• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Accreditations and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
  • Feeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Using infant formula to feed your baby
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference 2025
    • AGM
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
    • Legacy Gifting
Home » Gwybodaeth am Fwydo » Amrywiaeth mewn bwydo ar y fron » Bwydo ar y fron gydag anabledd

Bwydo ar y fron gydag anabledd

Read this page in English

Os oes gennych anabledd, efallai y byddwch chi’n poeni y bydd hyn yn effeithio ar sut rydych chi’n dewis bwydo’ch babi.  Yn y rhan fwyaf o achosion, gyda’r cymorth a’r gefnogaeth gywir, bydd rhywun ag anabledd nid yn unig yn gallu bwydo ar y fron, ond bydd bwydo ar y fron hefyd yn cynnig manteision amlwg i’r fam ac i’r babi.

Mae unigolyn yn cael ei ystyried yn rhywun ag anabledd os yw’n nodi bod ganddo salwch, anabledd neu amhariad hirdymor sy’n achosi anhawster sylweddol gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd. Dyma’r diffiniad craidd o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae cyflwr pawb yn unigryw ond mae mamau ag anableddau wedi dweud wrthym mai dyma’r problemau mwyaf cyffredin:

  • Problemau safle a chydio yn y deth – oherwydd blinder, anawsterau corfforol, materion synhwyraidd llethol a defnyddio offer meddygol (e.e. cadeiriau olwyn, bagiau stoma) efallai y bydd y safleoedd mwyaf cyffredin yn anymarferol a fawr o help. Mae yna nifer o safleoedd eraill ar gael, a gallwch hyd yn oed ddyfeisio eich safle eich hun sy’n gweddu i chi a’ch babi.
  • Gwybod sut mae meddyginiaeth yn effeithio ar laeth y fron – efallai na fydd gan feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y wybodaeth sydd ei hangen arnoch bob amser. Siaradwch â’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gyntaf bob amser, ond os oes gennych chi gwestiynau eraill, mae gwasanaeth gwybodaeth Cyffuriau yn Llaeth y Fron yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am gyffuriau gwahanol a pha mor ddiogel ydyn nhw ar gyfer mamau sy’n bwydo ar y fron.

Mae problemau eraill sy’n codi yn fwy penodol i’r cyflwr hirdymor neu i’r anabledd: gan gynnwys problemau hormonau sy’n ymyrryd â’r cyflenwad llaeth, problemau treulio sy’n ei gwneud hi’n anodd i’r fam gael digon o galorïau i faethu ei hun a’i phlentyn, ac anhwylderau meinwe gyswllt sy’n effeithio ar y cymalau neu’r croen. Mae modd datrys y rhan fwyaf o’r problemau hyn trwy feddwl yn greadigol a manteisio ar y wybodaeth berthnasol ddiweddaraf. Mae gwybod sut i gael gafael ar gymorth yn hanfodol i’ch cefnogaeth.

Ble i chwilio am help

  • Bydwraig/ymgynghorydd – efallai y bydd angen i chi ofyn cwestiynau penodol am yr anawsterau rydych chi’n eu hwynebu
  • Tudalen Facebook Cyffuriau yn Llaeth y Fron BfN
  • Grwpiau cymorth ar gyfer eich cyflwr (wyneb yn wyneb neu ar y cyfryngau cymdeithasol) – gofynnwch a oes unrhyw aelodau o’r grŵp wedi bwydo ar y fron ac a oes ganddyn nhw unrhyw gyngor i’w rannu
  • Grwpiau cymorth BfN lleol neu dudalennau Facebook BfN lleol
  • Y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron

Dyfyniadau gan famau ag anabledd sy’n bwydo ar y fron:

Roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n cael trafferth yn agor a chau poteli, felly fe wnes i ddal ati i fwydo ar y fron. Hefyd, roeddwn i eisiau osgoi gorfod cerdded i fyny ac i lawr y staer yn ystod y nos.’

Mae bwydo ar y fron mor hawdd a chyfleus – does dim angen codi o’r gwely i fwydo ar y fron, a dwi’n cario llai yn y bag wrth fynd allan. Dwi’n meddwl mai bwydo ar y fron yw un o’r adnoddau mwyaf hygyrch sydd gan famau!’

Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to wrth fwydo ar y fron neu feddwl nad oes modd ei wneud o oherwydd eich anabledd – dywedwch wrth y gweithwyr proffesiynol fod angen iddyn nhw eich helpu chi i ddod o hyd i ffordd o’i wneud o! Yn ogystal, i lawer ohonon ni, mae bwydo potel hyd yn oed yn anoddach gan fod angen dal y babi yn y safle iawn a golchi’r poteli’

Mae llawer o fenywod awtistig yn poeni am sensitifrwydd synhwyraidd bwydo ar y fron. Ond mae’r rhain yn amrywio o un person i’r llall. Ar ôl yr wythnos gyntaf pan oedd fy nhethi yn dyner iawn, doedd sensitifrwydd ddim yn broblem. Ar yr ochr gadarnhaol, fel rhywun awtistig, roedd bwydo ar y fron yn dda oherwydd bod modd bwydo’r babi ar unwaith, ac roedd yn crio llai o ganlyniad. Doedd dim angen poeni am baratoi’r fformiwla yn gywir chwaith.’

Ar gyfer rhai cyflyrau iechyd, gall bwydo ar y fron fod yn ffactor amddiffynnol ar gyfer iechyd y plentyn yn y dyfodol. Yn fy achos i, mi lwyddodd bwydo ar y fron i atal symptomau crohns ôl-enedigol. Yn anffodus, mi ddaeth y symptomau yn eu hôl ar ôl i fy mhlentyn ddechrau diddyfnu, ond roedd yn well gen i gael y symptomau ar yr adeg honno nag yn y cyfnod ôl-enedigol!’

Os ydych chi’n fam sydd ag anableddau a’ch bod eisiau rhannu eich profiad o fwydo ar y fron, cysylltwch â ni neu ymunwch â’n tudalen Facebook i sgwrsio â mamau eraill.

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2026 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up