• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Achievements and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
      • Press Coverage
  • Breastfeeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Baby breastfeeds all the time
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Donate
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference and AGM 2025
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
Home » Gwybodaeth am Fwydo ar y Fron » Gwybodaeth am Mastitis

Gwybodaeth am Mastitis

Diweddarwyd yr wybodaeth hon ym mis Rhagfyr 2022.

“Cefais fy synnu pa mor sydyn y dechreuais i deimlo’n sâl. Aethon ni i briodas a dim ond un cyfnod bwydo wnes i golli. O fewn dwy awr roeddwn i’n teimlo fel bod y ffliw arna i, roeddwn i’n brifo drostaf. Doedd fy meddyg teulu ddim yn awyddus i roi presgripsiwn am wrthfiotigau, gan ddweud nad oedd eu hangen fel arfer os oeddwn i am barhau i fwydo. Fe wnes i gymryd tabledi ibuprofen hefyd ac fe wnaeth hynny fy helpu i ymdopi. Roeddwn i’n synnu pa mor dda oedd yr hunangymorth yn gweithio a doedd dim angen presgripsiwn arna i wedi’r cwbl.  Roeddwn i’n teimlo’n ddigalon ac yn isel iawn pan gefais y symptomau, gan feddwl tybed a oedd bwydo ar y fron yn werth yr holl drafferth – ond unwaith roeddwn i’n teimlo’n well dechreuais gofio pa mor dda mae’n teimlo.” 

Mae mastitis yn golygu llid y fron.

Yr arwydd cyntaf o mastitis yw ardal chwyddedig ar y fron, sydd fel arfer yn boenus hefyd. Ar groen mwy tywyll, efallai y bydd rhan o groen y fron yn ymddangos yn fwy tywyll ac ar groen goleuach, gall rhan o groen y fron ymddangos yn goch. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi efallai na fydd unrhyw newid gweladwy i liw’r croen o gwbl. Nid yw’r llid a’r chwydd bob amser yn arwydd o haint (WHO, 2000).

 Dyw bacteria niweidiol ddim yn bresennol bob amser: efallai na fydd angen gwrthfiotigau os bydd mesurau hunangymorth yn cael eu cychwyn yn gyflym. Yn anaml, mae mastitis yn gallu datblygu’n gyflwr mwy difrifol sy’n golygu bod angen i’r fam gael ei derbyn i’r ysbyty ar frys yn ogystal â chael gwrthfiotigau mewnwythiennol (RCOG, 2012).

Efallai y byddwch chi’n cael mastitis pan fydd llaeth yn gollwng i feinwe’r fron o ddwythell sydd wedi’i blocio. Mae’r corff yn ymateb yn yr un ffordd ag y mae’n ei wneud i haint – trwy gynyddu cyflenwad gwaed. Mae hyn yn cynhyrchu’r llid. 

Arwyddion o Mastitis 

  • Ardal leol yn y fron sy’n boenus i gyffwrdd, yn aml yn yr ardal uchaf allanol. Efallai y bydd rhai mamau’n sylwi ar newid mewn lliw neu ardal goch ar eu bron.
  • Bron lympiog sy’n teimlo’n boeth wrth gyffwrdd â hi.
  • Mae’r fron gyfan yn boenus a gall ymddangos yn chwyddedig a gall y croen fod yn goch neu’n dywyllach, yn dibynnu ar y croen.
  • Symptomau tebyg i’r ffliw – poenau drosoch, tymheredd uwch, crynu, teimlo’n ddagreuol ac yn flinedig (Jahanfar et al., 2013). Gall y teimlad hwn weithiau ddechrau’n sydyn iawn a gwaethygu’n gyflym iawn.

Dalier Sylw – Efallai na fyddwch yn cael pob un o’r arwyddion uchod yn ystod mastitis.

Atal Mastitis 

  • Ceisiwch osgoi gadael cyfnodau hir annisgwyl rhwng cyfnodau bwydo. Os ydych chi’n bwriadu gostwng faint rydych chi’n bwydo ar y fron, mae gostwng yn raddol yn lleihau’r risg o mastitis. 
  • Gwnewch yn siŵr nad yw eich bronnau yn mynd yn orlawn.
  • Ceisiwch osgoi cael unrhyw bwysau ar eich bron o ddillad a bysedd.
  • Dechreuwch fesurau hunangymorth yn syth os ydych chi’n gweld unrhyw fannau lympiog neu chwyddedig ar eich bron.

