llaeth i’r ysbyty ar gyfer eich babi.

Eich llaeth y fron

  • Gallwch dynnu eich llaeth y fron â llaw, pwmp llaw neu bwmp trydan. Unwaith rydych chi wedi dysgu sut i dynnu llaeth â llaw, mae’n broses hawdd nad oes angen llawer o offer ar ei chyfer.
  • Mae llaeth y fron yn cynnwys cynhwysion gwrth-heintus sy’n cyfyngu ar dwf bacteria diangen.
  • Rhaid trin a storio’r llaeth yn ofalus er mwyn atal bacteria diangen rhag mynd i mewn i’ch llaeth a dechrau tyfu.
  • Er mwyn sicrhau bod ansawdd llaeth y fron yn uchel, dylid ei storio mewn oergell ar dymheredd o 4°C neu is os yn bosibl. Noder: mae tymheredd rhai oergelloedd yn uwch (5-10°C) – os nad ydych chi’n gwybod tymheredd eich oergell, dylech ragdybio ei bod yn gweithredu ar y tymheredd uwch hwn.
  • Mae modd rhewi llaeth ar y fron, sy’n effeithio ar rai (ond nid pob un) o faetholion a chynhwysion gwrth-heintus llaeth y fron.

Tynnu llaeth y fron

Pan fyddwch chi’n dechrau tynnu llaeth y fron am y tro cyntaf, mae’n bosibl y byddwch ond yn cael ychydig ddiferion o laeth. Fel sy’n wir am fwydo ar y fron, mwya’n byd fyddwch chi’n ymarfer, hawsa’n byd fydd o. Mae’n bosibl y bydd tynnu llaeth ar adeg wahanol o’r dydd yn gweithio’n well i chi.

Pryd fydd angen i mi dynnu llaeth?

  • Cyn i’ch babi gael ei eni – efallai y cewch chi wybod y bydd angen llaeth ychwanegol ar eich babi pan fydd yn cael ei eni. Gallwch dynnu a storio’ch llaeth cyntaf (colostrwm) yn ystod 36 a 37 wythnos eich beichiogrwydd. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma.
  • Yn y dyddiau cyntaf – os yw eich babi yn gysglyd, neu er mwyn ei helpu i gydio yn y deth a bwydo.

Ar gyfer y ddau gam hyn, bydd eich bydwraig yn rhoi chwistrelli bach i’r geg i chi er mwyn casglu’ch llaeth. Yn y dechrau, chwistrelli 1ml fyddan nhw fel arfer.

Defnyddiwch y syniadau yn y daflen hon i ddarganfod beth sy’n gweithio i chi. Fel arfer, mae colostrwm yn ymddangos ar ffurf defnynnau bach ac mae’n gallu bod yn ludiog – gallai cael help llaw i gasglu’r diferion hyn yn y chwistrell fod yn ddefnyddiol.

  • Dylech geisio tynnu llaeth ddwywaith y dydd o 36-37 wythnos am ddim mwy na 10 munud, gan ei rewi’r un diwrnod.
  • Ar ôl i’ch babi gael ei eni, dylech dynnu llaeth yn ôl yr angen gyda’r nod o ysgogi’ch bronnau o leiaf 8 gwaith y dydd gan gynnwys unwaith dros nos trwy fwydo ar y fron yn uniongyrchol neu dynnu llaeth gan y bydd hyn yn cynyddu eich cyflenwad llaeth i ddiwallu anghenion eich babi. Hefyd, gall eich helpu i deimlo’n fwy cyfforddus.

Tynnu Llaeth â Llaw

Unwaith y bydd eich llaeth yn llifo, bydd angen cynhwysydd gyda cheg lydan arnoch fel pot neu gynhwysydd plastig di-haint sydd wedi’i lanhau’n dda a’i sgaldio â dŵr berwedig – mae jwg yn ddelfrydol – felly gwnewch yn siŵr fod un wrth law cyn i chi ddechrau.

Cofiwch olchi’ch dwylo yn gyntaf.

Dewch o hyd i rywle cyfforddus i ymlacio. Er mwyn helpu’ch llaeth i lifo (neu i ‘ollwng’) gallech wneud un o’r canlynol:

  • Ymlacio trwy yfed diod boeth, gwrando ar gerddoriaeth neu wylio’r teledu.
  • Gosod eich babi yn agos atoch, neu edrych ar lun ohono, ar ddilledyn neu ar degan i’ch atgoffa o’ch babi.
  • Cynhesu eich bronnau mewn bath, cawod neu ddefnyddio gwlanenni cynnes ac ymarfer tynnu llaeth.
  • Rhoi cynnig ar dylino’ch bron gyfan yn ysgafn, gan weithio o’r tu allan tuag at eich teth.

