• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Accreditations and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
  • Feeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Using infant formula to feed your baby
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference 2025
    • AGM
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
    • Legacy Gifting
Home » Gwybodaeth am Fwydo » Parhau â’r daith bwydo ar y fron » Bwydo ar y fron yn gyhoeddus

Bwydo ar y fron yn gyhoeddus

Read this page in English

Bob dydd mae cannoedd o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron y tu allan i’r cartref – mae’n debyg i fod yn feichiog, dydych chi ddim yn sylwi bod unrhyw un arall yn feichiog nes ei fod yn digwydd i chi, ac yn sydyn iawn mae’n ymddangos fel petai pawb yn disgwyl babi!

Felly, er bod babanod yn bwydo ar y fron mewn pob math o wahanol leoedd gwahanol, yn amlach na pheidio dydyn ni ddim yn sylwi arnyn nhw. A hyd yn oed os yw pobl yn sylwi, dydy’r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn dweud unrhyw beth.

Os yw pobl yn syllu arnoch chi, dydy hynny ddim yn golygu eu bod nhw’n anghymeradwyo’r hyn rydych chi’n ei wneud. Fe glywsom ni gan un fam a oedd yn bwydo ei babi, a chwpl oedrannus yn ei gwylio. Pan wnaethon nhw godi a dechrau cerdded tuag ati doedd hi ddim yn siŵr beth fydden nhw’n ei ddweud. Ond fe ddywedon nhw wrthi pa mor hyfryd oedd gweld babi yn bwydo ar y fron. Roedd y fenyw wedi bwydo ei phlant ei hun ar y fron ac roedd gweld rhywun arall yn gwneud hynny wedi dwyn atgofion melys yn ôl iddi.

 Ond, yn anffodus, mewn achosion prin iawn, mae rhywun yn rhywle yn penderfynu creu ffwdan, sy’n gallu arwain at lawer o gyhoeddusrwydd, gan roi’r argraff i famau bod hynny’n digwydd byth a hefyd. Dydy hyn ddim yn wir o gwbl – mae babanod yn cael eu bwydo mewn lleoedd cyhoeddus bob dydd a dydy’r papurau newydd ddim yn rhoi unrhyw sylw iddyn nhw. Felly, rydyn ni’n gwybod bod bwydo ar y fron yn digwydd heb unrhyw ffwdan na thrafferth o gwbl bron iawn bob amser.

Mother breastfeeding at Highbury & Islington station, promoting breastfeeding awareness and support.
Smiling woman on a train breastfeeding a toddler
A woman lying down on a blanket, breastfeeding her child
A woman sat on a step, outside, breastfeeding a toddler
A smiling woman in a wheelchair breastfeeding a baby

Os ydych chi wedi bod yn ddigon anlwcus i fod mewn sefyllfa lle mae rhywun wedi gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu wedi ceisio eich atal rhag bwydo’ch babi, fe allai fod yn werth chweil i chi wybod beth yw eich hawliau.

Yng Nghymru a Lloegr, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn datgan bod trin menyw yn anffafriol oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron yn enghraifft o wahaniaethu ar sail rhyw.

Yn yr Alban mae’r arfer o fwydo ar y fron yn cael ei ddiogelu gan Ddeddf Bwydo ar y Fron etc (Yr Alban) 2005. O dan y ddeddf hon, mae’n drosedd atal unrhyw un mewn man cyhoeddus rhag bwydo eu plentyn, os ydyn nhw o dan ddwy oed, â llaeth. Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys dirwyon am atal pobl rhag bwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor ar Bopeth.

Cyngor ar Ddillad

Ddylech chi ddim teimlo bod yn rhaid i chi orchuddio’ch bronnau os nad ydych chi eisiau gwneud hynny (cofiwch mai bwydo plentyn yw diben bronnau mewn gwirionedd!), neu os yw hynny yn ei gwneud hi’n anoddach i chi fwydo’ch babi. Efallai na fydd eich babi yn hapus os yw’n gorfod bwydo o dan orchudd, neu fe allai fod yn anodd iawn i chi sicrhau bod eich babi yn cydio’n dda yn y deth os na allwch chi weld beth sy’n digwydd o dan yr holl ddefnydd.

Wrth reswm, pe bai’n well gennych chi orchuddio’ch bronnau, mae sawl opsiwn ar gael, gan gynnwys gorchuddion nyrsio pwrpasol, taenu lliain neu sgarff dros eich hun a/neu’ch babi, neu ddewis dillad sy’n addas ar gyfer bwydo ar y fron. Mae amrywiaeth o ddillad sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer bwydo ar y fron ar gael, neu fe allech ddefnyddio dillad sydd gennych chi eisoes.

