• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Accreditations and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
  • Feeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Using infant formula to feed your baby
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference 2025
    • AGM
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
    • Legacy Gifting
Home » Gwybodaeth am Fwydo » Parhau â’r daith bwydo ar y fron » Dychwelyd i’r gwaith neu i astudio

Dychwelyd i’r gwaith neu i astudio

Read this page in English

Mae rhai adnoddau allanol defnyddiol am ddychwelyd i’r gwaith wrth fwydo ar y fron wedi’u rhestru isod.

Mae Maternity Action yn gweithio i roi terfyn ar anghydraddoldeb a hyrwyddo iechyd a lles pob menyw feichiog, eu partneriaid a’u plant, o’r cyfnod cyn beichiogi hyd at flynyddoedd cynnar y plentyn. Mae gan y sefydliad lawer o wybodaeth benodol am eich hawliau os ydych chi eisiau parhau i fwydo ar y fron pan fyddwch chi’n dychwelyd i’r gwaith. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu gwybodaeth am fwydo ar y fron a dychwelyd i’r gwaith ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr.

Elusen yw Working Families sy’n helpu rhieni a gofalwyr sy’n gweithio a’u cyflogwyr i ddod o hyd i gydbwysedd gwell rhwng cyfrifoldebau yn y cartref a’r gwaith. Mae gan yr elusen wybodaeth ddefnyddiol am ddychwelyd i’r gwaith a bwydo ar y fron.

Hefyd, mae gan NHS.uk rywfaint o wybodaeth am fwydo ar y fron a dychwelyd i’r gwaith ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr.

Gallwch ffonio llinellau cymorth Working Families a Maternity Action os hoffech sgwrsio â rhywun am eich hawliau wrth ddychwelyd i’r gwaith. Hefyd, bydd gwirfoddolwyr y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron (0300 100 0212) yn gallu rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i chi am yr agwedd ymarferol ar barhau i fwydo ar y fron neu ddarparu llaeth y fron i’ch babi ar ôl i chi ddychwelyd i’r gwaith.

Os ydych chi’n gyflogwr, mae rhagor o wybodaeth am gynnig amgylchedd gwaith sy’n croesawu bwydo ar y fron ar gael yma ynghyd â chyfle i gofrestru ar gyfer ein cynllun am ddim, Croesawu Bwydo ar y Fron.

Dydy’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron ddim yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau hyn ac nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo’r farn sy’n cael ei mynegi ynddyn nhw. Dydy’r ffaith bod y gwefannau hyn wedi’u rhestru ddim yn golygu ein bod yn eu cymeradwyo. Ni allwn warantu y bydd y gwefannau hyn ar gael drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth ynghylch a ydyn nhw ar gael ai peidio.

Gwiriwyd y dolenni ym mis Awst 2024

Gallwch ddarllen rhai hanesion personol am ddychwelyd i’r gwaith wrth fwydo ar y fron isod:

Fe wnaeth Barbara ddychwelyd i’w gwaith fel athrawes pan oedd ei babi yn chwe mis oed. Yn sydyn bu’n rhaid iddi benderfynu beth i’w adael i’r babi pan oedd hi yn y gwaith. Sylwodd Barbara fod ei babi wedi arwain y ffordd trwy addasu i drefn y feithrinfa a bwydo mwy ar y fron yn y nos ac ar benwythnosau. Dilynwch y ddolen hon i ddarllen hanes Barbara a’i merch Rebecca sydd bellach yn 2½ oed ac yn parhau i gael ei bwydo ar y fron.

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2026 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up