Cymerwch ofal i beidio â llusgo’ch croen

  • Defnyddiwch flaenau eich bysedd i anwesu’ch bron
  • Defnyddiwch eich migyrnau (knuckles) i rolio dros eich bron
  • Rhowch gynnig ar ddefnyddio symudiadau cylchol

Gwnewch siâp ‘C’ trwy osod eich bawd uwchben eich bron a’ch bysedd oddi tani 2-3 centimetr yn ôl o’ch teth.

Pwyswch eich bawd a’ch bysedd yn ysgafn yn erbyn ei gilydd, tynnwch eich bysedd yn ôl ac ailadroddwch mewn symudiadau rhythmig.

Weithiau gall pwyso i mewn tuag at wal eich brest wrth i chi wasgu helpu. Efallai y bydd angen i chi arbrofi o ran pa mor bell yn ôl o’ch teth y bydd angen i chi wasgu – mae pawb ychydig yn wahanol.

Pan fydd llif y llaeth yn arafu, dylech newid safle eich bysedd a’ch bawd (fel pe baech chi’n eu symud o amgylch wyneb cloc), cyn tynnu llaeth o ran arall o’ch bron.

Ceisiwch dynnu llaeth o bob rhan o’ch bron gan weithio a symud rhwng un bron a’r llall.

Am syniadau pellach, gwyliwch y fideo hwn ar dynnu llaeth â llaw gan UNICEF.

Mae hylendid da yn bwysig iawn:

  • Golchwch eich dwylo bob amser cyn tynnu a thrin llaeth y fron a gofynnwch i eraill sy’n rhoi llaeth y fron sydd wedi’i dynnu i wneud yr un peth.
  • Defnyddiwch gynhwysydd di-haint gyda chaead, nid y jwg casglu, i storio’ch llaeth y fron. Gallwch brynu cynwysyddion tafladwy. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio bagiau plastig sy’n gallu tyllu’n hawdd.
  • Ceisiwch ddefnyddio cynhwysydd storio gwahanol bob tro y byddwch chi’n casglu llaeth. Os oes angen, gellir oeri llaeth sydd newydd ei gasglu a’i ychwanegu at laeth sydd wedi’i storio yn flaenorol ar yr un diwrnod yn unig.
  • Rhowch label ar y cynwysyddion storio neu’r chwistrellau sy’n nodi eich enw, llaeth y fron, yr amser a’r dyddiad a’u rhoi mewn bag neu flwch glân wedi’i selio cyn eu storio. Ysgrifennwch eich enw a’r dyddiad ar y bag hefyd.
  • Storiwch eich llaeth y fron yn yr oergell neu’r rhewgell cyn gynted â phosibl.
  • Cadwch y llaeth yn bell i ffwrdd o gynhyrchion cig, wyau neu unrhyw fwydydd heb eu coginio. Storiwch y llaeth yng nghefn yr oergell ac nid yn y drws.

Storio llaeth y fron sydd wedi’i dynnu

Am faint o amser y galla i gadw llaeth y fron ar dymheredd ystafell os nad oes oergell ar gael?

Os yw llaeth eich bron wedi’i dynnu’n ffres, bydd yn cadw am 6 awr heb ei roi yn yr oergell, naill ai yn y cartref neu’r tu allan i’r cartref. Gweler yr adran ‘teithio gyda llaeth y fron’ isod am ragor o fanylion.

Os yw eich babi wedi bod yn sâl neu wedi’i eni’n gynamserol, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr iechyd proffesiynol i gadarnhau bod yr un amseroedd storio yn berthnasol.

Am faint o amser alla i storio llaeth y fron yn yr oergell?

Gallwch storio llaeth y fron am hyd at 3 diwrnod os nad ydych chi’n gwybod  tymheredd yr oergell, neu os yw’r tymheredd rhwng 5°C a 10°C.

Gallwch storio llaeth y fron am 5 diwrnod mewn oergell sydd â thymheredd o 4°C neu is.*
*Mae un astudiaeth wedi dangos bod modd defnyddio llaeth y fron ffres am hyd at 8 diwrnod pan fydd tymheredd yr oergell yn cael ei gadw’n rheolaidd ar 4°C neu is.

