• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Achievements and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
      • Press Coverage
  • Breastfeeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Baby breastfeeds all the time
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Donate
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference and AGM 2025
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
Home » Gwybodaeth am Fwydo ar y Fron » Dechrau arni gyda bwydo ar y fron  » Sut i fwydo ar y fron 

Sut i fwydo ar y fron 

Dechrau Arni

Dylai bwydo ar y fron fod yn GYFFORDDUS

Gall sut rydych chi’n eistedd (neu’n gorwedd) a pha mor agos rydych chi’n dal eich baban wrth i chi fwydo wneud gwahaniaeth i ba mor dda mae pethau’n mynd. Weithiau gall ychydig o wahaniaeth yn y ffordd y mae eich baban yn bwydo wneud gwahaniaeth mawr i ba mor gyfforddus ydych chi wrth fwydo a pha mor hawdd y mae eich baban yn cael eich llaeth.

Ddylai bwydo ar y fron DDIM BRIFO

Gall newid sut rydych chi’n dal eich baban a sut mae’r baban yn dechrau bwydo wneud gwahaniaeth o ran sut mae’n setlo ar ôl bwydo.

Yn aml, gelwir y ffordd rydych chi’n dal eich baban yn safle.

Weithiau gelwir y ffordd y mae eich baban yn cymryd y fron yn cydio yn y deth neu gysylltu.

Gall safle da helpu i wneud y broses o GYSYLLTU neu GYDIO yn un fwy effeithiol a chyfforddus. Dyma sut:

Mae angen i’ch baban allu cymryd darn sylweddol o’r fron yn ei geg a bwydo’n effeithiol heb achosi unrhyw anghysur i chi.

Yn y dyddiau cynnar yn benodol, efallai y byddwch chi’n fwy cyfforddus yn bwydo wrth led-orwedd, gyda’ch corff a’ch pen wedi’u cynnal yn llwyr. Yn y safle hwn, mae eich baban yn bwydo wrth orwedd ar eich stumog gyda’i goesau wedi’u plygu yn y pen-glin. Fel hyn gall eich baban symud tuag at eich teth a’ch bron ar ei ben ei hun, gyda rhywfaint o arweiniad ysgafn os oes angen. Fel arall, efallai y bydd yn well gennych chi fwydo ar y fron wrth eistedd gyda’ch baban yn gorwedd ar draws eich corff neu mewn gafael rygbi.

  • Eisteddwch yn gyfforddus gyda’ch cefn wedi’i gynnal yn dda a’ch traed yn wastad ar y llawr neu wedi’u codi ar stôl neu flwch fel bod eich glin yn wastad.
  • Cadwch gorff eich baban mewn llinell syth gyda’i gorff cyfan yn eich wynebu ac yn eich cyffwrdd. 
  • Mae angen cynnal gwddf, ysgwyddau a chefn eich baban, ond dylech osgoi cyffwrdd â’i ben, fel y gall wyro ei ben yn ôl yn hawdd. 
  • Symudwch eich baban o’r rhigol bronnau tuag at eich teth. 
  • Gwnewch yn siŵr bod gwefus isaf a gên eich baban yn cysylltu â’ch bron yn gyntaf. 

