Mae croen-wrth-groen yn golygu dal eich baban heb ddim byd amdano neu pan mae’n gwisgo cewyn yn unig, fel bod ei groen yn dod i gysylltiad â chroen noeth eich bron a’ch bol. Fel arfer, y fam neu’r rhiant geni sy’n gwneud hyn, er y gall rhieni a rhai eraill sy’n rhoi gofal wneud hynny hefyd.
Mae’r dull croen-wrth-groen yn cynnig llawer o fanteision i chi a’ch baban. Mae’n tawelu eich baban ac yn ei helpu i gynnal tymheredd ei gorff a chyfradd curiad y galon. Mae’n eich helpu i adeiladu eich cyflenwad llaeth ac yn help o ran dechrau arni gyda bwydo ar y fron oherwydd bod eich bronnau ar gael yn rhwydd i’ch baban yn y dyddiau cynnar hynny.
Mae UNICEF:
- yn argymell eich bod yn cael cyswllt croen-wrth-groen â’ch baban ar ôl geni, o leiaf nes ar ôl bwydo ar y fron am y tro cyntaf ac am mor hir ag y dymunwch
- yn eich annog i gynnig bwydo croen-wrth-groen am y tro cyntaf pan fydd eich baban yn dangos arwyddion ei fod yn barod i fwydo
- os nad ydych chi a’ch baban yn gallu cael cyswllt croen yn syth ar ôl geni, rydych chi’n cael eich annog i ddechrau cyswllt croen cyn gynted ag y gallwch, pryd bynnag neu ble bynnag fydd hynny
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gyda bwydo, yn fuan ar ôl geni neu hyd yn oed yn yr wythnosau cyntaf a thu hwnt, gall treulio amser croen-wrth-groen gyda’ch baban wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Weithiau gall bwydo beri straen. Mae mynd yn ôl i dreulio amser gyda’ch gilydd yn cael mwythau a maldod mewn cyswllt croen-wrth-groen, heb unrhyw bwysau i fwydo, yn gallu eich helpu chi a’ch baban i ymlacio a gwneud bwydo’n haws. Hyd yn oed os nad yw’n helpu gyda bwydo, gall mwythau a maldod croen-wrth-groen eich helpu chi a’ch baban i greu perthynas glos.
Gallwch chi ymweld â gwefan UNICEF i gael rhagor o wybodaeth am gsswllt croen-wrth- groen.