Os yw tymheredd yr oergell yn codi’n uwch na 4°C yn ystod yr amser hwn, dylech ddefnyddio eich llaeth o fewn 6 awr neu ei daflu.

Os na allwch chi ddefnyddio oergell ar dymheredd o 4°C, rhowch gynnig ar ddefnyddio bag neu focs oeri sy’n cynnwys pecynnau iâ wedi’u rhewi’n solet (gan eu newid bob 24 awr). Cofiwch sicrhau nad yw eich llaeth yn dod i gysylltiad uniongyrchol â’r pecynnau iâ neu fe allai rewi – gallwch lapio’r pecynnau iâ mewn llieiniau cegin. Gallwch ddefnyddio’r bag i gludo’r llaeth hefyd.

Isa’n byd fydd y tymheredd storio, hira’n byd y bydd modd storio’r llaeth y fron sydd wedi’i dynnu. Mae’r tymheredd storio a nodir yma wedi’i bennu’n ochelgar er mwyn sicrhau bod eich llaeth yn parhau’n ddiogel i’ch babi.

Os hoffech storio’ch llaeth y fron am fwy na 5 diwrnod, dylech ei rewi cyn gynted â phosibl ar ôl ei dynnu.

Os ydych chi’n mynd â cholostrwm neu laeth i’r ysbyty, cofiwch gydymffurfio ag amseroedd storio a chludo’r ysbyty.

COFIWCH: Po fwyaf y byddwch chi’n agor drws yr oergell, po fwyaf tebygol yw hi y bydd y tymheredd yn codi. Dylech geisio gwirio tymheredd pob oergell (neu fag oeri) rydych chi’n eu defnyddio i storio’ch llaeth bob tro y byddwch chi’n eu defnyddio. Os nad oes gan yr oergell thermomedr, gallwch brynu thermomedr oergell o siop offer cegin.

Am faint o amser alla i storio llaeth y fron yn y rhewgell?

Gallwch storio llaeth y fron mewn rhewgell ar dymheredd o -18°C am hyd at chwe mis.

Gallwch storio llaeth y fron ym mlwch rhewi’r oergell am bythefnos.

Storio llaeth y fron yn ddiogel yn y cartref

Nod y tabl hwn yw darparu canllaw ar ba mor hir y gallwch chi storio llaeth y fron ar gyfer babi cyfnod llawn heb unrhyw bryderon iechyd ychwanegol.

Tabl Storio Diogel - Llaeth. Lle. Uchafswm Amser. Llaeth y fron ffres gan gynnwys colostrwm. Tymheredd yr ystafell. 6 awr. Oergell ar dymheredd o 5°C -10°C. 3 diwrnod. Oergell ar dymheredd o 4°C neu is. 5 diwrnod. Os yw'r tymheredd yn codi'n uwch na 4°C ar ôl 3 diwrnod, defnyddiwch y llaeth o fewn 6 awr. Llaeth y fron wedi'i rewi. Rhewgell ar dymheredd o -18°C neu is. 6 mis. Dadmer llaeth y fron. Dadmer yn yr oergell. Fel arfer mae'n cymryd 12 awr i ddadmer, a dylech ddefnyddio'r llaeth cyn gynted ag y mae wedi'i ddadmer yn llawn. Dadmer y tu allan i'r oergell. Dylech ddefnyddio'r llaeth cyn gynted ag y mae wedi'i ddadmer.

Gallwch gludo llaeth o fewn yr amseroedd storio diogel, ar yr amod eich bod yn cadw at y tymheredd storio. Nodwch fod yn rhaid defnyddio llaeth sydd wedi cael ei rewi ar unwaith pan fydd wedi’i ddadmer yn llawn.

Gallwch gludo llaeth ffres o fewn 24 awr, ar yr amod eich bod yn cadw at dymheredd yr oergell ac yn defnyddio blwch wedi’i inswleiddio a phecynnau iâ wedi’u rhewi’n solet, ac nad yw cyfanswm yr amseroedd storio a chludo yn fwy na’r amseroedd storio a argymhellir. Os nad oes unrhyw becynnau iâ yn cael eu defnyddio wrth gludo’r llaeth, dylech ei ddefnyddio o fewn 4 awr.

Pam mae’r argymhellion ar gyfer storio llaeth y fron sydd wedi’i dynnu yn amrywio?

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar waelod y dudalen hon.

