Mae’r mwyafrif helaeth o famau a rhieni geni YN GALLU bwydo ar y fron, cyn belled â’u bod yn cael cymorth medrus pan fydd ei angen arnyn nhw. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ymweld â grŵp lleol ar gyfer bwydo ar y fron a sgwrsio â mamau a rhieni eraill sy’n bwydo ar y fron neu gyda rhywun sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron i drafod am unrhyw bryderon sydd gennych chi cyn i’ch baban gael ei eni. Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am ein grwpiau lleol yma. Gallwch chi sgwrsio ag un o’r criw sy’n cynnig cefnogaeth ar y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron hefyd.
Mae gan ganran fach o famau a rhieni geni gyflyrau a allai olygu nad ydyn nhw’n cynhyrchu digon o laeth i fwydo ar y fron yn unig, er enghraifft llawdriniaeth ar y fron yn y gorffennol, cyflyrau thyroid, syndrom ofarïau polysystig neu feinwe chwarennol annigonol (a elwir hefyd yn hypoplasia y fron). Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn wir. Os ydych chi’n poeni am hyn, siaradwch â’ch meddyg, eich bydwraig neu rywun sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron.
Efallai y byddwch chi’n gallu rhoi cynllun ar waith i’ch helpu i baratoi ar gyfer heriau posibl pan fydd eich baban yn cyrraedd, ac efallai y gallwch chi barhau i gyrraedd eich nodau o ran bwydo ar y fron gyda chefnogaeth briodol. Fyddwch chi byth yn gwybod heb roi cynnig arni!
Os nad ydych chi’n gallu bwydo ar y fron yn unig, gallwch chi barhau i fwynhau perthynas fwydo arbennig gyda’ch baban. Efallai y byddwch chi’n dal i allu bwydo ar y fron ac ategu hynny gyda llaeth gan roddwr neu fformiwla babanod. Gelwir hyn weithiau yn fwydo cymysg neu gyfunol. Gallwch chi ddarllen mwy amdano yn yr erthygl hon gan La Leche League.
Os dydych chi ddim yn gallu bwydo ar y fron am resymau meddygol (er enghraifft, os ydych chi’n cael cemotherapi), efallai y byddwch chi’n gallu cael llaeth y fron i’ch baban gan roddwr llaeth. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael gan y sefydliadau hyn:
UK Association of Milk Banks (UKAMB)
Os ydych chi’n gallu cynhyrchu llaeth y fron, ond yn methu â bwydo eich baban ar y fron, efallai y byddwch chi’n dal i allu tynnu eich llaeth eich hun a’i fwydo i’ch baban. Bydd rhywun sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am sut i wneud hyn yn effeithiol. Gallwch chi ddarllen mwy am dynnu llaeth a storio llaeth y fron yma.
Os ydych chi’n bwydo eich baban gan ddefnyddio dim ond llaeth y fron sydd wedi ei dynnu, gelwir hyn weithiau yn tynnu llaeth yn unig. Gallwch chi ddarllen mwy am hyn yn ein postiad blog ar dynnu llaeth yn unig.
Os yw eich baban yn cael ei eni yn gynamserol neu’n sâl, gall bwydo ar y fron fod yn fwy heriol, ond mae’n parhau i fod yn bosibl gyda chefnogaeth fedrus a bydd llaeth y fron yn helpu eich baban i dyfu a datblygu. Gallwch chi ymweld â’r tudalennau hyn i gael rhagor o wybodaeth:
Bliss: For babies born premature or sick
Os ydych chi’n cael trafferth bwydo ar y fron, gellir gwella neu ddatrys y rhan fwyaf o broblemau gyda chefnogaeth briodol. Gallwch chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron neu siarad â’ch bydwraig neu eich ymwelydd iechyd, edrych ar ein gwasanaethau cynnig cefnogaeth, neu gysylltu ag elusennau cenedlaethol eraill ar gyfer bwydo ar y fron (Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron, La Leche League, NCT) i weld a ydyn nhw’n cynnig cefnogaeth yn lleol.
Os ydych chi angen neu’n dewis defnyddio fformiwla babanod…
Efallai y bydd adegau pan nad yw hi’n bosibl i’ch baban dderbyn llaeth y fron neu efallai nad dyma’r opsiwn iawn i chi. Os yw hyn yn wir, y dewis arall gorau yw fformiwla babanod. Dyma ambell beth pwysig i’w ystyried:
- Pa fath o fformiwla i’w ddewis.
- Bwydo eich baban pan fydd yn dangos arwyddion o fod eisiau bwyd, yn hytrach nag yn ôl y cloc.
- Sut i lanhau, rinsio a sterileiddio’r holl offer bwydo.
- Sut i baratoi llaeth, gan ddefnyddio dŵr wedi’i ferwi’n ffres.
Mae’r holl wybodaeth hon ar gael yn nhaflen UNICEF Guide to Bottlefeeding. Bydd yn rhoi gwybodaeth i chi hefyd am gyfuno bwydo fformiwla â bwydo ar y fron ac ar ailddechrau bwydo ar y fron os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech chi ei ystyried.
Mae gwybodaeth annibynnol ar gael am fformiwla babanod gan First Steps Nutrition.