Cronfa llaeth y fron yn y DU
Mae’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron yn cynorthwyo Cymdeithas Cronfa Llaeth y Deyrnas Unedig i hyrwyddo a chefnogi’r broses atebol o ddarparu llaeth y fron gan roddwyr – llaeth sy’n ddiogel ac wedi’i sgrinio – ar gyfer babanod sâl a chynamserol. Mae rhagor o wybodaeth am sut i roi a derbyn llaeth rhoddwr ar gael ar wefan y Gymdeithas.
Ym mis Chwefror 2010, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ganllawiau newydd ar gronfeydd llaeth y fron rhoddwyr: gweithredu gwasanaethau cronfeydd llaeth y fron rhoddwyr.
