Mae’r penderfyniad ynghylch pa mor hir i fwydo ar y fron yn un personol iawn a gall ddibynnu ar nifer o ffactorau. Rydyn ni’n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i’ch helpu chi i wneud y penderfyniad sy’n iawn i chi a’ch baban.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ac UNICEF yn argymell eich bod yn bwydo eich baban ar y fron yn unig am y chwe mis cyntaf (tua 26 wythnos), a’ch bod yn parhau i fwydo ar y fron ochr yn ochr â chyflwyno bwydydd solet am ddwy flynedd neu ragor. Y gwir amdani yw, er bod y rhan fwyaf o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron ar y dechrau, ychydig iawn o fabanod yn y DU sy’n parhau i gael eu bwydo ar y fron y tu hwnt i’r misoedd cyntaf gan fod cyfraddau bwydo ar y fron yn y DU ymhlith yr isaf ar gyfer unrhyw wlad ddatblygedig.
Mae hyn yn golygu nad yw ein cymdeithas wedi arfer bob amser â gweld bwydo ar y fron a gall ysgolion, colegau, cyflogwyr, teuluoedd a chymunedau fod â diffyg ymwybyddiaeth o fwydo ar y fron. Gall hyn wneud y penderfyniad i fwydo ar y fron a pharhau i fwydo ar y fron yn anoddach i chi, yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid fel mynd yn ôl i astudio neu ddychwelyd i’r gwaith.
Mae cefnogaeth a dealltwriaeth o fwydo ar y fron yn tyfu. Rydyn ni’n gwybod bod pob diferyn o laeth y fron y mae baban yn ei gael yn werthfawr ac os byddwch yn parhau i fwydo ar y fron yn hirach, byddwch chi a’ch baban yn cael mwy o fanteision.
Mae pob mis o fwydo ar y fron yn lleihau’r risg o salwch a all olygu bod babanod yn gorfod mynd i’r ysbyty. Mae’n helpu i amddiffyn babanod rhag mynd dros bwysau neu’n ordew hefyd, sy’n golygu eu bod yn llai tebygol o ddatblygu clefydau fel diabetes yn y dyfodol. Mae pob sesiwn bwydo ar y fron yn fuddiol i’ch baban a bydd bwydo ar y fron am gyfnod byr hyd yn oed, neu mewn cyfuniad â bwydo gyda fformiwla babanod, yn dal i fod o fudd i’ch baban.
Does dim angen penderfynu am ba hyd y byddwch chi’n bwydo ar y fron ar ddechrau eich taith bwydo ar y fron. Gallwch chi fynd o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, ac o fis i fis a hyd yn oed o flwyddyn i flwyddyn. Gallwch chi barhau cyhyd ag y mae’n teimlo’n iawn i chi a’ch plentyn. Gallwn ni ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth gyda rhoi’r gorau i fwydo ar y fron ar unrhyw adeg, os oes ei angen arnoch. Y gred yw mai hyd naturiol bwydo ar y fron yw unrhyw adeg rhwng dwy a saith mlynedd.
Rydyn ni yma i’ch helpu chi i wneud i fwydo ar y fron weithio i chi.
Efallai y bydd y dolenni hyn gan y GIG yn ddefnyddiol:
Talfen – Why breastfeed, Start4Life, Building Blocks leaflet
Gallwch chi ddarllen mwy am fwydo plant bach a phlant hŷn ar y fron yma:
How long should a mother breastfeed? (La Leche League International)
What are the benefits of breastfeeding my toddler? (La Leche League International)