• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Accreditations and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
  • Feeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Using infant formula to feed your baby
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference 2025
    • AGM
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
    • Legacy Gifting
Home » Gwybodaeth am Fwydo » Amrywiaeth mewn bwydo ar y fron » Amrywiaeth o ran rhywedd a bwydo ar y fron

Amrywiaeth o ran rhywedd a bwydo ar y fron

Read this page in English

Mae BfN yn dysgu cefnogi cynhwysiant yr elusen mewn perthynas â rhywedd. Mae hyn yn bwysig i’n hymdrechion i sicrhau bod ein cefnogaeth yn dangos parch ac yn derbyn pob person sydd angen ein help ac sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Dyma rai dolenni i wefannau rydyn ni wedi bod yn ymchwilio iddyn nhw gan gynnwys darnau o destunau.

http://www.gendertrust.org.uk/gender-concepts-around-the-world/
Yn draddodiadol, dim ond 2 gategori o rywedd y mae’r Deyrnas Unedig wedi’u cydnabod; gwryw a benyw. Roedd pobl yn cael eu categoreiddio i raddau helaeth yn ôl sut roedd cymdeithas yn eu gweld nhw a’r organau cenhedlu y cawsant eu geni gyda nhw.

Yn gynyddol, mae mwy o bobl yn dechrau cydnabod efallai nad ydyn nhw’n ffitio’n daclus i gategori rhywedd deuaidd. Er mai dim ond yn weddol ddiweddar y mae cysyniadau o drydydd, pedwerydd, a phumed rhywedd, a phobl ryngryweddol, wedi dechrau cael eu derbyn yn y DU, mae llawer o ddiwylliannau y tu hwnt i’r byd gorllewinol â thraddodiad hirach o gofleidio’r syniadau hyn.

https://www.brook.org.uk/your-life/gender-a-few-definitions/ 
Mae rhywedd yn cyfeirio at sut mae pobl yn teimlo ac yn meddwl amdanyn nhw eu hunain, a sut maen nhw’n gwisgo, yn siarad neu’n symud. Gall hyn fod yn wahanol i’r ‘rhyw’ a roddwyd iddyn nhw pan gawson nhw eu geni. Mewn geiriau eraill, efallai y byddwch chi’n teimlo fel menyw er bod gennych chi bidyn, neu fel gwryw er bod gennych chi fwlfa, neu efallai y byddwch chi’n teimlo’n gymysgedd o’r ddau.

Mae’r iaith rydyn ni’n ei defnyddio wrth siarad am rywedd yn bwysig iawn oherwydd mae’n gallu cael effaith ar les pobl. Gall godi braw ar rywun; efallai y bydd pobl yn poeni na fyddan nhw byth yn deall y cyfan, yn pryderu bod iaith ac ieithwedd yn newid yn ddiarwybod iddyn nhw, neu’n ofni gwneud camgymeriad.

Yr hyn sy’n bwysig i’w gofio yw bod iaith yn bersonol; mae’n bosibl y bydd eich ystyron neu’ch defnydd chi o’r geiriau hyn yn wahanol i sut mae pobl eraill yn eu defnyddio nhw. Fydd pawb ddim eisiau cael eu hadnabod gan yr un termau, felly y peth pwysicaf yw sicrhau eich bod chi’n parchu hunaniaeth rhywun arall a’r labeli maen nhw’n dewis eu defnyddio. Ac rydych chithau’n haeddu’r un parch yn ôl.

Beth yw rhagenwau?

https://www.edi.nih.gov/blog/communities/what-are-gender-pronouns-why-do-they-matter

Gair sy’n disodli enw yw rhagenw, fel ei/ef, ei/hi, nhw/eu, ze/hir, e/em. Gall
gofyn i bobl ddefnyddio’r geiriau cywir, fel eich enw a’ch rhagenwau dewisol, fod yn frawychus, ond gall fod yn gam enfawr tuag at deimlo’n fwy cyfforddus fel unigolyn sy’n driw i chi eich hun.

Mae gofyn i rywun ddefnyddio eich rhagenwau cywir yn gais rhesymol ac yn rhywbeth y dylen nhw ei barchu. Hefyd, mae’n dderbyniol peidio â gwybod pa iaith rydych chi am ei defnyddio wrth gyfeirio atoch chi eich hun, a dylai pobl barchu hyn yn yr un modd.

Beth alla i ei wneud i fod yn gynghreiriad i bobl anneuaidd?

https://www.stonewall.org.uk/about-us/news/10-ways-step-ally-non-binary-people.

Mae sawl ffordd o gynnwys pawb, waeth beth fo’u hunaniaeth o ran rhywedd.  Yn aml, mae ein hiaith a sut rydyn ni’n siarad yn cynnwys arwyddion rhyweddol cudd.

Unwaith y byddwn ni’n dechrau sylwi arnyn nhw, gallwn symud tuag at ddefnyddio iaith sy’n cynnwys pawb.

https://www.amnesty.org.uk/LGBTQ-equality/gender-identity-beginners-guide-trans-allies
Dydy’ch anatomi chi ddim yn pennu eich hunaniaeth rhywedd a dydy cyfundrefn “deuaidd o ran rhywedd” ddim yn gwneud hynny chwaith.

Beth yw’r gyfundrefn deuaidd o ran rhywedd?

Dyma’r syniad mai dim ond dau rywedd sydd yna – gwryw a benyw.

Mewn gwirionedd, mae rhywedd yn llawer mwy tebyg i sbectrwm – does dim byd terfynol a chaeth yn ei gylch ac mae gan rai pobl hunaniaethau rhywedd hylifol neu amrywiol.

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2026 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up