Mae profiad pob teulu o fwydo ar y fron yn wahanol, ac rydyn ni’n deall efallai y bydd angen mwy o gymorth neu ddull cymorth gwahanol ar famau, rhieni a phlant niwrowahanol. Ein nod yw creu amgylchedd lle mae rhieni niwrowahanol yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu cefnogi a’u grymuso ar eu taith bwydo ar y fron.
Mae ein pwyslais ar gymorth sy’n canolbwyntio ar rieni, gwrando a deall yr hyn sy’n bwysig i chi, a’ch cefnogi i wneud eich dewisiadau eich hun ynglŷn â sut rydych chi’n bwydo eich babi. Drwy eich cefnogi yn bersonol, mae ein cefnogwyr yn cynnig cymorth ymarferol gan ddefnyddio doliau arddangos, bronnau wedi’u gwau a diagramau neu fideos, pan fyddan nhw ar gael.
Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am unrhyw feddyginiaeth sydd angen i chi ei chymryd wrth fwydo ar y fron, gallwch ddysgu mwy am ein Gwasanaeth Cyffuriau mewn Llaeth y Fron, yma. Mae gennym ni hefyd daflen ffeithiau ar ADHD a Bwydo ar y Fron.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen ein blogiau ar ADHD and Breastfeeding, Breastfeeding If You Are On The Autistic Spectrum a Six ways health professionals and peer supporters can help Autistic women meet their breastfeeding goals.