Noder bod fersiynau blaenorol o’n taflen ar gael o hyd yn ein siop a bod y wybodaeth sy’n nodi’r uchod yn parhau i fod yn gywir.

Bwydo’r babi â llaeth y fron sydd wedi’i dynnu

Beth sy’n digwydd os nad yw fy mabi yn yfed holl gynnwys y botel? Alla i roi’r botel yn ôl yn yr oergell neu o’r neilltu am y tro a’i defnyddio eto?

Unwaith y bydd y babi wedi yfed o botel sy’n cynnwys llaeth sydd wedi’i dynnu, dylid defnyddio’r botel o fewn awr neu ei gwaredu. Er mwyn osgoi gwastraffu llaeth y fron sydd wedi’i dynnu, mae’n well cynnig ychydig o laeth ar y tro (e.e. 30ml) i’r babi nes eich bod chi’n gwybod ei batrwm bwydo. Gallwch wneud hyn trwy gadw’r rhan fwyaf ohono mewn un cynhwysydd, yn yr oergell, a’i ddefnyddio i ychwanegu at botel y babi ychydig ar y tro.

Dadmer llaeth y fron sydd wedi’i rewi

Yn ddelfrydol, dylech ddadmer llaeth y fron sydd wedi’i rewi yn yr oergell. Dylech ddefnyddio’r holl laeth hwn ar ôl ei ddadmer, sy’n cymryd tua 12 awr fel arfer. Os yw eich llaeth y fron wedi’i rewi o hyd ar ôl yr amser hwn neu os oes angen i chi ei ddefnyddio’n gyflym, gallwch geisio ei ddadmer trwy ddefnyddio dŵr rhedegog oer, yna cynnes. Defnyddiwch bapur cegin i sychu y tu allan i’r cynhwysydd cyn ei ddefnyddio, a defnyddiwch y llaeth ar unwaith. Os ydych chi’n sylwi’n rheolaidd bod eich llaeth wedi rhewi ar ôl 12 awr yn yr oergell, ceisiwch rewi meintiau llai o’r llaeth.

Am faint o amser alla i gadw llaeth y fron sydd wedi dadmer?

Dylech ddefnyddio llaeth y fron sydd wedi dadmer ar unwaith ar ôl iddo gael ei ddadmer yn llawn. Dylech gael gwared ar unrhyw laeth heb ei ddefnyddio.

Pam na alla i ddadmer llaeth y fron mewn popty microdon?

Ni ddylech ddadmer llaeth y fron mewn popty microdon gan nad yw’n cynhesu mewn ffordd gyson, a bydd yn dinistrio gwrthgyrff a maetholion. Hefyd, mae yna berygl y gallai’r babi gael ei sgaldio a byddai angen gadael y llaeth ar dymheredd ystafell cyn ei ddefnyddio.

Teithio gyda llaeth y fron sydd wedi’i dynnu

Sut ydw i’n dod â llaeth adref ar ôl i mi ei dynnu yn y gwaith neu yn rhywle arall?

Ceisiwch ddefnyddio bag oeri i gludo’r llaeth cyn ei roi yn yr oergell ar ôl cyrraedd adref.

Gallwch gludo llaeth y fron ffres o fewn 24 awr ar yr amod eich bod yn cadw at y tymheredd storio gan ddefnyddio blwch neu fag wedi’i inswleiddio a phecynnau iâ wedi’u rhewi’n solet, ac nad yw cyfanswm yr amseroedd storio a chludo yn fwy na’r amseroedd storio a argymhellir.

Gallwch ddefnyddio bag wedi’i inswleiddio’n dda gyda phecynnau iâ wedi’u rhewi’n solet i gadw llaeth y fron sydd wedi bod yn yr oergell yn oer (10°C neu is) am hyd at 24 awr. Rhag rhewi’r llaeth, dylech lapio’r pecynnau iâ mewn papur cegin yn gyntaf. Cofiwch sicrhau bod y llaeth hwn yn cael ei ddefnyddio o fewn yr amseroedd storio ar gyfer oergell a argymhellir (gweler uchod).

Ail-gynhesu llaeth y fron sydd wedi’i dynnu

Sut ydw i’n ail-gynhesu llaeth y fron sydd wedi’i dynnu?

Gallwch ddefnyddio llaeth y fron sydd wedi’i dynnu yn syth o’r oergell. Does dim angen cynhesu’r llaeth. Os hoffech gynhesu’r llaeth, rhowch y cynhwysydd (e.e. potel neu gwpan wedi’i selio) mewn dŵr cynnes er mwyn ei gynhesu tipyn bach. Peidiwch â chynhesu’r llaeth ormod.

