• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Accreditations and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
  • Feeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Using infant formula to feed your baby
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference 2025
    • AGM
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
    • Legacy Gifting
Home » Gwybodaeth am Fwydo » Amrywiaeth mewn bwydo ar y fron » Bwydo babi â Syndrom Down ar y fron

Bwydo babi â Syndrom Down ar y fron

Read this page in English

Syndrom Down yw’r annormaledd cromosomaidd mwyaf cyffredin mewn babanod. Fel arfer, mae cnewyllyn pob cell yng nghorff babi yn cynnwys 23 pâr o gromosomau – gyda’u hanner nhw wedi’u hetifeddu gan y fam a’r hanner arall gan y tad. Mae syndrom Down yn digwydd pan fydd gan rai o gelloedd unigolyn, neu bob un o’r celloedd, gopi llawn neu rannol ychwanegol o gromosom 21.

Gall rhai babanod â Syndrom Down fod â ffyrfder cyhyrau gwael, ac efallai y bydd yn anodd iddyn nhw ddal ati i gydio yn y fron wrth fwydo. Efallai y bydd eraill, yn enwedig os oes ganddyn nhw broblem y galon gysylltiedig, yn blino’n hawdd iawn ac yn methu â bwydo ar y fron a llenwi mewn un sesiwn fwydo. 

Manteision Bwydo ar y Fron

Mae bwydo babi â syndrom Down ar y fron nid yn unig yn bosibl, ond mae hefyd yn sicrhau manteision pwysig i’r fam a’r babi.

  1. Mae llaeth y fron yn rhoi hwb i system imiwnedd eich babi ac mae’n cynnwys ffactorau gwrth-heintus gan gynnwys gwrthgyrff yn erbyn germau rydych chi a’ch babi yn agored iddyn nhw. Mae hyn yn bwysig iawn i fabanod â syndrom Down gan eu bod yn tueddu i gael heintiau anadlol[i] a firaol.
  2. Gall babanod â syndrom Down fod â ffyrfder cyhyrau isel. Bydd y weithred sugno benodol sydd ei hangen yn ystod bwydo ar y fron yn helpu i gryfhau gwefusau, tafod ac wyneb eich babi [ii]. Bydd y weithred hon yn helpu’ch babi i fwyta bwydydd eraill a datblygu ei leferydd[iii].
  3. Mae llaeth y fron yn fwyd ac yn ddiod i’ch babi ac mae’n cynnwys yr holl faetholion, calorïau a hylifau sydd eu hangen ar eich babi, ond mae’n llawer mwy na dim ond maeth. Mae’n rhoi cysur a chlydwch i’ch babi a bydd yr agosatrwydd corfforol gewch chi wrth fwydo yn helpu i greu cwlwm arbennig rhyngoch chi a’ch babi.

Mae’r dyddiau a’r wythnosau cyntaf o fwydo ar y fron yn amser i chi a’ch babi ddod i adnabod eich gilydd a dysgu gyda’ch gilydd sut i fwydo ar y fron yn effeithiol. Wrth i chi ddod i adnabod eich babi yn well, efallai y byddwch chi’n gweld y gall rhai o nodweddion corfforol penodol babanod â syndrom Down gael effaith ar eich taith bwydo ar y fron.

Wrth reswm, mae pob babi yn unigryw, ac mae’n bosibl na fyddwch chi’n dod i gysylltiad â phob her sy’n cael eu crybwyll. Os yw eich babi yn cael trafferth bwydo ar y fron ar y dechrau, gofynnwch am help a chofiwch fod angen help ychwanegol ar lawer o famau a babanod i fwydo ar y fron ac y gall cefnogaeth barhaus ac amser eich helpu chi a’ch babi i ddysgu sut i fwydo ar y fron yn effeithiol.

Os ydych chi’n cael anawsterau ar y dechrau, gallwch ddewis tynnu’ch llaeth a bwydo llaeth y fron i’ch babi. Gall hyn helpu trwy roi mwy o amser i chi a’ch babi ddysgu a sicrhau bod eich babi yn parhau i fwynhau holl fuddiannau llaeth y fron. Hefyd, gall fod yn ddefnyddiol os oes angen i’ch babi fod ar wahân i chi yn y dyddiau cynnar neu os oes angen ei fwydo trwy diwb am ryw reswm.

I ddechrau, byddai angen i chi dynnu llaeth tua 8-10 gwaith mewn 24 awr, gan gynnwys o leiaf unwaith dros nos gan fod hynny’n helpu i gynyddu eich cyflenwad llaeth. Gall cael eich babi gerllaw eich helpu pan fyddwch chi’n tynnu llaeth, os yw hyn yn bosibl, neu fod gennych chi lun o’ch babi neu rywbeth sy’n arogli ohono. Gallech dynnu’ch llaeth â llaw neu ddefnyddio pwmp. Os ydych chi yn yr ysbyty o hyd, gallwch ofyn am gael benthyg pwmp safon ysbyty. Mae gennym bob math o wybodaeth am dynnu a storio llaeth y fron yma.

