• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

The Breastfeeding Network HomepageThe Breastfeeding Network

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
National Breastfeeding Helpline logo
  • About Us
    • Contact Us
    • Our Vision and Aims
    • Achievements and Awards
    • Our Services
    • Governance Information
    • Who’s Who
      • BfN Central Staff Team
      • BfN Board of Directors
    • Media Centre
      • Press Coverage
  • Breastfeeding Information
    • Mastitis Information
    • Thinking of Breastfeeding?
      • Why Breastfeed?
      • What Do I Need?
      • What to Expect
      • Worried You Can’t Breastfeed?
      • You Didn’t Breastfeed Your Other Children
      • How Long Should You Breastfeed For?
    • Getting Started with Breastfeeding
      • How to Breastfeed
      • Responsive Breastfeeding
      • Establishing and Increasing Milk Supply
      • How To Know Your Baby is Getting Enough Milk
      • Skin-to-skin
      • Your Breastmilk in the First Week
    • Breastfeeding Challenges
      • Pain: If Breastfeeding Hurts
      • Low milk supply and helping your baby gain weight
      • Baby won’t latch
      • Baby breastfeeds all the time
      • Reflux and your baby
      • Cows milk protein allergy (CMPA) & lactose intolerance in breastfed babies
      • Tongue tie
    • Continuing the breastfeeding journey
      • Breastfeeding in public
      • Expressing and storing breastmilk
      • Returning to work or study
      • Introducing a bottle
      • Starting solids
      • Donating milk/milk banking
    • Diversity in Breastfeeding
    • Can I breastfeed if…
  • Get Support
  • Get Involved
    • Donate
    • Vacancies
    • Train with us
    • Fundraising
    • Volunteer for Us
    • Become a Friend
    • BfN Breastfeeding Friendly Scheme
    • Conference and AGM 2025
  • Resources
    • Drugs in Breastmilk factsheets
    • Shop
    • Publications & Leaflets
    • National Breastfeeding Helpline Resources
    • Breastfeeding information for children and young people
  • Blog
  • Donate
Home » Gwybodaeth am Fwydo ar y Fron » Ystyried Bwydo ar y Fron? » Beth i’w ddisgwyl 

Beth i’w ddisgwyl 

Pa mor aml fydd angen i mi fwydo fy maban? 

Mae patrymau bwydo yn wahanol i bob baban, ond gallwch chi ddisgwyl bwydo eich baban o leiaf 10-12 gwaith bob 24 awr yn yr wythnosau cyntaf. Gall babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron fwydo’n aml iawn weithiau, yn enwedig yn y dyddiau cynnar. Mae bwydo ar y fron yn fwy na dim ond ffordd o fwydo baban, mae’n berthynas ac yn ffordd o rianta. Gall babanod fwydo oherwydd eu bod yn llwglyd neu’n sychedig, ond hefyd am eu bod nhw eisiau cysur, er mwyn lleddfu poen, neu i’w helpu i gysgu. Mae’n normal ac yn iach bwydo’ch baban am yr holl resymau hyn. Allwch chi ddim gorfwydo baban sy’n cael ei fwydo ar y fron.

Pan fydd eich baban yn cael ei eni, bydd ganddo stumog fach iawn a bydd angen iddo fwydo’n aml iawn trwy gydol y dydd a’r nos gan ei fod yn treulio’r ychydig laeth y mae’n ei fwyta yn gyflym iawn. Mae’n well bwydo babanod mewn ffordd ymatebol, pryd bynnag y byddan nhw’n rhoi’r argraff eu bod nhw eisiau bwydo (neu bryd bynnag rydych chi’n teimlo fel eu bwydo.)
Mae bwydo’n aml yn ysgogi eich cyflenwad llaeth hefyd ac yn eich paratoi i gynhyrchu digon o laeth i’ch baban yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.

Weithiau gall deimlo mai’r unig beth rydych chi’n ei wneud ar y dechrau yw bwydo, ond wrth i’ch baban dyfu, bydd ei stumog yn mynd yn fwy a bydd yn gallu bwydo’n fwy effeithlon, cymryd mwy o laeth a bydd cyfnodau hirach rhwng sesiynau bwydo.

