Pa un a ydych chi’n feichiog neu newydd gael baban ac yn ystyried bwydo ar y fron, mae cael y dechrau gorau posibl mor bwysig.
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth a all fod yn ddefnyddiol i’ch helpu i baratoi a gall helpu i ateb rhai o’r cwestiynau a allai fod gennych chi.
Efallai y bydd ein taflenni a’n cyhoeddiadau yn ddefnyddiol i chi hefyd. Os ydych chi am siarad am unrhyw un o’r pynciau a drafodir yma yn fwy manwl, mae modd i chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron i siarad ag aelod o’r criw cofrestredig sy’n cynnig cefnogaeth Bwydo ar y Fron. Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ar 0300 100 0212 neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae gwe-sgwrs ar gael hefyd.