• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Achievements and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
      • Press Coverage
  • Breastfeeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Baby breastfeeds all the time
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Donate
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference and AGM 2025
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
Home » Gwybodaeth am Fwydo ar y Fron » Ystyried Bwydo ar y Fron? » Pam Bwydo ar y Fron? 

Pam Bwydo ar y Fron? 

Stori un fam:

Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau bwydo fy maban ar y fron. Roeddwn i’n gwybod ei fod yn naturiol. Felly fe wnaeth fy synnu i nad oedd James fy mabi a minnau yn gallu gwneud i’r peth weithio. Fe wnes i ffonio un o’r criw sy’n cynnig cefnogaeth Bwydo ar y Fron. Rhoddodd hi syniadau da i ni am sut roeddwn i’n eistedd ac yn dal James. Ond yn bennaf oll roedd yn dda cael rhywun i droi ato am sgwrs.

Mae yna lawer o resymau dros fwydo ar y fron, ond yr un symlaf a mwyaf amlwg yw “oherwydd eich bod chi eisiau!” Mae eich bronnau wedi esblygu i gynhyrchu bwyd i’ch baban, ac os ydych chi am eu defnyddio at y diben hwnnw, does dim angen unrhyw esboniad arall arnoch chi. Fodd bynnag, mae llaeth y fron yn anhygoel, ac mae rhai o’r rhesymau gwych eraill dros fwydo ar y fron yn cael eu disgrifio isod. 

Mae bwydo ar y fron yn beth da ar gyfer creu perthynas glos, rhianta a datblygiad eich baban

Mae bwydo ar y fron yn rhyddhau lefel uchel o hormon o’r enw ocsitocin (sydd weithiau’n cael ei alw’n “hormon cariad”) yn eich baban a chi. Mae hyn yn eich helpu i ffurfio perthynas glos, gariadus, i ymlacio a theimlo’n ddigynnwrf a hapus. Mae’n helpu ymennydd eich baban i dyfu a datblygu hefyd, sy’n digwydd ar gyflymder anhygoel yn ystod misoedd cyntaf bywyd. Mae’n amhosibl gorfwydo baban sy’n cael ei fwydo ar y fron, felly gellir defnyddio bwydo ar y fron i leddfu eich baban, i’w helpu i gysgu, i dreulio amser gyda’ch gilydd neu i orffwys pryd bynnag y dymunwch. Mae bwydo ar y fron yn berthynas ddwyffordd sy’n eich cefnogi chi a’ch baban yn emosiynol.

Gallwch chi ddysgu mwy am hyn ar y tudalennau canlynol:

Taflen UNICEF: Building a happy baby, a guide for parents

Fideo UNICEF: Breastfeeding and relationships in the early days    

Parent-Infant Foundation: The first 1001 days 

Iechyd

Mae canllawiau’r Adran Iechyd yn nodi mai bwydo ar y fron yw’r ffordd fwyaf iach o fwydo eich baban. Argymhellir bwydo ar y fron yn unig (rhoi dim ond llaeth y fron i’ch baban) am oddeutu chwe mis cyntaf (26 wythnos) bywyd eich baban. Ar ôl hynny, bydd rhoi llaeth y fron i’ch baban ochr yn ochr â mathau eraill o fwyd yn ei helpu i barhau i dyfu a datblygu. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ac UNICEF yn argymell bwydo ar y fron ochr yn ochr â bwydydd eraill hyd at ddwy oed a thu hwnt.

Mae llaeth y fron yn cynnwys yr holl faethynnau sydd eu hangen ar eich baban am y chwe mis cyntaf. Mae’n llawer mwy na bwyd yn unig:  mae’n hylif byw hefyd, sy’n llawn gwrthgyrff a ffactorau bioactif eraill sy’n cryfhau system imiwnedd eich baban wrth iddo ddatblygu, gan ddarparu amddiffyniad rhag haint, a ffactorau eraill sy’n ei helpu i dreulio maethynnau. Nid yw’r elfennau byw hyn i’w cael mewn fformiwla babanod.

Gallwch chi ddarllen mwy am y nifer o wahanol elfennau sydd mewn llaeth y fron ar y
dudalen GIG hon a gallwch chi fynd i wefan Human Milk hefyd lle mae yna lawer o wybodaeth.  

Mae peidio â bwydo ar y fron yn cynyddu risgiau iechyd amrywiol i chi a’ch baban.

Mae gan fabanod sydd ddim yn cael eu bwydo ar y fron risg uwch o:

  • heintiau, ac felly mwy o ymweliadau â’r ysbyty
  • dolur rhydd a chwydu, ac felly mwy o ymweliadau â’r ysbyty
  • syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS) 
  • gordewdra
  • clefyd cardiofasgwlaidd fel oedolyn

Mae gan famau sydd ddim yn bwydo ar y fron risg uwch o:

  • canser y fron 
  • canser yr ofari 
  • clefyd cardiofasgwlaidd 
  • gordewdra

Gallwch chi ddarllen mwy am sut mae bwydo ar y fron yn gysylltiedig ag iechyd ar wefan y GIG.

