Mae llawer o rieni yn rhoi llaeth fformiwla babanod i’w babi a hefyd yn bwydo ar y fron. Bwydo cymysg neu fwydo cyfunol yw’r enw ar roi bwyd fformiwla i’ch babi a hefyd ei fwydo ar y fron, naill ai am ychydig ddyddiau neu am gyfnod hirach.
Oes gennych chi gwestiynau am ddefnyddio llaeth fformiwla neu gyfuno bwydo ar y fron a bwydo fformiwla? Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar fwydo’ch babi, mae croeso i chi ffonio Llinell Gymorth Genedlaethol y DU ar gyfer Bwydo ar y Fron neu gallwch chwilio am grŵp cymorth gan gymheiriaid lleol yn eich ardal.
Powdwr llaeth buwch wedi’i brosesu a’i drin i’w wneud yn addas ar gyfer babanod yw llaeth fformiwla (defnyddir llaeth gafr yn lle llaeth buwch weithiau). Yn y DU, mae rheoliadau cyfreithiol yn nodi’r cynhwysion sylfaenol y mae’n rhaid i bob fformiwla ar gyfer babanod eu cynnwys i sicrhau eu bod yn darparu digon o faeth i fabanod. Mae hyn yn golygu bod gan bob llaeth fformiwla yr un cyfansoddiad yn y bôn. Does dim unrhyw dystiolaeth bod fformiwlâu drud yn well i fabanod na rhai rhatach.
Mae gwefan First Steps Nutrition yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am ddewis llaeth fformiwla i fabanod. Mae rhieni weithiau’n poeni y gall newid brand fformiwla achosi problemau, ond does dim unrhyw dystiolaeth bod newid i fformiwla arall yn gwneud unrhyw les na niwed.
Gall y mwyafrif o fabanod sy’n cael eu bwydo â fformiwla neu ddull cyfunol yn eu blwyddyn gyntaf gael llaeth fformiwla cyntaf (sy’n cael ei alw weithiau’n llaeth cam cyntaf neu gam 1). Dydy llaeth fformiwla dilynol, llaeth plentyn bach neu laeth tyfu ddim yn anghenrheidiol nac yn cael ei argymell. Ar ôl troi’n flwydd oed, does dim angen llaeth fformiwla ar fabanod. Gallan nhw yfed llaeth buwch cyflawn, yn ogystal â pharhau i fwydo ar y fron os mai dyna’ch dewis.
Mae’n bwysig eich bod yn paratoi llaeth fformiwla yn ddiogel, gan ddilyn y canllawiau ar faint o bowdr a dŵr i’w defnyddio yn ofalus. Mae llawer o wybodaeth am baratoi llaeth fformiwla i fabanod ar wefan Start for Life y GIG.
Pwyntiau pwysig i’w cofio:
- Paratowch boteli gan ddefnyddio dŵr wedi’i ferwi’n ffres sy’n 70°C o leiaf. Ewch ati i ferwi litr o ddŵr tap ffres yn y tegell a gadael iddo oeri am ddim mwy na 30 munud. Mae hyn yn sicrhau bod y dŵr yn ddigon poeth i ladd unrhyw facteria niweidiol yn y llaeth fformiwla powdr.
- Defnyddiwch y swm cywir o bowdr llaeth fformiwla i baratoi potel bob amser. Gallai defnyddio gormod neu rhy ychydig o bowdr wneud eich babi yn sâl.
- Cofiwch lanhau a sterileiddio poteli a thethi cyn pob defnydd.
Gall bwydo’ch babi fod yn gyfle gwych i dreulio amser tawel gyda’ch gilydd a dod i nabod ei gilydd. Yn ddelfrydol, dim ond un neu ddau o brif ofalwyr fyddai’n rhoi’r rhan fwyaf o’i laeth i’ch babi yn ystod yr wythnosau cyntaf fel bod gennych chi amser i glosio a meithrin perthynas agos. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod pawb yn bwydo’ch babi yn yr un ffordd.
Does dim angen amserlen fwydo benodol arnoch. Yn hytrach, mae’n werth chweil sylwi ar arwyddion bwydo eich babi a’i fwydo pan mae’n llwglyd. Sylwch ar arwyddion ei fod wedi cael digon o laeth a pheidiwch â’i orfodi i orffen potel. Mae rhagor o wybodaeth am fwydo ymatebol, arwyddion bwydo a bwydo potel ar wefan Best Start in Life. Mae’r wybodaeth hon yn ddefnyddiol os ydych chi’n bwydo llaeth fformiwla babanod i’ch babi neu’n rhoi llaeth y fron mewn potel.
Rhagor o wybodaeth am baratoi llaeth fformiwla i fabanod yn ddiogel a bwydo â photel ymatebol
Bwydo eich babi â photel – Best Start in Life – NHS
Bwydo’ch babi – Best Start in Life – NHS
Paratoi fformiwla babanod – NHS
Bwydo fformiwla – Parentclub Scotland
Bwydo â photel ymatebol – UNICEF
Paratoi fformiwla babanod – NHS Wales