Os oes arogl sur ar y llaeth PEIDIWCH Â’I DDEFNYDDIO.

Pan fydd y llaeth yn cael ei storio, mae’n bosibl y bydd yr hufen a’r llaeth yn gwahanu. Mae hyn yn normal. Dylech ysgwyd y cynhwysydd yn ysgafn i gymysgu’r llaeth cyn ei ddefnyddio.

Mae rhai babanod yn amharod i gymryd llaeth o botel, yn enwedig yn y dechrau. Ceisiwch gynnig llaeth o gwpan neu lwy i’r babi. Efallai y bydd y babi yn llai amharod i gymryd y llaeth pan fydd rhywun arall yn ei roi. Os yw eich babi yn gwrthod llaeth sydd wedi’i dynnu, peidiwch â phoeni am hynny – bydd eich babi yn gwneud i fyny am unrhyw sesiynau bwydo a gollwyd trwy fwydo ar y fron yn amlach neu’n hirach maes o law. Gweler hefyd wybodaeth ar y dudalen hon am roi potel i fabi am y tro cyntaf.

Dewis pwmp ar gyfer y fron

Mae dau gwmni yn y DU sy’n llogi pympiau ar gyfer y fron:

Ardo breast pumps

Medela breast pumps

Efallai y gall eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch cefnogwr bwydo ar y fron lleol roi gwybodaeth i chi am wasanaethau llogi pwmp yn eich ardal chi.

Dolenni defnyddiol

Human Milk Foundation

UKAMB (UK Milk Banks – gwybodaeth am roi neu dderbyn llaeth)

Milk Bank Scotland

Tynnu Llaeth Cynenedigol – gwybodaeth fanylach am hyn

Cyfeiriadau

(gwiriwyd y dolenni ym mis Mai 2023)

Cook, P. Food Standards Agency. MCN10. 2006 Handling and storage of expressed breastmilk pp1-12 https://www.nice.org.uk/guidance/ph11/documents/mcn-consultation-expert-report-handling-and-storage-of-expressed-breast-milk2

Eglash, A, Simon, L, and The Academy of Breastfeeding Medicine, ABM Clinical Protocol #8: Human Milk Storage Information for Home Use for Full-Term Infants, BREASTFEEDING MEDICINE Volume 12, Number 7, 2017 (c) Mary Ann Liebert, Inc. pp390-395 https://abm.memberclicks.net/assets/DOCUMENTS/PROTOCOLS/8-human-milk-storage-protocol-english.pdf See correction to freezer temp here: https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC6065517/

Forster, Della A et al. (2017) Advising women with diabetes in pregnancy to express breastmilk in late pregnancy (Diabetes and Antenatal Milk Expressing [DAME]): a multicentre, unblinded, randomised controlled trial. The Lancet, Volume 389, Issue 10085, 2204 – 2213 https://www.thelancet.com/journals/lancet/article/PIIS0140-6736(17)31373-9/ppt

Hands A. (2003) Safe storage of expressed breastmilk in the home. MIDIRS Midwifery Digest, vol 13, no 3.

Royle, J. Weaver, G. (2016) Guidelines for the Preparation and Handling of Expressed and Donor Breast Milk and Special Feeds for Infants and Children in Neonatal and Paediatric Health Care Settings. 2nd Ed. Section 6, p18-32

BDA Guidelines for the Preparation and Handling of Expressed and Donor Breast Milk and Specialist Feeds for Infants and Children in Neonatal and Paediatric Health Care Settings

PWYSIG: Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill am dynnu llaeth neu fwydo ar y fron, cysylltwch â’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd, neu’ch cefnogwr bwydo ar y fron am gymorth a chefnogaeth. Hefyd, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar 0300 100 0212, sydd ar gael 24/7 bob dydd o’r flwyddyn.

