Does dim angen unrhyw offer arbennig arnoch chi ar gyfer bwydo ar y fron. Er y gallwch chi ddewis gwisgo dillad penodol sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer bwydo neu ddefnyddio gorchudd nyrsio, pwmp ar gyfer y fron, neu obennydd arbennig ar gyfer bwydo ar y fron, does dim angen yr un o’r pethau hyn ar gyfer bwydo ar y fron fel arfer. Efallai y bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo bra pwrpasol.
Efallai y bydd bra pwrpasol meddal iawn, distrwythur yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer yr wythnosau cynnar. Mae eich bronnau yn debygol o newid ar ôl i chi roi genedigaeth, felly mae’n well peidio prynu mwy nag un neu ddau cyn i’ch baban gael ei eni, rhag ofn nad ydyn nhw’n ffitio yn nes ymlaen. Mae’n werth gwneud yn siŵr eu bod yn ffitio’n gywir, gan y gall bra sy’n ffitio’n wael neu fra sydd ddim wedi’i fwriadu ar gyfer bwydo ar y fron fod yn anghyfforddus ac achosi llid ar eich bronnau. Efallai y bydd padiau amsugnol ar y fron yn ddefnyddiol hefyd. Gallwch chi gael rhai tafladwy neu rai golchadwy.
Os oes angen i chi dynnu llaeth y fron ar ôl i’ch baban gael ei eni, er mwyn eich helpu i sefydlu bwydo ar y fron, gall eich bydwraig neu gyfaill cefnogol bwydo ar y fron ddangos i chi sut i dynnu llaeth â llaw. Os yw’n well gennych chi ddefnyddio pwmp, efallai y bydd un ar gael yn yr ysbyty y gallwch chi ei ddefnyddio os nad ydych chi wedi mynd adref eto, neu gallwch chi logi pwmp gradd ysbyty. Mae yna lawer o wahanol bympiau y gallwch chi eu prynu, ond efallai y bydd yn gwneud mwy o synnwyr i aros a gweld a oes angen un arnoch chi cyn prynu.
Mae yna nifer o lyfrau am fwydo ar y fron efallai y byddech yn hoffi eu darllen cyn i’ch baban gael ei eni, neu edrych drwyddyn nhw yn y dyddiau cynnar i gael gwybodaeth. Mae rhai o’r rhain wedi’u rhestru isod. Efallai y byddwch chi’n gallu prynu’r rhain yn rhad yn ail-law neu eu benthyg o’ch llyfrgell leol. Efallai y bydd gan rai grwpiau babanod gopïau y maen nhw’n eu benthyg i bobl.
- The Positive Breastfeeding Book: Yr Athro Amy Brown
- You’ve Got It In You – a positive guide to breastfeeding: Emma Pickett IBCLC
- The Womanly Art of Breastfeeding – La Leche League International
- Why Breastfeeding Matters – Charlotte Young
Siaradwch ag aelod o’r criw cofrestredig sy’n cynnig cefnogaeth Bwydo ar y Fron
Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Neu siaradwch â ni trwy we-sgwrs pan fydd ar gael.