  • Wrth ddewis dillad, chwiliwch am eitemau sydd â botymau ar y tu blaen neu haenau y gellir eu tynnu i fyny neu eu tynnu o’r neilltu er mwyn i’r babi allu cael at y fron.
  • Y dull un-i-fyny-un-i-lawr (sy’n cael ei dalfyrru weithiau i OUOD ar fforymau bwydo ar y fron): rhowch fest sy’n ymestyn o dan grys-t neu ddilledyn uchaf sydd ychydig yn fwy llac. Yna codwch y dilledyn uchaf llac a thynnwch y fest i lawr i ddatgelu rhan o’ch bron a dim byd arall. Mae’n ffordd dda o barhau i orchuddio eich stumog os ydych chi eisiau.
  • Gwisgwch grys â botymau gyda bandeau/croptop/bralette (gallai fod yn fest rad wedi’i thorri yn ei hanner!) oddi tano – yna gallwch ddatod y botymau uchaf a chodi’r bandeau fel y gall y babi gael at y deth, gan sicrhau bod rhan uchaf eich brest wedi’i gorchuddio o hyd. Mae’n ddull da ar gyfer tywydd cynhesach, a chithau’n gwisgo llai o haenau.
  • Mae llawer o dopiau neu ffrogiau â gyddfau siâp V neu isel yn gallu ymestyn digon i allu eu tynnu i’r ochr fel y gall eich babi gael at eich bron. Os ydych chi’n teimlo’n rhy noeth wrth wneud hyn, gallech wisgo bandeau o dan yr haen hon a’i thynnu i fyny, fel uchod.
  • Os ydych chi’n giamstar gyda nodwydd, gallech addasu’ch dillad i ganiatáu mynediad – er enghraifft, gallech osod popwyr neu fotymau yn yr ysgwydd er mwyn gallu ei agor a’i gau, ychwanegu sipiau anweledig i’r ochr dan y breichiau, neu roi holltau mewn ffabrig sy’n cael ei orchuddio wedyn gan haen allanol. Mae arbrofi yn allweddol!

Mae Can I Breastfeed In It yn adnodd defnyddiol, sy’n casglu gwybodaeth am ddillad sy’n addas ar gyfer bwydo ar y fron sydd ar gael i’w prynu ar-lein neu ar y stryd fawr*. Hefyd, mae grŵp Facebook cysylltiedig wedi’i sefydlu ar gyfer y sawl sy’n gallu gwnio, Sew I Can Breastfeed In It, lle mae’r aelodau yn rhannu awgrymiadau am sut i wneud ac addasu dillad ar gyfer bwydo ar y fron.

Rhagor o wybodaeth

Mae gan y GIG dudalen we am fwydo ar y fron yn gyhoeddus, sy’n cynnwys fideos ac awgrymiadau defnyddiol.

Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r gyfraith sy’n gwahardd triniaeth annheg ac yn helpu i sicrhau cyfle cyfartal yn y gweithle ac mewn cymdeithas ehangach.

Mae Deddf Bwydo ar y Fron etc (Yr Alban) 2005 yn amlinellu’r gyfraith sy’n berthnasol i’r mater hwn.

Mae llyfryn Llywodraeth yr Alban, ‘Cyngor i Gyflogwyr‘ yn darparu cyngor hygyrch i weithwyr a chyflogwyr.

Mae Maternity Action (elusen genedlaethol sy’n gweithio i roi terfyn ar anghydraddoldeb) wedi cyhoeddi taflen wybodaeth i’w lawrlwytho am Fwydo ar y Fron mewn Mannau Cyhoeddus.

Hefyd, gallai fod yn ddefnyddiol cysylltu â swyddfa cydraddoldeb y Llywodraeth os ydych wedi cael eich trin yn annheg.

Dolenni allanol

Gwybodaeth gan La Leche League am Fwydo ar y Fron yn Gyhoeddus.

Gwybodaeth a safbwyntiau ar Fwydo ar y Fron yn Gyhoeddus gan kellymom.com.


*N.B. Nid yw BfN yn derbyn nawdd ac nid yw’n elwa mewn unrhyw ffordd o unrhyw un o’r brandiau sy’n ymddangos ar dudalennau Can I Breastfeed In It. Gallwch ddarllen mwy am y polisi hwn yma.

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2026 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up