Cost

Does dim rhaid i chi dalu am laeth y fron a does dim angen unrhyw offer arbennig i fwydo ar y fron fel arfer. Mae’r gost o fwydo gyda fformiwla babanod yn unig am chwe mis a pharhau i’w ddarparu ochr yn ochr â mathau eraill o fwyd tan 12 mis yn amrywio o oddeutu £33 y mis ar gyfer y fformiwla babanod powdr rhataf sydd ar gael i oddeutu £80 y mis ar gyfer un o’r brandiau sydd ar gael  yn fwy eang First Steps Nutrition, data o fis Tachwedd 2024. Dalier sylw: mae pob fformiwla babanod i fabanod ifanc iawn sy’n cael ei werthu yn y DU yn gyfwerth o ran maeth. Does dim angen prynu brand drutach. Yn ogystal, mae bwydo gyda fformiwla yn golygu bod gofyn cael poteli a thethau y mae’n rhaid eu sterileiddio rhwng pob defnydd, a rhaid cymysgu fformiwla babanod powdr â dŵr wedi’i ferwi sydd o leiaf 70 gradd C. Gellir prynu fformiwla babanod wedi’i gymysgu ymlaen llaw mewn cartonau hefyd, sy’n fwy cyfleus, ond mae’r rhain yn llawer drutach na fformiwla babanod powdr.

Gallwch chi ddewis defnyddio pwmp ar gyfer eich bronnau a photeli i fwydo ar ôl tynnu llaeth, gwisgo dillad pwrpasol ar gyfer bwydo ar y fron neu brynu gobenyddion bwydo ar y fron neu ategolion eraill. Gall y pethau hyn fod yn ddefnyddiol, ond fel arfer mae’n bosibl bwydo ar y fron hebddyn nhw.

Cyfleustod

Gall bwydo ar y fron deimlo’n heriol ar y dechrau, a gall gymryd mwy o amser na bwydo potel, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, ond wrth i’ch baban dyfu, mae eich cyflenwad llaeth yn sefydlu ac mae’r ddau ohonoch chi’n dod i drefn gyda’r bwydo, ac efallai y byddwch chi’n gweld ei fod yn haws na bwydo potel.

I ddechrau, efallai y byddwch chi’n teimlo fel y gallwch chi fwydo ar y fron dim ond mewn ffordd benodol neu mewn lle penodol, ond unwaith y byddwch chi’n dod i arfer â bwydo ar y fron, efallai y byddwch chi’n gweld y gallwch chi fwydo ar y fron yn unrhyw le, ac wrth wneud gweithgareddau eraill.

Mae llaeth y fron bob amser ar gael ar unwaith, ar y tymheredd cywir, heb fod angen unrhyw baratoi, ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, fel y gallwch chi ymateb i anghenion eich baban ar unwaith. Does dim angen ei gymysgu, ei gynhesu na’i oeri, dyw e ddim yn suro yn y fron a fydd e ddim yn cael ei wastraffu os yw eich baban yn penderfynu mai dim ond ychydig o laeth y mae eisiau. Yn ystod y nos, gallwch chi fwydo ar y fron heb godi o’r gwely!

Wrth gwrs, mae bwydo ar y fron yn golygu mai chi fydd yr unig un sy’n gallu bwydo eich baban ar y fron, a gall hyn eich llethu weithiau. Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych chi’n bwydo gyda photel, mae UNICEF yn dweud bod babanod yn teimlo’n fwy diogel os mai dim ond eu prif ofalwyr sy’n eu bwydo, sy’n eu helpu i greu perthynas glos. Ar ôl sefydlu bwydo ar y fron, efallai y byddwch chi’n penderfynu cyflwyno potel o dro i dro, drwy dynnu llaeth y fron a’i roi mewn potel, gan roi hyblygrwydd i chi fod i ffwrdd o’ch baban am gyfnodau byr o amser. Yr amgylchedd  Gweler ein tudalen ar gyflwyno potel am ragor o wybodaeth. 

Yr amgylchedd

Llaeth y fron yw’r bwyd mwyaf cynaliadwy sydd. Ôl troed carbon bach iawn sydd i fwydo ar y fron o gymharu â bwydo gyda fformiwla. Mae fformiwla babanod yn cael ei wneud o laeth gwartheg y mae’n rhaid ei brosesu, ei becynnu, ei gludo, ei storio a’i roi mewn poteli. Mewn cymhariaeth, ychydig iawn o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu drwy fwydo ar y fron. Gallwch chi ddarllen mwy am hyn yma.

Diwylliant

Mae bwydo ar y fron yn fwy cyffredin mewn rhai diwylliannau a chymunedau nag eraill. Efallai yr hoffech chi fwydo ar y fron oherwydd mai dyma sy’n cael ei ystyried yn norm yn eich cymuned neu leoliad diwylliannol. Mewn cyferbyniad, efallai y byddwch chi’n poeni am fwydo ar y fron, neu efallai y byddwch chi’n gweld bwydo ar y fron yn heriol, oherwydd nad yw e mor gyffredin yn eich cymuned chi. Fodd bynnag, mae grwpiau cymorth bwydo ar y fron yn bodoli yn y rhan fwyaf o lefydd yn y DU sy’n eich galluogi i gymdeithasu mewn man lle mae bwydo ar y fron yn normal. Gall y grwpiau hyn roi cymorth ymarferol ac emosiynol i chi i’ch helpu i barhau i fwydo ar y fron. Mae gwybodaeth am grwpiau lleol ar gael yma neu cysylltwch â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron i ddod o hyd i grŵp lleol i chi.  

Siaradwch ag aelod o’r criw cofrestredig sy’n cynnig cefnogaeth Bwydo ar y Fron

Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Neu siaradwch â ni trwy we-sgwrs pan fydd ar gael.

0300 100 0212

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2025 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up