• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Accreditations and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
  • Feeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Using infant formula to feed your baby
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference 2025
    • AGM
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
    • Legacy Gifting
Home » Gwybodaeth am Fwydo » Parhau â’r daith bwydo ar y fron » Cychwyn ar fwydydd solet

Cychwyn ar fwydydd solet

Read this page in English

Mae’r canllawiau presennol gan y GIG yn awgrymu ei bod hi’n well aros hyd nes y bydd eich babi tua chwe mis oed cyn cyflwyno bwydydd heblaw llaeth. Os yw babi iau yn deffro’n amlach neu’n sugno ei ddyrnau, bydd rhieni weithiau’n meddwl ei fod yn barod am fwydydd solet, ond dydy hynny ddim o reidrwydd yn wir.

Mae yna dri arwydd bod babi yn barod ar gyfer bwydydd solet:

  1. Mae’r babi yn gallu eistedd i fyny heb gymorth
  2. Mae’r babi yn gallu edrych ar y bwyd, defnyddio ei fysedd i’w godi, a’i symud at ei geg
  3. Mae’r babi yn gallu llyncu’r bwyd yn hytrach na’i boeri allan.

Pan fyddwch chi’n dechrau cyflwyno bwydydd solet, gallech ddewis defnyddio llwy i roi bwyd stwnsh i’ch babi i ddechrau, neu gallech roi cynnig ar ddiddyfnu dan arweiniad y babi. Ystyr diddyfnu dan arweiniad y babi yw cynnig darnau o fwyd i’r babi fel ei fod yn bwydo ei hun. Mae diddyfnu dan arweiniad y babi yn gweithio’n dda i rai. Gallech roi cynnig ar y dull hwn, ei gyfuno â bwyd stwnsh, neu gadw at fwyd stwnsh yn unig i ddechrau.

Fitaminau a llaeth

Llaeth y fron (neu fformiwla cam cyntaf) fydd prif faeth pob babi tan ei fod yn troi’n flwydd oed. Mae angen parhau i roi llaeth i’ch babi ar ôl cyflwyno bwydydd solet.

Mae canllawiau presennol y GIG yn awgrymu y dylid rhoi fitamin D i bob babi sy’n cael ei fwydo ar y fron adeg ei eni hyd nes ei fod yn chwe mis oed. Yna, rhwng chwe mis a phum mlwydd oed, dylid rhoi fitaminau A, C a D fel atchwanegyn (does dim angen hyn ar fabanod sy’n cael o leiaf 500ml o fformiwla y dydd).

Gallwch ddarllen mwy am ddechrau rhoi bwydydd solet i’ch babi yma:

www.nhs.uk/conditions/baby/weaning-and-feeding/babys-first-solid-foods/

Awgrymiadau ar gyfer cyflwyno bwydydd solet gan ddefnyddio dull diddyfnu dan arweiniad y babi

Bydd yr awgrymiadau canlynol o flog gwadd Gill Rapley ar ddechrau bwydydd solet yn eich helpu chi a’ch babi i fanteisio’n llawn ar wythnosau cyntaf rhoi bwydydd solet i’ch babi:

