Cyn i’ch baban gael ei eni, ac am yr ychydig ddyddiau cyntaf wedyn, bydd eich bronnau yn cynhyrchu colostrwm. Mae colostrwm yn hylif gwerthfawr iawn. Mae’n cynnwys llawer iawn o brotein, imiwnoglobwlinau, fitaminau, cyfryngau gwrth-heintus, celloedd byw a mwynau. Gellir ei ddisgrifio fel rhywbeth bach ond gwerthfawr iawn; mae digonedd ynddo er mwyn i’r baban gael popeth sydd ei angen arno a’i amsugno ar unwaith i’w system dreulio.
Mae llaeth aeddfed yn dechrau cymysgu â cholostrwm ychydig ddyddiau ar ôl geni. Cyfeirir at hyn yn aml fel llaeth “yn dod i mewn”. Pan fydd eich llaeth yn dod i mewn, gall eich bronnau deimlo’n drymach neu’n llawnach, neu hyd yn oed yn orlawn, er nad yw hyn yn wir i bawb.
Pan fydd eich baban yn dechrau bwydo, mae’r llaeth aeddfed yn uchel mewn dŵr, fitaminau sy’n toddi mewn dŵr, protein, a lactos, ac mae’n cynnwys rhywfaint o fraster hefyd.
Wrth i’r bwydo symud yn ei flaen, mae’r llaeth yn dod yn fwy hufennog a chyfoethog mewn brasterau hanfodol a fitaminau sy’n toddi mewn braster. Mae braster yn bresennol drwy gydol y cyfnod bwydo; ond mae’n mynd yn fwy crynodedig wrth i’r cyfnod bwydo symud yn ei flaen.
Yn gyffredinol, y mwyaf meddal yw eich bron, yr uchaf yw lefel y braster sydd ar gael, a’r llawnach yw eich bron, yr isaf yw lefel y braster sydd ynddi. Mae hyn yn golygu y bydd bwydo mewn clystyrau gyda’r nos neu pan fydd eich baban yn arbennig o lwglyd yn rhoi mwy o galorïau i fodloni baban llwglyd. Mae lefel y braster yn eich llaeth yn cynyddu’n raddol wrth fwydo, does dim newid sydyn.