Awgrymiadau ar gyfer bwydo babi â Syndrom Down ar y fron

Ffyrfder cyhyrau isel

Gall babanod â syndrom Down fod â ffyrfder cyhyrau isel, a all olygu ei bod hi’n anodd iddyn nhw gydio’n effeithiol yn y fron[iv] ac aros yno ar gyfer sesiwn fwydo lawn. Hefyd, gall fod yn anodd i rai babanod gydlynu’r broses o sugno, llyncu ac anadlu, ac efallai y byddan nhw’n llowcio neu’n poeri wrth fwydo. Efallai y byddan nhw’n cael llai o laeth am eu hymdrechion ac yn aml fe fyddan nhw’n blino’n gyflym.

Fel arfer mae hyn yn gwella gydag ymarfer ac amser. Bydd y weithred o fwydo ar y fron yn gwella cryfder cyhyrau eich babi. Wrth i’r babi gryfhau a dysgu sut i fwydo ar y fron yn fwy effeithiol, bydd yn gallu yfed mwy o laeth. Yn ogystal â’r safleoedd bwydo ar y fron sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin, mae yna safle o’r enw Llaw Dawnsiwr (Dancer Hand).

Bydd y safle yma’n helpu weithiau, oherwydd bydd yn cynnig ychydig o gynhaliaeth i ben eich plentyn pan fydd yn mynd ati i gydio yn eich bron. Ar gyfer y safle hwn mae angen i chi osod eich babi i eistedd yn unionsyth yn eich col yn eich wynebu. Yna byddwch yn cwpanu eich llaw o dan eich bron, ac yna’n ei symud ymlaen fel bod tri bys yn cynnal eich bron. Gwnewch siâp U gyda’ch bawd a’ch bys cyntaf a defnyddiwch y siâp U i gynnal gên eich babi. Os hoffech chi wybod mwy am y safle hwn, gofynnwch i’ch darparwr gofal iechyd.

Gwthio’r tafod allan

Os ydych chi’n gweld bod eich babi yn gwthio ei dafod allan yn fwy nag arfer, fe all hynny gwneud bwydo ar y fron yn anoddach weithiau. Gallwch helpu’r sefyllfa trwy geisio gosod eich babi mewn ffordd sy’n ei annog i agor ei geg yn llydan iawn a chadw ei dafod i lawr, gan gyffwrdd â’i wefus isaf pan fydd yn mynd ati i gydio yn eich bron. Un ffordd o fynd o’i chwmpas hi yw gwasgu’n ysgafn iawn ar ei ên er mwyn agor ei geg yn fwy llydan wrth iddo fynd ati i gydio yn y deth. Gall ymarferion tafod syml iawn helpu weithiau hefyd. Os ydych chi’n meddwl y gallai’r ymarferion hyn fod o fudd i chi, gofynnwch i’ch darparwr gofal iechyd.

Babanod cysglyd

Gall rhai babanod â syndrom Down fod yn gysglyd iawn neu flino’n gynt, yn enwedig os oes ganddyn nhw broblem gyda’r galon. Bydd gosod eich babi mewn safle cyfforddus sy’n ei gynnal hefyd yn ei helpu i gael mwy o laeth am ei ymdrechion, bydd yn ysgogi eich cyflenwad llaeth chi’n well, ac yn sicrhau nad yw eich babi’n blino mor gyflym. Gallwch helpu trwy ddechrau llif eich llaeth cyn i chi symud eich babi at eich bron, fel na fydd yn gorfod defnyddio’i egni yn sugno heb gael unrhyw laeth. Gallwch helpu’ch llaeth i lifo trwy dynnu llaeth â’ch llaw yn ysgafn, rholio eich teth rhwng eich bawd a’ch mynegfys, tylino’ch bron yn ysgafn ac efallai gosod clwtyn cynnes ar y fron.

Magu pwysau

Weithiau bydd babanod â syndrom Down yn magu pwysau yn arafach na babanod eraill. Mae siartiau pwysau penodol ar gael ar gyfer plant â syndrom Down er mwyn monitro hyn yn ofalus, yn enwedig os oes gan eich babi broblemau meddygol eraill sy’n golygu y gallai fagu pwysau yn arafach nag arfer. Mae’r un pethau yn berthnasol o ran gwybod a yw eich babi yn cael digon o laeth, gan gynnwys edrych ar nifer y cewynnau gwlyb a budr a pha mor fodlon yw eich babi rhwng sesiynau bwydo. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am fagu pwysau neu’ch bod yn poeni a yw eich babi yn cael digon o laeth ai peidio, mynnwch air â’ch darparwr gofal iechyd.

Adnoddau

A guide to Breastfeeding a baby with Down Syndrome. Image of a mum breastfeeding a baby. dsuk. Positive about Down Syndrome.

Canllaw i Fwydo Babi â Syndrom Down ar y Fron

Postiadau blog BfN ar Syndrom Down

Gwefan Positive About Down Syndrome

Positive About Down Syndrome – Lived Experiences

The Breastfeeding Network

Sarah Edwards, Training Development Manager and Breastfeeding Supporter

[i] Pisacane, A., Toscano, E., Pirri, I., et al (2003), Down syndrome and breastfeeding. Acta Paediar 92(12),1479–1481.

[ii] Dowling, D., Danner, S., Coffey, P., Wellman, L. (2007), March of Dimes Defects Foundation. Breastfeeding the infant with special needs. New York: March of Dimes Foundation

[iii] Buckley, S. (2000), Speech and language development for individuals with Down Syndrome – an overview. Hampshire: The Down Syndrome Education Trust

[iv] Buckley, S. (2000), Speech and language development for individuals with Down Syndrome – an overview. Hampshire: The Down Syndrome Education Trust

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2026 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up