Ffactorau sy’n gwneud mastitis yn fwy tebygol:

  • Anhawster cael eich baban i gydio ar y deth – gall hyn olygu nad yw’r llaeth yn cael ei dynnu o’r fron yn effeithiol a gall llaeth ollwng i feinwe’r fron.
  • Pwysau gan ddillad tynn, yn enwedig eich bra, neu fys yn pwyso i mewn i’r fron yn ystod cyfnod bwydo.
  • Bron orlawn neu ddwythell wedi’i blocio.
  • Newidiadau sydyn o ran pa mor aml mae’r baban yn bwydo, gan adael y bronnau’n teimlo’n llawn.
  • Anafiadau, er enghraifft os yw plentyn bach yn bwrw yn eich erbyn.

Mae mastitis yn cychwyn pan nad yw’r llaeth yn draenio’n dda iawn. Os nad yw eich baban wedi cydio yn y deth yn effeithiol, neu os yw’n cael trafferth bwydo, gall fod yn anodd i’r baban dynnu’r llaeth ac efallai y bydd rhai rhannau o’ch bron heb wagio yn ystod bwydo. Bydd gwella’r ffordd y mae eich baban yn cydio yn y deth yn lleihau’r siawns y byddwch chi’n cael mastitis eto. Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu rywun sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron am gymorth gyda hyn. Gallwch chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron hefyd.

Arwyddion bod y Baban wedi Cydio’n Dda yn y Deth

  • Mae gên eich baban yn cyffwrdd yn gadarn â’ch bron. 
  • Mae ceg eich baban yn llydan agored 
  • Mae gan eich baban ddarn sylweddol o’r fron yn ei geg. 
  • Os gallwch chi weld y croen mwy tywyll sydd o amgylch y deth, dylech chi weld mwy o groen tywyll uwchben gwefus uchaf eich baban nag o dan wefus isaf eich baban. 
  • Ni ddylech chi fod mewn poen wrth i’ch baban fwydo (er y gall yr ychydig sugnadau cyntaf deimlo’n gryf).
  • Ni ddylai fod unrhyw newid yn siâp neu liw eich teth ar ôl bwydo e.e. ni ddylai edrych fel siâp minlliw ac ni ddylid gallu gweld llinellau ar draws y deth.
  • Mae bochau eich baban yn aros yn grwn wrth iddo sugno. 
  • Mae eich baban yn cymryd sugnadau ac yn llyncu mewn ffordd rythmig (mae’n normal i’ch baban oedi o bryd i’w gilydd). 
  • Mae eich baban yn gorffen bwydo ac yn dod oddi ar y fron ar ei ben ei hun. 
  • Mae eich baban yn cynhyrchu 6 neu ragor o gewynnau gwlyb trwm bob 24 awr (o 7 diwrnod oed).
  • Mae eich baban yn cynhyrchu carthion melyn sydd o leiaf maint darn arian £2 ddwywaith bob 24 awr (o 7-28 diwrnod oed). Gweler rhestr wirio bwydo ar y fron UNICEF am ragor o fanylion.

Os daw eich mastitis yn ôl ar ôl i chi gymryd cwrs llawn o wrthfiotigau, neu os yw’n anarferol o ddifrifol, mae’n arfer da anfon sampl o laeth am brofion bacteria. Bydd hyn yn helpu’r meddyg teulu i ddewis y gwrthfiotig cywir ar gyfer eich symptomau (Jahanfar et al., 2013). Am resymau iechyd cyhoeddus, mae meddygon yn ceisio osgoi gwrthfiotigau sydd ddim yn hanfodol neu sy’n annhebygol o fod yn effeithiol. Mae’n bwysig eich bod chi’n gorffen y cwrs cyfan o wrthfiotigau i wneud yn siŵr eich bod chi’n gwella’n llwyr ac i helpu i atal y mastitis rhag dod yn ôl gyda bacteria ymwrthol (NICE NG15).

Mesurau Hunangymorth 

Bydd y rhain yn helpu i glirio dwythellau wedi’u blocio a bronnau gorlawn. Gellir gwella neu ddatrys y rhan fwyaf o achosion o mastitis gyda mesurau hunangymorth.

