Os na wnaethoch chi fwydo eich plant blaenorol ar y fron, nid yw hynny’n golygu na allwch chi fwydo ar y fron y tro hwn, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Os gawsoch chi drafferth bwydo eich plant blaenorol ar y fron, efallai eich bod chi’n poeni y byddwch chi’n profi’r un problemau eto, ond mae pob profiad o fwydo ar y fron yn wahanol, a gyda chefnogaeth briodol efallai y byddwch chi’n gallu goresgyn problemau a gawsoch chi o’r blaen.
Mae ymchwil wedi dangos bod mamau yn tueddu i gynhyrchu mwy o laeth ar ôl rhoi genedigaeth i’w hail faban, o gymharu â’r cyntaf, felly hyd yn oed os ydych chi’n teimlo eich bod chi wedi cael trafferth cynhyrchu digon o laeth o’r blaen, mae’n werth rhoi cynnig arni eto gan y gallai fod yn haws yr ail dro. Gallwch chi siarad â’ch bydwraig neu gyda rhywun sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron cyn i’ch baban gyrraedd er mwyn ceisio penderfynu beth allai fod wedi achosi eich problemau o’r blaen a gwneud cynllun i fynd i’r afael â’r problemau hynny neu eu hosgoi y tro hwn.
Os wnaethoch chi ddewis peidio â bwydo ar y fron o’r blaen, nid yw hynny’n golygu na allwch chi ddewis bwydo ar y fron y tro hwn os hoffech chi wneud hynny.
Efallai y bydd gennych chi deimladau cymhleth am fwydo baban newydd ar y fron os nad ydych chi wedi bwydo ar y fron o’r blaen. Gallwch chi siarad am y rhain gydag aelod o’r tîm sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron ar y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron.
Cyfeiriadau:
Ingram, J., Woolridge, M., & Greenwood, R. (2001). Breastfeeding: it is worth trying with the second baby. Lancet (London, England), 358(9286), 986–987. https://doi.org/10.1016/S0140-6736(01)06126-8
Stori Marian
Mae Marian yn fam i bedwar o blant. Wnaeth hi ddim llwyddo i fwydo ei thri phlentyn cyntaf ar y fron felly gyda’r pedwerydd plentyn roedd hi’n benderfynol o wneud ei gorau glas. Mae hi’n dweud y gall y 10 diwrnod cyntaf fod yn hollol dyngedfennol i’r fam – ac mae hi’n siarad o brofiad. Mae Marian yn ysgrifennu am ei mab, Paris, sydd bellach yn 15 mis ac yn dal i fwydo ar y fron.
“Roeddwn i wir eisiau bwydo fy mhlant i gyd ar y fron ond roedd yn fethiant llwyr gyda’r tri cyntaf. Wnes i ddim llwyddo i barhau am fwy na 10 diwrnod. Ar y pedwerydd tro, cefais fy nghyflwyno gan fy mydwraig i grŵp newydd ar gyfer bwydo ar y fron yn fy ardal, Breast Friends Ribbleton, yn Preston, Swydd Gaerhirfryn. Roedd y grŵp wedi’i sefydlu gan fenywod a bydwragedd lleol o dan y cynllun Cychwyn Cadarn Roedd pedair menyw newydd gwblhau cwrs 6 wythnos a ddarperir gan BfN. Gyda chymorth ac anogaeth y grŵp hwn yn ogystal â’m bydwragedd, llwyddais i fwydo fy mhedwerydd mab Paris heb unrhyw broblemau o gwbl.
Roeddwn i wedi cael cymaint o ysbrydoliaeth nes i mi ofyn am gael gwneud y cwrs 6 wythnos pan oedd Paris yn 3 mis oed. Rydw i nawr yn helpu i redeg y grŵp. Rydyn ni’n cynnal grŵp galw heibio bwydo ar y fron ar brynhawn dydd Llun. Mae tri ohonom ni’n mynychu clinigau cynenedigol a chlinigau ymwelwyr iechyd yn yr ardal. Rydyn ni ar fin cymhwyso fel Cefnogwyr BfN ar gyfnod prawf a bydd rhai ohonom ni’n helpu i ateb galwadau i Linell Gymorth BfN. Ein nod yw cydgysylltu â’r 4 cynllun Cychwyn Cadarn arall sy’n datblygu yn Preston.
Mae fy mab Paris bellach yn 15 mis oed ac yn dal i fwynhau manteision bwydo ar y fron. Efallai nad yw hyn yn swnio’n arbennig iawn ond galla i ddweud wrthych chi ein bod ni’n famau cyffredin o wahanol gefndiroedd, ystadau cyngor yn bennaf, sydd wedi synnu ein hunain ac yn teimlo’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni. Rydyn ni wedi cael adborth anhygoel gan famau sydd wedi dod i’r grŵp ac sy’n dweud y bydden nhw wedi rhoi’r gorau iddi erbyn hyn oni bai am ein grŵp, ac na fydden nhw wedi cael cefnogaeth. Rwy’n gwybod na fyddwn i’n bwydo Paris ar y fron nawr oni bai am gefnogaeth y grŵp hwn a’r BfN.
Siaradwch ag aelod o’r criw cofrestredig sy’n cynnig cefnogaeth Bwydo ar y Fron
Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Neu siaradwch â ni trwy we-sgwrs pan fydd ar gael.
0300 100 0212