Mae cael y dechrau gorau posibl yn gallu bod yn rhan allweddol o’ch taith bwydo ar y fron.
Mae pedwar ffactor allweddol wedi’u nodi gan Sefydliad Iechyd y Byd ac UNICEF fel rhai sy’n bwysig wrth sefydlu a chynnal bwydo ar y fron:
- Gall bwydo ar y fron o fewn awr gyntaf bywyd – a chyswlltcroen-wrth-groen ar ôl genedigaeth – helpu i ddechrau hyn.
- Bwydo ar y fron yn unig – nid oes angen unrhyw fwydydd neu ddiodydd eraill ar fabanod sy’n cael eu bwydo ar y fron, gan gynnwys dŵr, am o leia’r chwe mis cyntaf.
- Bwydo ar y fron pan fydd eich baban yn dangos arwyddion o fod yn llwglyd, fel sugno’i fysedd a llyfu gwefusau, ac am yr amser mae eich baban eisiau h.y. nes bod eich baban yn dod oddi ar y fron ar ei ben ei hun ac wedi gorffen bwydo.
- Osgoi defnyddio poteli, tethi neu ddymis, gan gynnwys gorchuddion teth.
I gael rhagor o wybodaeth:
Darllenwch a lawrlwythwch daflen y GIG ac UNICEF Off to the Best Start neu daflen NHS Health Scotland Off to A Good Start i gael gwybodaeth gyffredinol dda gan gynnwys cyswllt croen-wrth-groen a bwydo am y tro cyntaf.
Ystyriwch fynd draw i grŵp galw heibio lleol lle gallwch chi siarad â mamau a rhieni eraill sy’n bwydo ar y fron am eu profiadau nhw. Edrychwch yma i weld os oes grŵp ar gael yn agos i chi.
Rhowch nod tudalen ar gyfer BfN a’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar eich ffôn, gliniadur neu gyfrifiadur llechen neu eu hychwanegu at eich ffefrynnau fel y gallwch chi ddod o hyd i’n rhifau llinell gymorth neu gael mynediad i’n cyfleuster sgwrsio ar-lein yn hawdd. Gallech chi hyd yn oed roi galwad iddyn nhw os hoffech chi siarad â rhywun pan yn feichiog.