• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Achievements and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
      • Press Coverage
  • Breastfeeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Baby breastfeeds all the time
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Donate
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference and AGM 2025
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
Home » Gwybodaeth am Fwydo ar y Fron » Ystyried Bwydo ar y Fron? » Am ba hyd ddylwn i fwydo ar y fron? 

Am ba hyd ddylwn i fwydo ar y fron? 

Mae’r penderfyniad ynghylch pa mor hir i fwydo ar y fron yn un personol iawn a gall ddibynnu ar nifer o ffactorau. Rydyn ni’n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i’ch helpu chi i wneud y penderfyniad sy’n iawn i chi a’ch baban.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ac UNICEF yn argymell eich bod yn bwydo eich baban ar y fron yn unig am y chwe mis cyntaf (tua 26 wythnos), a’ch bod yn parhau i fwydo ar y fron ochr yn ochr â chyflwyno bwydydd solet am ddwy flynedd neu ragor. Y gwir amdani yw, er bod y rhan fwyaf o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron ar y dechrau, ychydig iawn o fabanod yn y DU sy’n parhau i gael eu bwydo ar y fron y tu hwnt i’r misoedd cyntaf gan fod cyfraddau bwydo ar y fron yn y DU ymhlith yr isaf ar gyfer unrhyw wlad ddatblygedig.

Mae hyn yn golygu nad yw ein cymdeithas wedi arfer bob amser â gweld bwydo ar y fron a gall ysgolion, colegau, cyflogwyr, teuluoedd a chymunedau fod â diffyg ymwybyddiaeth o fwydo ar y fron. Gall hyn wneud y penderfyniad i fwydo ar y fron a pharhau i fwydo ar y fron yn anoddach i chi, yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid fel mynd yn ôl i astudio neu ddychwelyd i’r gwaith.

Mae cefnogaeth a dealltwriaeth o fwydo ar y fron yn tyfu. Rydyn ni’n gwybod bod pob diferyn o laeth y fron y mae baban yn ei gael yn werthfawr ac os byddwch yn parhau i fwydo ar y fron yn hirach, byddwch chi a’ch baban yn cael mwy o fanteision.

Mae pob mis o fwydo ar y fron yn lleihau’r risg o salwch a all olygu bod babanod yn gorfod mynd i’r ysbyty. Mae’n helpu i amddiffyn babanod rhag mynd dros bwysau neu’n ordew hefyd, sy’n golygu eu bod yn llai tebygol o ddatblygu clefydau fel diabetes yn y dyfodol. Mae pob sesiwn bwydo ar y fron yn fuddiol i’ch baban a bydd bwydo ar y fron am gyfnod byr hyd yn oed, neu mewn cyfuniad â bwydo gyda fformiwla babanod, yn dal i fod o fudd i’ch baban.

Does dim angen penderfynu am ba hyd y byddwch chi’n bwydo ar y fron ar ddechrau eich taith bwydo ar y fron. Gallwch chi fynd o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, ac o fis i fis a hyd yn oed o flwyddyn i flwyddyn. Gallwch chi barhau cyhyd ag y mae’n teimlo’n iawn i chi a’ch plentyn. Gallwn ni ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth gyda rhoi’r gorau i fwydo ar y fron ar unrhyw adeg, os oes ei angen arnoch. Y gred yw mai hyd naturiol bwydo ar y fron yw unrhyw adeg rhwng dwy a saith mlynedd.

Rydyn ni yma i’ch helpu chi i wneud i fwydo ar y fron weithio i chi.

Efallai y bydd y dolenni hyn gan y GIG yn ddefnyddiol:

Talfen – Why breastfeed, Start4Life, Building Blocks leaflet

Gallwch chi ddarllen mwy am fwydo plant bach a phlant hŷn ar y fron yma:

How long should a mother breastfeed? (La Leche League International)

What are the benefits of breastfeeding my toddler? (La Leche League International)

Toddler Breastfeeding – Why on Earth? (Jack Newman’s Site)

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2025 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up