• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Achievements and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
      • Press Coverage
  • Breastfeeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Baby breastfeeds all the time
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Donate
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference and AGM 2025
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
Home » Gwybodaeth am Fwydo ar y Fron » Dechrau arni gyda bwydo ar y fron  » Bwydo ar y fron yn ymatebol

Bwydo ar y fron yn ymatebol

Mae bwydo ar y fron yn gweithio orau pan fyddwch chi’n bwydo eich baban yn ymatebol. Nid oes terfyn o ran pa mor aml y gallwch chi gynnig eich bron i’ch baban. Yn yr wythnosau cynnar yn enwedig, gallwch chi fwydo eich baban ar y fron bob tro y mae’n dymuno cymryd llaeth. Nid yw baban newydd wedi arfer â theimlo’n llwglyd a bydd yn teimlo’n flin ac yn unig os nad yw ei anghenion yn cael eu diwallu. Mae gan fabanod fol bach ac maen nhw’n gallu treulio llaeth y fron yn gyflym, felly mae angen iddyn nhw fwydo’n aml. Gallwch chi fwydo eich baban ar y fron i’w gysuro neu i’w helpu i gysgu hefyd.

Gallwch chi fwydo eich baban pryd bynnag y byddwch chi’n teimlo eich bod eisiau gwneud hynny, er enghraifft os ydych chi’n teimlo bod eich bronnau yn mynd yn orlawn, neu os ydych chi ar fin gwneud rhywbeth fel mynd i apwyntiad, bwyta pryd o fwyd neu gael bath ac eisiau bod yn siŵr na fydd y baban yn llwglyd tra byddwch chi’n brysur.

Bwydo ar y fron yn ymatebol yw’r ffordd orau o sicrhau eich bod chi hefyd yn sefydlu a chynnal cyflenwad llaeth da a bydd yn helpu eich bronnau i deimlo’n gyfforddus ac yn osgoi bronnau gorlawn. Bydd bwydo’n aml ac yn ymatebol, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, yn helpu i sefydlu eich cyflenwad llaeth. Os byddwch yn ceisio bwydo i amserlen neu adael amser penodol rhwng bwydo, gall eich cyflenwad llaeth ostwng.

Mae arwyddion cynnar o fod eisiau bwyd yn cynnwys:   

  • troi pen neu chwilio am y fron (rooting)
  • symud ei lygaid neu ei ben o ochr i ochr  
  • gwingo
  • chwifio neu sugno dyrnau  
  • gwneud synau murmur

Mae crio a gofid yn arwyddion hwyr o fod eisiau bwyd, ac mae’n anoddach bwydo baban ar y fron os yw mewn cyflwr fel hyn, felly bydd ymateb i arwyddion cynnar yn helpu i wneud bwydo ar y fron yn haws ac yn brofiad mwy tawel.

Fel canllaw, dylech chi ddisgwyl bwydo eich baban o leiaf 10 gwaith bob 24 awr, gan gynnwys yn ystod y nos, ond gall y patrwm fod yn amrywiol iawn, ac mae’n gyffredin i fabanod fwydo’n amlach.

        Footer

        Contact us

        Helplines | Online chat

        Copyright © 2025 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
        Accessibility | Privacy Notice | Members area

        Scroll Up