Rydyn ni’n gwybod fod salwch meddwl yn effeithio ar hyd at 20% o fenywod naill ai yn ystod eu beichiogrwydd neu yn y 12 mis ar ôl rhoi genedigaeth. Gall y cyflyrau hyn gynnwys gorbryder ac iselder, seicosis ôl-enedigol ac anhwylder straen ôl-drawmatig yn sgil trawma geni neu ofalu am fabi sâl. Gall unrhyw un o’r cyflyrau hyn gael effaith fawr ar fwydo ar y fron, ac mae’n bwysig bod cymorth ar gael i deuluoedd ar yr adeg anodd hon.
Mae’r lefelau gofal a chymorth sydd ar gael i fenywod sy’n cael eu heffeithio gan salwch meddwl amenedigol yn amrywio ar draws y DU. Mewn rhai ardaloedd, mae yna rwydweithiau cymorth ardderchog ar waith, ond mewn rhai ardaloedd, does dim cymorth ar gael o gwbl. Mae rhagor o wybodaeth am sut i ddod o hyd i wasanaethau iechyd meddwl y GIG ar gael yma.
Mae’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron yn cysylltu â miloedd o famau newydd bob blwyddyn, gan roi cymorth iddyn nhw. Rydyn ni’n gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y fam ac rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi mamau waeth sut maen nhw’n bwydo eu babanod.
Rydyn ni’n gwybod bod tua 15% o’r cysylltiadau â’n gwasanaeth gwybodaeth Cyffuriau yn Llaeth y Fron yn ymwneud â materion iechyd meddwl. Mae llawer o famau yn dweud wrthym eu bod wedi cael cyngor i roi’r gorau i fwydo ar y fron er mwyn cymryd meddyginiaeth wrth-iselder, ond mae’r dystiolaeth yn dangos nad oes angen gwneud hyn mewn llawer o achosion. Mae angen ystyried effaith bosibl rhoi’r gorau i fwydo ar y fron yn rhy fuan ar iechyd meddwl y fam.
Mae tystiolaeth yn dangos bod bwydo ar y fron yn gallu cael effaith ataliol ar ddatblygu salwch meddwl. Yn ôl astudiaeth ymchwil ar raddfa fawr a gyhoeddwyd yn 2014, roedd y mamau a oedd yn bwriadu bwydo ar y fron ac a aeth ymlaen i fwydo ar y fron tua 50% yn llai tebygol o ddatblygu iselder na mamau nad oedden nhw wedi bwriadu bwydo ar y fron, ac na wnaethon nhw fynd ymlaen i fwydo ar y fron. Roedd mamau a oedd yn bwriadu bwydo ar y fron ond na wnaethon nhw fynd ymlaen i fwydo ar y fron dros ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu iselder na mamau nad oedden nhw wedi bwriadu bwydo ar y fron, ac na wnaethon nhw fynd ymlaen i fwydo ar y fron.
Hefyd, mae gwaith ymchwil yn dangos bod mwy na 3 o bob 5 menyw wedi rhoi’r gorau i fwydo ar y fron yn gynt na’u bwriad. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd darparu cymorth o ansawdd da ar gyfer bwydo ar y fron a gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth am ddiogelwch meddyginiaethau gwrth-iselder ar gyfer mamau sydd eisiau bwydo ar y fron.
Mae gennym daflenni gwybodaeth manwl, seiliedig ar dystiolaeth, ar orbryder a bwydo ar y fron, teimlo’n isel a bwydo ar y fron, teimlo’n bryderus a bwydo ar y fron, anhwylder obsesiynol-gorfodaethol a bwydo ar y fron, anhwylder deubegynol a bwydo ar y fron a thriniaethau iselder ôl-enedigol a bwydo ar y fron. Mae’r taflenni hyn wedi’u hysgrifennu gan ein fferyllwyr cymwysedig a hynod brofiadol a gellir eu lawrlwytho neu eu hargraffu er mwyn eu trafod gyda’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.
Gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron sydd ar agor 365 diwrnod y flwyddyn ar 0300 100 0212 i siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig, sydd hefyd yn fam sydd wedi cael profiad o fwydo ar y fron. Hefyd, mae’r llinell gymorth yn croesawu galwadau gan bartneriaid, aelodau o’r teulu a ffrindiau.
Yn ôl adroddiad ‘Saving Lives Improving Mothers’ Care 2023‘: “Deaths from mental health-related causes as a whole account for nearly 40% of deaths occurring between six weeks and a year after the end of pregnancy with maternal suicide remaining the leading cause of direct deaths in this period.”
Mae’r ystadegyn hwn yn frawychus, ond mae’n amlygu’r angen i siarad am y pwnc hwn er gwaethaf y ffaith ei fod yn bwnc anghyfforddus. Mae’n bwysig ein bod yn gwybod pryd i ofyn am help, a ble mae’r help hwnnw ar gael.
Dyma rai ffynonellau cymorth i chi, os ydych chi’n poeni am salwch meddwl amenedigol – sy’n effeithio arnoch chi’n bersonol neu ar rywun arall:
ASSOCIATION FOR POSTNATAL ILLNESS
Perinatal Mental Health Partnership
Action on Postpartum Psychosis
NHS Accessing Mental Health Services
Northern Ireland only, Lifeline – phone 0808 808 8000 or access
Local NHS urgent mental health helpline (England only)
Adnoddau ar gyfer Gwirfoddolwyr a Gweithwyr Proffesiynol
Yn ystod beichiogrwydd a’r flwyddyn ar ôl geni (y ‘cyfnod amenedigol’), gall amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl effeithio ar fenywod. Gall y problemau hyn fod yn ddinistriol a chael effaith sylweddol ar fenywod a’u teuluoedd ar adeg bwysig yn eu bywydau.
Mae’n bwysig bod unrhyw weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda menywod yn ystod y cyfnod amenedigol – beth bynnag fo’u prif rôl – yn deall peryglon problemau iechyd meddwl amenedigol; sut i adnabod symptomau neu ffactorau risg ac ymateb yn briodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n cefnogi’r broses o fwydo babanod, ac sy’n gweithio gyda menywod – er mwyn meithrin perthynas ar sail ymddiriedaeth a darparu cymorth emosiynol – ar rai o’r adegau hynny pan fyddan nhw’n fwyaf agored i niwed.
Mae’r fframwaith cymhwysedd hwn yn nodi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymorth y dylai gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n cefnogi’r broses o fwydo babanod eu datblygu er mwyn cefnogi iechyd meddwl amenedigol a babanod, gan gynnwys:
- Deall iechyd meddwl amenedigol a babanod a’i berthynas â bwydo babanod.
- Deall sut i rymuso menywod unigol i wneud y dewisiadau bwydo sy’n addas iddyn nhw (gan ystyried eu hiechyd meddwl).
- Y gallu i gefnogi menywod – ble bynnag y maen nhw ar eu taith fwydo – mewn ffordd sy’n diogelu ac yn hyrwyddo eu hiechyd meddwl nhw a’u babanod.
Mae’r fframwaith yn disgrifio cymwyseddau i ymarferwyr weithio tuag atyn nhw. Nid yw’n nodi natur y cyfleoedd hyfforddi a datblygu sydd eu hangen i gyflawni’r cymwyseddau hyn. Bydd y rhain yn amrywio gan ddibynnu ar brofiad a sgiliau blaenorol y gweithwyr proffesiynol, natur eu rôl a’r cyd-destun y maen nhw’n gweithio ynddo. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn darparu adnodd defnyddiol i gefnogi sefydliadau comisiynu a darparu, hyfforddwyr, rheolwyr, gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr, fel y gallan nhw ystyried beth arall y gellid ei wneud trwy eu gwasanaethau bwydo babanod i gefnogi iechyd meddwl mamau newydd a’u babanod.
Wrth ddatblygu’r fframwaith hwn bu’n fraint i’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron weithio gyda’r Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau (Prosiect Mums and Babies in Mind), y Gymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG ar gyfer Canolbarth a Gogledd Orllewin Llundain, NCT, Ymgynghorwyr Llaetha Prydain, Manorgardens a Phrifysgol Abertawe.
