Yn y dechrau, mae gan fabanod atgyrch sugno cryf sy’n golygu eu bod yn sugno teth yn hawdd fel arfer.
Ar ôl ychydig wythnosau, mae’r atgyrch hwn yn pylu, ac wrth gyflwyno potel gall gymryd amser i’ch babi ddod i arfer â sugno ar deth, hyd yn oed os yw wedi cael poteli yn y gorffennol.
Yn achos rhai babanod, bydd dod i arfer â theimlad teth y botel wrth roi cynnig arni yn y dechrau yn ddigon cyn iddyn nhw geisio llyncu’r llaeth. Efallai y byddwch chi eisiau cyflymu’r broses, ond os byddwch chi’n gwthio’r peth yn rhy galed, neu’n gobeithio y bydd chwant bwyd yn cymell eich babi, fe allai wrthod y botel yn gyfan gwbl. Bydd meddwl am y peth o safbwynt eich babi yn eich helpu gyda hyn.
Mae angen iddo deimlo ei fod mewn rheolaeth ac nad oes neb yn ei ruthro. Cofiwch am y ffordd rydych chi’n hoffi dysgu sgiliau newydd – sef pan na fyddwch chi’n flinedig nac yn llwglyd!
Weithiau, efallai y bydd yn well gan fabanod, o tua 3 mis oed ymlaen, ddod i arfer â derbyn y botel fel rhywbeth i chwarae gydag ef, er enghraifft, yn y bath. Does dim angen ychwanegu teth nac unrhyw hylif ar y pwynt hwn. Trwy wneud hyn, bydd y babi yn ymgyfarwyddo â’r botel, heb unrhyw ddisgwyliad iddo yfed ohoni.
Pan fyddwch chi’n dechrau ychwanegu llaeth, dechreuwch yn araf gan sicrhau bod tymheredd y deth yr un fath â thymheredd yr ystafell.
Dyma rai syniadau gan rieni eraill:
- Peidiwch â rhuthro a chofiwch gymryd un cam ar y tro
- Cadwch y botel yn wastad (llorweddol) fel bod llif y llaeth yn cael ei reoli gan eich babi
- Yn aml mae babanod yn hoffi copïo plant eraill, felly gallai gwylio babanod eraill yn yfed o botel helpu eich babi. Gallech chi esgus yfed hefyd, os nad oes neb arall i’w gopïo.
- Lapiwch y botel mewn darn o’ch dillad
- Cerddwch o gwmpas yr ystafell yn cwtsio eich babi
- Gallai eich partner/mam gynnig y botel pan fyddwch chi allan o’r ystafell, neu gallech chi wneud hynny gyda’ch babi efallai’n wynebu’r ffenest neu rywun arall.
Mae’n annhebygol iawn nad yw’r deth neu’r botel berffaith gennych chi. Mae llawer o famau yn rhoi cynnig ar dethau di-ri heb ddod o hyd i un sy’n gweithio.
Os yw eich babi’n ypsetio, rhowch y gorau iddi am ychydig ddyddiau ac ewch yn ôl at drin y botel fel tegan.
Dewisiadau eraill
- Gall bwydo o gwpan, naill ai cwpan agored neu gwpan gyda phig, heb falf, weithio’n dda.
- Arllwyswch ychydig o laeth i mewn i gynhwysydd a rhowch y llaeth ar lwy i’ch babi.
- Gadewch i’ch babi gymryd y llaeth ond peidiwch â’i arllwys i’w geg.
Gofynnwch am gymorth
Cysylltwch â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron er mwyn dysgu sut i roi diodydd mewn cwpan neu gofynnwch mewn sesiwn galw heibio ar fwydo ar y fron.