  • Daliwch ati i fwydo ar y fron – efallai y byddwch chi’n teimlo’n sâl, mewn poen, yn ddagreuol neu wedi digalonni ond bydd parhau i fwydo ar y fron yn eich helpu i wella, a llaeth o’ch bron chi yw’r bwyd gorau i’ch baban o hyd.
  • Mae angen bwydo eich baban yn aml ac mewn ffordd ymatebol (bwydo pryd bynnag mae’r baban yn edrych fel pe bai eisiau bwyd) a/neu bwmpio yn ôl eich trefn arferol (Mitchell et al., 2022; Douglas 2022)
  • Peidiwch â cheisio “gwagio’r fron” trwy ymestyn cyfnodau bwydo neu dynnu llaeth ychwanegol rhwng cyfnodau bwydo. Efallai y byddwch chi’n gweld hyn yn cael ei awgrymu mewn rhai mannau, ond mae’r ymchwil gyfredol yn awgrymu y dylech chi geisio diwallu anghenion eich baban, ond osgoi cynyddu eich cyflenwad y tu hwnt i hynny gan y gallai wneud y llid yn waeth. (Mitchell et al., 2022; Douglas 2022)
  • Ceisiwch orffwys cymaint ag y gallwch, gan y bydd hyn yn eich helpu i wella. 
  • Gwiriwch fod eich baban mewn safle da i fwydo’n effeithiol wedi cydio’n iawn yn y deth – os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu rywun sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron gan y gall hyd yn oed un newid bach wneud gwahaniaeth.
  • Ceisiwch fwydo gan roi eich baban mewn gwahanol safleoedd.
  • Os oes angen, gwnewch eich bron yn fwy meddal drwy dynnu ychydig o laeth neu drwy redeg dŵr cynnes drosti, fel ei bod yn haws i’r baban fwydo’n dda.
  • I rai mamau, mae clytiau cynnes yn lleddfu, a gall cynhesrwydd ar y deth helpu’r llaeth i lifo allan. Fodd bynnag, byddwch yn ofalus wrth defnyddio’r rhain. Mae chwydd a llid yn gallu mynd yn waeth os yw’r clytiau’n rhy boeth neu os ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n rhy aml. Gall clytiau oer leddfu symptomau rhwng cyfnodau bwydo. (Mitchell et al., 2022; Douglas 2022)
  • Ceisiwch osgoi rhoi unrhyw bwysau ar y fron neu dylino cadarn, a pheidiwch â defnyddio eitemau fel brwsh dannedd trydan i dylino lympiau neu fannau poenus. Gallai hyn achosi niwed i’r meinwe a chynyddu llid (Mitchell et al., 2022; Douglas 2022). Ni ddylech roi unrhyw bwysau ar eich bron sy’n teimlo’n fwy cadarn na rhoi mwythau i gath.
  • Gwiriwch nad yw dillad neu unrhyw beth arall yn pwyso ar eich bron. Mae hyn yn cynnwys bra – i rai menywod, mae peidio â gwisgo bra o gymorth. 

Os ydych chi’n teimlo bod y symptomau hyn yn dechrau eto, dechreuwch ddefnyddio mesurau hunangymorth ar unwaith.

Pryd ddylwn i gysylltu â’m meddyg teulu neu ymwelydd iechyd?

Os nad ydych chi’n dechrau teimlo’n well ar ôl 24 awr, er eich bod yn defnyddio mesurau hunangymorth, neu’n enwedig os ydych chi’n dechrau teimlo’n waeth, dylech siarad â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd. Efallai y bydd angen i chi gymryd gwrthfiotigau.

Dylech chi gysylltu â’ch meddyg teulu os yw’r ardal yn mynd yn grwn ac yn chwyddedig neu, os gallwch chi weld cochni neu os yw lliw eich croen wedi newid a bod patrwm y newid lliw/cochni yn newid. Gall cochni fod yn llai gweladwy ar groen mwy tywyll. Gall mastitis fynd yn waeth a chreu crawniad (abscess), sef casgliad poenus o grawn (pus). Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma: http://www.nhs.uk/conditions/breast-abscess/.

Pryd ddylwn i ofyn am gymorth ar frys? 

Os ydych chi’n teimlo’n ddifrifol sâl, mae gennych chi bendro, rydych chi’n ddryslyd, yn datblygu cyfog, yn chwydu neu os oes gennych chi ddolur rhydd neu leferydd aneglur ynghyd â symptomau mastitis, mae angen i chi ofyn am sylw meddygol brys. Gall y rhain fod yn arwyddion bod mastitis yn datblygu i mewn i sepsis. Os yw’n ddifrifol, mae hwn yn argyfwng meddygol sy’n golygu bod angen i’r fam gael ei derbyn i’r ysbyty ar frys a chael gwrthfiotigau mewnwythiennol. (Dewisiadau’r GIG: Sepsis, RCOG, 2012: 6.1)

Triniaeth Feddygol ar gyfer Mastitis

Daw’r wybodaeth hon gan y gwasanaeth Drugs in Breastmilk Service. 

