Gall perswadio’ch babi i gydio yn y deth fod yn anodd weithiau. Gall hyn achosi straen ond gallwch roi cynnig ar sawl peth i wneud pethau’n haws. Os ydych chi’n cael trafferth cael eich babi i gydio yn y deth, rhowch gynnig yn gyntaf ar ein canllawiau ar sut i fwydo ar y fron.
Gallech dynnu rhai diferion o laeth â’ch llaw a’u rhoi ar eich teth er mwyn i’ch babi arogli a blasu’r llaeth.
Os yn bosibl, ceisiwch fwydo ar y fron cyn gynted ag y bydd eich babi yn dangos unrhyw arwydd ei fod yn llwglyd. Gall babi llwglyd iawn fynd yn ofidus a gallai fod yn anoddach iddo gydio yn y deth wedyn.
Os yw eich bronnau wedi llenwi ac yn galed iawn (yn orlawn), gall fod yn anodd i’ch babi gydio yn y deth. Gallech roi cynnig ar dynnu digon o laeth â’ch llaw i feddalu’ch bronnau, fel eich bod chi’n teimlo’n fwy cyfforddus ac fel ei bod hi’n haws i’ch babi gydio yn y deth.
Hefyd, gall meddalu’r fron drwy roi pwysau ar y fron yn ysgafn i wthio’r llaeth yn ôl oddi wrth y deth helpu os yw eich bronnau’n llawn iawn neu’n orlawn.
Gall rhywfaint o gyswllt croen-wrth-groen fod yn fuddiol, gyda’ch babi yn agos at eich bron ac o fewn cyrraedd i’ch teth, ond heb bwysau i gydio a bwydo. Gallech roi cynnig ar osod eich babi ar eich bol/brest, gan roi cyfle iddo chwilio am y fron ei hun.
Weithiau gall treulio amser ar eich pen eich hun gyda’ch babi (‘babymoon’) fod yn fuddiol. Weithiau, bydd llawer o bobl yn awyddus i ymweld â’r teulu yn y dyddiau cynnar ar ôl geni’r babi, a gallech fod yn brysur yn gwneud paneidiau i bawb ac yn gofalu am ymwelwyr. Gall hyn effeithio arnoch chi fel rhiant sy’n bwydo ar y fron, gan na fydd gennych chi ddigon o amser i eistedd, dod i adnabod eich babi newydd, a gweithio gyda’ch gilydd i sefydlu trefn bwydo ar y fron. Mae hyn yn berthnasol iawn os ydych chi’n poeni am fwydo ar y fron yng nghwmni pobl eraill. Hefyd, rydych chi’n llai tebygol o gael cyswllt croen-wrth-groen â’ch babi os oes gennych chi lawer o ymwelwyr!
Weithiau, os nad yw’r broses fwydo yn mynd yn dda yn ystod yr wythnosau cyntaf (neu hyd yn oed yn ddiweddarach), gallai fod yn werth chweil i chi dreulio tua 24 awr yn canolbwyntio ar eich babi ac ar fwydo, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn brysur. Mae rhai rhieni sy’n bwydo ar y fron yn mynd i’r gwely i gael llawer o gyswllt croen-wrth-groen tra bod eraill yn gofyn i bobl beidio ag ymweld am y tro (ac eithrio ymwelwyr sy’n barod i ofalu amdanoch fel bod modd i chi ganolbwyntio arnoch chi eich hun a’ch babi!) Mae’r cyfnod hwn yn cael ei ddisgrifio weithiau fel ‘babymoon’.
Os ydych chi’n parhau i gael trafferth cael eich babi i gydio yn y deth neu i fwydo ar y fron, siaradwch â’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu gefnogwr bwydo ar y fron. Gallwch ymweld â grŵp cymorth lleol neu gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron hefyd.