  1. Gallwch ddechrau cynnwys eich babi yn nhrefn amser bwyd eich teulu cyn gynted ag y caiff ei eni. Bydd yn mwynhau cael blas ar y golygfeydd, y synau a’r arogleuon sy’n gysylltiedig â bwyd a bwyta, a bod yn rhan o sgyrsiau amser bwyd. Hefyd, gallwch helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer prydau bwyd a rennir trwy roi cynnig ar baratoi bwyd a fydd yn dda i chi a’ch babi – er enghraifft, bwyd heb halen na siwgr ychwanegol. Dylech wneud eich gorau glas i baratoi a choginio’ch bwyd eich hun o’r dechrau cymaint ag y gallwch chi a cheisio osgoi bwydydd wedi’u prosesu’n helaeth.  
  1. Unwaith y bydd eich babi yn gallu dal ei ben a’i gorff yn sefydlog wrth eistedd, a’i fod yn dangos diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd, gallwch ddechrau rhoi rhywfaint o’r hyn rydych chi’n ei fwyta o flaen eich babi, i weld sut mae’n ymateb. Efallai y bydd yn symud y bwyd tuag at ei geg. Er ei bod yn annhebygol iawn y bydd yn bwyta’r bwyd, bydd yn dysgu am olwg, arogl a gwead y bwyd. 
  1. Gallwch roi cyfle i’ch babi ymuno pryd bynnag y bydd aelod arall o’r teulu yn bwyta. Y nod yw helpu’ch babi i ennill profiad, nid llenwi ei fol, felly does dim angen cyfyngu’r cyfle hwn i unwaith neu ddwywaith y dydd. Trwy eich gwylio chi yn bwyta eich bwyd eich hun, bydd eich babi yn dysgu yn gynt. 
  1. Ceisiwch osgoi cynnig bwyd i’ch babi pan fydd yn llwglyd neu’n flinedig. Fydd ganddo fawr o ddiddordeb mewn gweithgaredd newydd os oes angen bwyd neu gwsg arno. Dylech gynnig llaeth neu gyfle i gael cwsg bach yn lle hynny. Yn gyffredinol, dylech barhau i roi llaeth i’ch babi fel arfer, ar adegau rhwng amser prydau bwyd eich teulu, hyd nes y bydd eich babi yn dechrau gofyn am laeth yn llai aml. 
  1. Mae cadair uchel yn ddefnyddiol (mae cadair â stôl droed y gellir ei haddasu yn ddelfrydol). Fodd bynnag, does dim rhaid i chi ddefnyddio cadair o’r fath cyn belled â’ch bod yn gallu dal eich babi yn gadarn yn eich col. Dylech sicrhau bod eich babi yn eistedd yn unionsyth, a pheidiwch byth â’i adael ar ei ben ei hun gyda bwyd. 
  1. Dylai bwydydd cyntaf eich babi gael eu cynnig ar ffurf darnau o fwyd o’r un siâp a maint â’ch bysedd. Drwy wneud hyn, bydd eich babi yn gallu gafael yn y bwyd gyda’i ddwrn a chnoi’r darn sy’n sticio allan.  
  1. Dylech sicrhau bod modd gwasgu’r bwyd ond nad yw mor feddal fel ei fod yn chwalu. Mae’r posibiliadau yn cynnwys ffrwythau, llysiau, pasta, tost, omled, stribedi o gig a darnau bach o bysgod. Efallai y bydd yn haws i’ch babi afael mewn bwydydd llithrig os ydyn nhw’n cael eu trochi mewn hadau wedi’u malu, neu os ydych chi’n cadw rhywfaint o groen arnyn nhw.  
  1. Does dim angen cyfyngu’ch babi i un math o fwyd ar y tro – bydd detholiad o ddau neu dri math o fwyd gwahanol yn helpu’ch babi i ddechrau gwneud cymariaethau a dewisiadau. Ceisiwch gynnig amrywiaeth o ran lliw a gwead, a cheisiwch gynnig rhywbeth o bob un o’r prif grwpiau bwyd bob dydd. . 
  1. Dylai eich babi ddefnyddio ei fysedd yn bennaf i fwyta’r bwyd ond gallwch gynnig bwydydd hylifol (fel iogwrt) ar lwy os ydych chi eisiau. 
  1. Mae rhywfaint o lanast yn anochel, ac mae’n rhan o’r broses ddysgu. Gallai rhoi bib ar eich babi helpu, cyn belled nad yw’n ei gwneud hi’n anodd i’ch babi weld a thrafod y bwyd. Ceisiwch osgoi llewys – byddan nhw’n rhwystro’r broses fwydo ac wedi’u gorchuddio â bwyd cyn i chi droi! 
  1. Gallech roi dalen blastig neu liain bwrdd ar y llawr lle mae eich babi yn eistedd. Trwy wneud hyn, gallech roi darnau o fwyd sy’n cael eu gollwng yn ôl i’ch babi, a bydd yn haws tacluso ar ddiwedd y pryd.  
  1. Dylech osgoi’r demtasiwn i frysio’ch babi neu roi bwyd yn ei geg. Mae angen i’ch babi reoli’r broses fwyta, o safbwynt pleser a diogelwch. Does dim angen ei ganmol chwaith – gadewch iddo archwilio. Os yn bosibl, arhoswch nes ei fod yn colli diddordeb yn y bwyd cyn sychu ei geg a’i ddwylo. 

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2026 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up