  • Mae ibuprofen yn lleihau’r llid, yn lleddfu poen ac yn dod â thymheredd i lawr. Cymerwch 400mg dair gwaith y dydd ar ôl bwyd. Ni ddylai menywod sydd ag asthma, wlserau stumog neu alergedd i asbirin gymryd ibuprofen. Mae’r lefelau ibuprofen sy’n trosglwyddo i’r baban yn fach. Mae ibuprofen yn ddiogel i’w gymryd wrth fwydo ar y fron. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.breastfeedingnetwork.org.uk/analgesics/.
  • Mae parasetamol yn lleddfu poen ac yn dod â thymheredd i lawr ond nid yw’n gwneud dim byd i leihau llid. Cymerwch ddwy dabled 500mg bedair gwaith y dydd. 
  • Ni ddylai mamau sy’n bwydo ar y fron gymryd asbirin.
  • Efallai y bydd angen gwrthfiotigau os nad oes gwelliant ar ôl dilyn mesurau hunangymorth. Gellir cymryd y rhan fwyaf o wrthfiotigau yn ddiogel wrth fwydo ar y fron. 

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn argymell 500 miligram o Flucloxacillin bedair gwaith y dydd fel triniaeth gyntaf gyda 250-500 miligram o erythromycin bedair gwaith y dydd neu 250-500 miligram o cefalexin bedair gwaith y dydd os oes gan y fam alergedd i benisilin. Awgrymwyd opsiynau eraill gan Jahanfar et al., (2013).

Mae’n hanfodol nad oes tarfu ar fwydo ar y fron yn ystod mastitis.

Dalier sylw: Gall gwrthfiotigau wneud i’r baban gynhyrchu carthion mwy rhydd a gall wneud iddo fod yn anniddig, yn llawn colig ac yn aflonydd. Mae hyn yn para am gyfnod byr a bydd yn gwella pan fyddwch chi’n gorffen y gwrthfiotigau.

Cyfeiriadau

Jahanfar S, Ng CJ, Teng CL. Antibiotics for mastitis in breastfeeding women. Cochrane Database of Systematic Reviews 2013, Issue 2. Art. No.: CD005458. DOI:10.1002/14651858.CD005458.pub3 http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/14651858.CD005458.pub3/abstract (accessed 19 November 2020)

Crepinsek MA, Crowe L, Michener K, Smart NA. Interventions for preventing mastitis after childbirth. Cochrane Database of Systematic Reviews 2012, Issue 10. Art. No.: CD007239. DOI:10.1002/14651858.CD007239.pub3. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/14651858.CD007239.pub3/full (December 2022)

Hale T., Medications and Mothers’ Milk 2014 (16th Ed),

NICE guideline [NG194] Published: 20 April 2021 https://www.nice.org.uk/guidance/ng194/chapter/Recommendations (accessed December 2022)

World Health Organization. 2000, Mastitis: causes and management, WHO: Geneva http://apps.who.int/iris/bitstream/10665/66230/1/WHO_FCH_CAH_00.13_eng.pdf?ua=1.(accessed December 2022)

NICE guidelines [NG15] Antimicrobial stewardship: systems and processes for effective antimicrobial medicine use www.nice.org.uk/guidance/ng15 (accessed December 2022)

NHS Choices: Sepsis www.nhs.uk/conditions/Bloodpoisoning/Pages/Introduction.aspx (accessed December 2022)

Royal College of Obstetricians and Gynaecologists (RCOG) (2012) Green–top Guideline No. 64b. Bacterial Sepsis following Pregnancy: 6.1. www.rcog.org.uk/globalassets/documents/guidelines/gtg_64b.pdf (accessed December 2022)

Unicef: https://www.unicef.org.uk/babyfriendly/wpcontent/uploads/sites/2/2016/10/mothers_breastfeeding_checklist.pdf (Accessed December 2022)

Mitchell, K. B., Johnson, H. M., Rodríguez, J. M., Eglash, A., Scherzinger, C., Zakarija-Grkovic, I., Cash, K. W., Berens, P., Miller, B., & Academy of Breastfeeding Medicine (2022). Academy of Breastfeeding Medicine Clinical Protocol #36: The Mastitis Spectrum, Revised 2022 Breastfeeding medicine : the official journal of the Academy of Breastfeeding
Medicine, 17(5), 360–376. https://doi.org/10.1089/bfm.2022.29207.kbm

Douglas P. (2022). Re-thinking benign inflammation of the lactating breast: Classification,
prevention, and management. Women’s health (London, England), 18, 17455057221091349.
https://doi.org/10.1177/17455057221091349

Lluniwyd y daflen wreiddiol gan Wendy Jones MBE, Fferyllydd, a Phyll Buchanan, un o dîm cefnogi’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron a Thiwtor, yn 2015. Gyda diolch i Magda Sachs a ddatblygodd fersiynau cynharach.

Diwygiwyd y fersiwn hon ar 22 Rhagfyr 2022.

Sylwch nad yw’r wybodaeth hon ar gael mewn print eto. Mae’r fersiwn argraffedig flaenorol bellach wedi’i thynnu’n ôl ac ni ddylid ei defnyddio mwyach. 

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2025 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up