Arwyddion bod Baban wedi gosod ei hun yn Sownd yn Effeithiol 

Drawing by Jenny Richardson
  • Mae gan eich baban ddarn sylweddol o’r fron yn ei geg. 
  • Mae gên eich baban yn cyffwrdd yn gadarn â’ch bron. 
  • Mae ceg eich baban yn llydan agored. 
  • Os gallwch chi weld y croen tywyll o amgylch eich teth, dylech allu gweld mwy o groen tywyll uwchben gwefus uchaf eich baban nag o dan wefus isaf eich baban. 
  • Dyw e ddim yn brifo wrth i’ch baban fwydo (er y gall yr ychydig sugnadau cyntaf deimlo’n gryf).
  • Ni ddylai fod unrhyw newid yn siâp neu liw eich teth ar ôl bwydo e.e. ni ddylai edrych fel siâp minlliw ac ni ddylid gallu gweld llinellau ar draws y deth. 
  • Mae bochau eich baban yn aros yn grwn wrth iddo sugno. 
  • Mae eich baban yn cymryd sugnadau hir ac yn llyncu mewn ffordd rythmig (mae’n normal i’ch baban oedi o bryd i’w gilydd). 
  • Mae eich baban yn gorffen bwydo ac yn dod oddi ar y fron ar ei ben ei hun. 
  • Gallwch chi glywed a gweld eich baban yn llyncu’r llaeth er y bydd yn cymryd seibiant weithiau. 
  • Mae’r baban yn cynhyrchu cewynnau gwlyb/trwm rheolaidd; dylai carthion (pŵ) fod yn feddal ac yn felyn o ddiwrnod 4/5 gyda 2 neu ragor o gewynnau budr y dydd gyda charthion o faint darn arian £2 o leiaf. 
  • O tua 6 wythnos bydd maint y carthion yn amrywio o ddydd i ddydd, yn aml bydd mwy ohono. Efallai na fydd eich baban yn cael cewyn budr bob dydd. Byddwch chi’n dod i adnabod patrwm eich baban.

Mae’r materion canlynol yn arwyddion posibl efallai y byddai’n beth da newid y ffordd y mae’r baban yn cydio yn y deth.  Dydy’r pethau hyn ddim bob amser yn cael eu hachosi gan y ffordd y mae’r baban yn cydio yn y deth, ond mae’n werth ceisio addasu’r ffordd rydych chi’n dal eich baban ac yn dod ag ef tuag at y fron cyn ystyried unrhyw esboniadau eraill: 

  • Mae’r baban yn dechrau bwydo ac yna’n tynnu i ffwrdd 
  • Tethi wedi cracio neu’n boenus 
  • Mae’r baban yn methu setlo neu’n llawn colig 
  • Mae’r bronnau’n gollwng 
  • Mae’r baban yn brwydro yn erbyn y fron neu’n ei gwrthod 
  • Mae’r baban yn deffro’n aml yn y nos 
  • Mae gan y baban ben-ôl dolurus, carthion dyfrllyd neu wyrdd 
  • Ennill pwysau yn araf 
  • Dwythellau wedi’u blocio neu fastitis 
  • Mae trwyn y baban wedi’i rwystro gan fron y fam 
  • Cyfnodau bwydo aml a/neu hir iawn

Mae yna rai darluniau a rhagor o wybodaeth yn Off to the Best Start. 

Os hoffech chi siarad am safle eich baban a’r broses o’i osod yn sownd neu gydio yn y deth yn fwy manwl, gallech chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron i siarad ag aelod o’r criw cofrestredig sy’n cynnig cefnogaeth Bwydo ar y Fron. Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ar 0300 100 0212, neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae gwe-sgwrs ar gael hefyd. 

Dyma rai dolenni i wefannau bwydo ar y fron allanol gyda lluniadau llinell a delweddau sy’n rhoi awgrymiadau ar sut i osod eich baban at y fron yn gywir: 

  • When Latching gan Jack Newman MD, FRCPC, IBCLC ac Edith Kernerman IBCLC 
  • Gwefan a chlipiau fideo Jack Newman
  • Gwefan bwydo ar y fron y GIG
  • Llyfrynnau gwybodaeth UNICEF – Baby Friendly Initiative Information (gyda delweddau) i’w lawrlwytho
  • Gwybodaeth am fwydo gan ParentClub Scotland sy’n cynnwys gwybodaeth am dynnu llaeth â llaw 

Siaradwch ag aelod o’r criw cofrestredig sy’n cynnig cefnogaeth Bwydo ar y Fron

Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Neu siaradwch â ni trwy we-sgwrs pan fydd ar gael.

0300 100 0212

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2025 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up