Mae bwydo ar y fron yn gweithio orau pan fyddwch chi’n bwydo eich baban yn ymatebol. Nid oes terfyn o ran pa mor aml y gallwch chi gynnig eich bron i’ch baban. Yn yr wythnosau cynnar yn enwedig, gallwch chi fwydo eich baban ar y fron bob tro y mae’n dymuno cymryd llaeth. Nid yw baban newydd wedi arfer â theimlo’n llwglyd a bydd yn teimlo’n flin ac yn unig os nad yw ei anghenion yn cael eu diwallu. Mae gan fabanod fol bach ac maen nhw’n gallu treulio llaeth y fron yn gyflym, felly mae angen iddyn nhw fwydo’n aml. Gallwch chi fwydo eich baban ar y fron i’w gysuro neu i’w helpu i gysgu hefyd.
Gallwch chi fwydo eich baban pryd bynnag y byddwch chi’n teimlo eich bod eisiau gwneud hynny, er enghraifft os ydych chi’n teimlo bod eich bronnau yn mynd yn orlawn, neu os ydych chi ar fin gwneud rhywbeth fel mynd i apwyntiad, bwyta pryd o fwyd neu gael bath ac eisiau bod yn siŵr na fydd y baban yn llwglyd tra byddwch chi’n brysur.
Bwydo ar y fron yn ymatebol yw’r ffordd orau o sicrhau eich bod chi hefyd yn sefydlu a chynnal cyflenwad llaeth da a bydd yn helpu eich bronnau i deimlo’n gyfforddus ac yn osgoi bronnau gorlawn. Bydd bwydo’n aml ac yn ymatebol, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, yn helpu i sefydlu eich cyflenwad llaeth. Os byddwch yn ceisio bwydo i amserlen neu adael amser penodol rhwng bwydo, gall eich cyflenwad llaeth ostwng.
Mae arwyddion cynnar o fod eisiau bwyd yn cynnwys:
- troi pen neu chwilio am y fron (rooting)
- symud ei lygaid neu ei ben o ochr i ochr
- gwingo
- chwifio neu sugno dyrnau
- gwneud synau murmur
Mae crio a gofid yn arwyddion hwyr o fod eisiau bwyd, ac mae’n anoddach bwydo baban ar y fron os yw mewn cyflwr fel hyn, felly bydd ymateb i arwyddion cynnar yn helpu i wneud bwydo ar y fron yn haws ac yn brofiad mwy tawel.
Fel canllaw, dylech chi ddisgwyl bwydo eich baban o leiaf 10 gwaith bob 24 awr, gan gynnwys yn ystod y nos, ond gall y patrwm fod yn amrywiol iawn, ac mae’n gyffredin i fabanod fwydo’n amlach.