• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Accreditations and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
  • Feeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Using infant formula to feed your baby
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Charity Events
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
    • Legacy Gifting
    • Give As You Earn
Home » Gwybodaeth am Fwydo » Defnyddio fformiwla babanod i fwydo’ch…

Defnyddio fformiwla babanod i fwydo’ch babi

Read this page in English

Mae llawer o rieni yn rhoi llaeth fformiwla babanod i’w babi a hefyd yn bwydo ar y fron. Bwydo cymysg neu fwydo cyfunol yw’r enw ar roi bwyd fformiwla i’ch babi a hefyd ei fwydo ar y fron, naill ai am ychydig ddyddiau neu am gyfnod hirach.

Oes gennych chi gwestiynau am ddefnyddio llaeth fformiwla neu gyfuno bwydo ar y fron a bwydo fformiwla? Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar fwydo’ch babi, mae croeso i chi ffonio Llinell Gymorth Genedlaethol y DU ar gyfer Bwydo ar y Fron neu gallwch chwilio am grŵp cymorth gan gymheiriaid lleol yn eich ardal.

Gwybodaeth am linellau cymorth
Chwilio am grŵp

Powdwr llaeth buwch wedi’i brosesu a’i drin i’w wneud yn addas ar gyfer babanod yw llaeth fformiwla (defnyddir llaeth gafr yn lle llaeth buwch weithiau). Yn y DU, mae rheoliadau cyfreithiol yn nodi’r cynhwysion sylfaenol y mae’n rhaid i bob fformiwla ar gyfer babanod eu cynnwys i sicrhau eu bod yn darparu digon o faeth i fabanod. Mae hyn yn golygu bod gan bob llaeth fformiwla yr un cyfansoddiad yn y bôn. Does dim unrhyw dystiolaeth bod fformiwlâu drud yn well i fabanod na rhai rhatach.

Mae gwefan First Steps Nutrition yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am ddewis llaeth fformiwla i fabanod. Mae rhieni weithiau’n poeni y gall newid brand fformiwla achosi problemau, ond does dim unrhyw dystiolaeth bod newid i fformiwla arall yn gwneud unrhyw les na niwed.

Gall y mwyafrif o fabanod sy’n cael eu bwydo â fformiwla neu ddull cyfunol yn eu blwyddyn gyntaf gael llaeth fformiwla cyntaf (sy’n cael ei alw weithiau’n llaeth cam cyntaf neu gam 1). Dydy llaeth fformiwla dilynol, llaeth plentyn bach neu laeth tyfu ddim yn anghenrheidiol nac yn cael ei argymell. Ar ôl troi’n flwydd oed, does dim angen llaeth fformiwla ar fabanod. Gallan nhw yfed llaeth buwch cyflawn, yn ogystal â pharhau i fwydo ar y fron os mai dyna’ch dewis.

Mae’n bwysig eich bod yn paratoi llaeth fformiwla yn ddiogel, gan ddilyn y canllawiau ar faint o bowdr a dŵr i’w defnyddio yn ofalus. Mae llawer o wybodaeth am baratoi llaeth fformiwla i fabanod ar wefan Start for Life y GIG.

 Pwyntiau pwysig i’w cofio:

  • Paratowch boteli gan ddefnyddio dŵr wedi’i ferwi’n ffres sy’n 70°C o leiaf. Ewch ati i ferwi litr o ddŵr tap ffres yn y tegell a gadael iddo oeri am ddim mwy na 30 munud. Mae hyn yn sicrhau bod y dŵr yn ddigon poeth i ladd unrhyw facteria niweidiol yn y llaeth fformiwla powdr.
  • Defnyddiwch y swm cywir o bowdr llaeth fformiwla i baratoi potel bob amser. Gallai defnyddio gormod neu rhy ychydig o bowdr wneud eich babi yn sâl.
  • Cofiwch lanhau a sterileiddio poteli a thethi cyn pob defnydd.

Gall bwydo’ch babi fod yn gyfle gwych i dreulio amser tawel gyda’ch gilydd a dod i nabod ei gilydd. Yn ddelfrydol, dim ond un neu ddau o brif ofalwyr fyddai’n rhoi’r rhan fwyaf o’i laeth i’ch babi yn ystod yr wythnosau cyntaf fel bod gennych chi amser i glosio a meithrin perthynas agos. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod pawb yn bwydo’ch babi yn yr un ffordd.

Does dim angen amserlen fwydo benodol arnoch. Yn hytrach, mae’n werth chweil sylwi ar arwyddion bwydo eich babi a’i fwydo pan mae’n llwglyd. Sylwch ar arwyddion ei fod wedi cael digon o laeth a pheidiwch â’i orfodi i orffen potel. Mae rhagor o wybodaeth am fwydo ymatebol, arwyddion bwydo a bwydo potel ar wefan Best Start in Life. Mae’r wybodaeth hon yn ddefnyddiol os ydych chi’n bwydo llaeth fformiwla babanod i’ch babi neu’n rhoi llaeth y fron mewn potel.

Rhagor o wybodaeth am baratoi llaeth fformiwla i fabanod yn ddiogel a bwydo â photel ymatebol

Bwydo eich babi â photel – Best Start in Life – NHS

Bwydo’ch babi  – Best Start in Life – NHS

Paratoi fformiwla babanod – NHS

Bwydo fformiwla – Parentclub Scotland

Bwydo â photel ymatebol – UNICEF

Paratoi fformiwla babanod – NHS Wales

Cyngor ar fwydo â photel – NHS Wales

Infant formula recalls – Food Standards Agency

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2026 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up