Adolygwyd a diweddarwyd y dudalen ym mis Tachwedd 2019

Amrywiadau yn yr Argymhellion ar gyfer Storio Llaeth y Fron sydd wedi’i Dynnu

Ysgrifennwyd gan Anabel Hands

Yn 2003, roedd y BfN yn ymwybodol o’r dryswch i famau yn sgil yr amrywiadau sylweddol yn yr argymhellion ar gyfer storio llaeth y fron wedi’i dynnu, a phenderfynodd gasglu’r holl wybodaeth a oedd ar gael mewn papurau ymchwil sylfaenol, a dogfennau canllaw cenedlaethol a lleol. Cyhoeddwyd y canfyddiadau hyn yn y MIDIRS Midwifery Digest 1. Gwelwyd yn glir yn yr astudiaeth fod y tymheredd storio yn pennu’r amser storio. Roedd yr amseroedd storio a argymhellir a nodwyd yn ein taflen Tynnu a Storio Llaeth y Fron yn seiliedig ar y papurau ymchwil sylfaenol a drafodwyd yn yr astudiaeth. Mae’r ddolen i’r daflen hon wedi’i chynnwys isod 2.

Anfonwyd ein cyhoeddiad at sefydliadau bwydo ar y fron eraill, gan gynnwys yr Adran Iechyd, er mwyn hwyluso cytundeb ar argymhellion storio gan ddefnyddio canlyniadau ymchwil sylfaenol. Gofynnodd yr Adran Iechyd i’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) adolygu canllawiau storio llaeth y fron, a newidiwyd argymhellion storio swyddogol o 24 awr yn yr oergell i hyd at 5 diwrnod ar dymheredd o 4°C neu is, pythefnos ym mlwch iâ’r oergell a hyd at chwe mis mewn rhewgell (Mawrth 2008) 3. Roedd NICE hefyd yn cydnabod bod cadw’r llaeth mewn oergell yn cadw priodweddau unigryw llaeth y fron yn fwy effeithiol na’i rewi. Aeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ati i fabwysiadu’r canllawiau hyn, ac maen nhw wedi’u cynnwys yn y daflen ‘Off to the best start’ (diweddarwyd ym mis Tachwedd 2009) sydd ar gael yn y ddolen isod 4.

Er bod argymhellion NICE a’r GIG ychydig yn wahanol i ganllawiau’r BfN, roedden nhw’n cymryd i ystyriaeth bod tymheredd oergelloedd yn gallu amrywio a bod amser storio 5 diwrnod yn cwmpasu’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd, gan gynnwys yr angen i ddefnyddio llaeth a dynnwyd ar ddiwedd wythnos waith, ddechrau’r wythnos ganlynol. Mae rhai unedau newyddenedigol prysur mewn ysbytai yn cyfyngu ar faint o amser y mae llaeth yn cael ei gadw mewn oergell fel mesur rhagofalus ychwanegol; maen nhw’n gwneud hyn oherwydd bod yr oergelloedd yn cael eu hagor yn aml iawn, sy’n gallu effeithio ar y tymheredd storio 5.

Mae sefydliadau bwydo ar y fron eraill, megis La Leche League, wedi diweddaru eu hargymhellion cyhoeddedig er mwyn gwahaniaethu rhwng cyfnod storio derbyniol (8 diwrnod yn yr oergell) a chyfnod storio delfrydol (72 awr yn yr oergell), gan gydnabod hefyd fod llaeth y fron wedi’i dynnu a’i gadw mewn oergell yn well na llaeth y fron sydd wedi’i rewi (Mawrth 2012). Gweler y ddolen isod am ragor o wybodaeth. Mae’r argymhellion hyn yn cyd-fynd â’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn nhaflen BfN 6.

Mae’n bwysig bod mamau ac unigolion sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron yn nodi bod taflenni ac argymhellion sy’n anghyson â’r ymchwil gyhoeddedig yn parhau i fod ar gael, yn enwedig ar y rhyngrwyd, ac y gall gwledydd y tu allan i’r DU argymell canllawiau gwahanol.

Noder bod fersiynau blaenorol o’n taflen ar gael o hyd yn ein siop a bod y wybodaeth sy’n nodi’r uchod yn parhau i fod yn gywir.

Cyfeiriadau

  1. HANDS A. Safe storage of expressed breast milk in the home. MIDIRS Midwifery Digest, vol 13, no 3, Sep 2003, pp 378 & 385.
  2. BfN (Breastfeeding Network) leaflet. Expressing and storing breast milk. September 2004.
  3. National Institute for Health and Clinical Excellence (NICE) Public health guidance 11: Maternal and child nutrition. March 2008.
  4. Department of Health. Off to the best start. Crown Copyright 2007 278957 5p 200k Nov 09 (BEL) 299223.
  5. MCN consultation: Expert report & Handling and storage of expressed breast milk. 05 April 2007.
  6. La Leche League International. “The Breastfeeding Answer Book” Updated March 2012.

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2026 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up