• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Accreditations and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
      • Press Coverage
  • Breastfeeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Baby breastfeeds all the time
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Donate
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference 2025
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
Home » Gwybodaeth am Fwydo ar y Fron » Dechrau arni gyda bwydo ar y fron  » Sut i Wybod Bod Eich Baban yn Cael Digon o…

Sut i Wybod Bod Eich Baban yn Cael Digon o Laeth

Pan fyddwch chi’n bwydo ar y fron, gall fod yn anodd gwybod a yw eich baban yn cael digon o laeth, yn enwedig os nad yw’n ymddangos yn hapus, os nad yw’n cysgu am gyfnodau hir neu os nad yw e eisiau bwydo’n aml. Gall yr ymddygiadau hyn fod yn heriol, ac mae bob amser yn well siarad am unrhyw bryderon sydd gennych gyda’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu rywun sy’n gallu’ch cefnogi gyda bwydo ar y fron. Fodd bynnag, nid dyna’r ffordd orau o ddweud faint o laeth y mae eich baban yn ei gael.

Mae’r rhan fwyaf o fabanod yn colli rhywfaint o bwysau erbyn diwrnodau tri i bump ac yna’n dechrau ennill pwysau.

Mae edrych ar gynnwys cewynau gwlyb a budr eich baban yn rhoi syniad da o faint o laeth mae’r baban yn ei yfed bob dydd, rhwng adegau pwyso eich baban.

Yn y 48 awr gyntaf, mae’n debygol mai dim ond dau neu dri o gewynnau gwlyb fydd eich baban yn eu cael. Dylech ddechrau gweld cewynnau gwlyb yn amlach wedyn, gydag o leiaf chwech bob 24 awr o ddiwrnod pump ymlaen.

Ar y dechrau, bydd carthion du tebyg i dar o’r enw meconiwm i’w weld yng nghewyn eich baban. Erbyn diwrnod tri, dylai hwn newid i fod yn ysgafnach, mwy fel hylif, eithaf gwyrdd ac yn haws ei lanhau. O tua diwrnod pedwar ac am yr wythnosau cyntaf, dylai eich baban gynhyrchu carthion mwy melyn o leiaf ddwywaith y dydd, ac fe ddylai fod o leiaf maint darn arian £2. Cofiwch, mae’n normal i fabanod sy’n cael eu bwydo ar y fron gynhyrchu carthion nad ydynt yn solet iawn.

I grynhoi, o ddiwrnod pedwar neu bump, dylai eich baban gael o leiaf chwe chewyn gwlyb a dau gewyn budr y dydd, ac mae faint sydd yn y cewynnau yn amrywio o faban i faban. Os yw cewynnau eich baban yn dilyn y patrwm hwn, ac mae’n ennill pwysau yn ôl y disgwyl hefyd, gallwch fod yn hyderus ei fod yn cael digon o laeth. Ar ôl tua chwech i wyth wythnos, efallai y bydd eich baban yn cael cewyn budr yn llai aml ond bydd y carthion yn fwy o faint. Byddwch chi’n dod i adnabod patrwm eich baban.

Gallwch chi ddarllen mwy am helpu eich baban i ennill pwysau yma.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Off to the Best Start.

Os ydych chi’n poeni am eich cyflenwad llaeth, cysylltwch â’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu rywun sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron. Gallwch chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron hefyd.

Siaradwch ag aelod o’r criw cofrestredig sy’n cynnig cefnogaeth Bwydo ar y Fron

Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Neu siaradwch â ni trwy we-sgwrs pan fydd ar gael.

0300 100 0212

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2025 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up