Mae hyd sesiwn bwydo ar y fron yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol fabanod ac ar adegau gwahanol o’r dydd hefyd. Mae’n normal i sesiwn bwydo ar y fron bara rhwng 5 munud a 40 munud, neu ychydig yn hirach weithiau. Bydd eich baban yn dod oddi ar y fron ar ei ben ei hun pan fydd wedi gorffen bwydo. 

Mae bwydo yn ystod y nos yr un mor bwysig ag yn ystod y dydd. Gall bwydo yn ystod y nos helpu i roi hwb i’ch cyflenwad llaeth gan fod eich lefelau o prolactin, yr hormon sy’n cynhyrchu llaeth, yn uwch. Er y gall rhai babanod ddechrau cysgu’n hirach yn y nos ar ôl ychydig wythnosau neu fisoedd, mae’n normal iddyn nhw ddechrau deffro’n amlach eto, ac i fwydo yn ystod y nos barhau gydol y flwyddyn gyntaf a thu hwnt.

Os yw eich baban yn bwydo trwy’r amser a’ch bod yn poeni, siaradwch â bydwraig, ymwelydd iechyd neu arbenigwr bwydo ar y fron. Efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth arnoch chi gyda’r ffordd rydych chi’n dod â’ch baban at eich bron (safle a chydio yn y deth). Gallwch chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron hefyd.

Pa mor hawdd yw bwydo ar y fron?

I rai, mae bwydo ar y fron yn eithaf didrafferth o’r cychwyn cyntaf, ac i eraill, gall fod yn heriol i ddechrau. Mae bwydo ar y fron yn broses naturiol, ond mae’n sgìl hefyd, a bydd angen i chi a’ch baban ddysgu gyda’ch gilydd. Mae e fel cerdded i ryw raddau. Gall cerdded fod yn naturiol ac yn reddfol, ond mae e dal yn rhywbeth y mae’n rhaid i blant bach ddysgu ei wneud. Maen nhw’n dal i orfod treulio ychydig wythnosau yn ymarfer cyn iddo ddod yn hawdd, ac maen nhw’n dal i fod angen rhywfaint o gymorth ar y dechrau.

Bydd gweithio ar sut rydych chi’n dal eich baban a sut rydych chi’n dod â’r baban at eich bron (safle a chydio yn y deth) a dod i arfer â bwydo mewn ffordd ymatebol yn helpu pethau i fynd yn llawer mwy llyfn, a bydd un o’r bobl sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron yn gallu eich helpu gyda hyn. Ar ôl yr ychydig wythnosau cyntaf, mae’r rhan fwyaf o famau a rhieni yn gweld bod bwydo ar y fron yn cymryd llawer llai o ymdrech nag y gwnaeth ar y dechrau. Mae rhai yn gweld bod bwydo ar y fron yn haws na bwydo gyda fformiwla unwaith y byddan nhw’n dod yn gyfarwydd ag ef, gan does dim angen iddyn nhw boeni am baratoi llaeth powdr a sterileiddio poteli. Os ydych chi’n bwydo ar y fron, mae eich llaeth ar gael i fwydo eich baban bob amser, ble bynnag rydych chi.

Os ydych chi’n gweld bwydo ar y fron yn heriol, neu os ydych chi am sgwrsio â rhywun sydd wedi bwydo o’r blaen i’ch helpu i baratoi pan rydych chi’n feichiog, gallwch alw heibio i un o’n
grwpiau cymorth, neu gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron. 

A yw bwydo ar y fron yn brifo?

Ddylai bwydo ar y fron ddim brifo. Fodd bynnag, mae’n eithaf cyffredin teimlo ychydig yn anghyfforddus wrth ddechrau bwydo ar y fron, er bod rhai yn llwyddo i fwydo heb unrhyw boen o’r cychwyn cyntaf. Efallai y byddwch chi’n cael teimlad cryf iawn (mae rhai yn ei ddisgrifio fel teimlad sy’n eich llorio am eiliad neu ddwy) neu efallai y byddwch chi’n gweld bod eich tethi’n teimlo’n dyner neu’n sensitif am ychydig eiliadau wrth ddechrau bwydo, ond dylai hyn basio’n gyflym.   

Os ydych chi mewn poen wrth fwydo ar y fron, un peth a all helpu fel arfer yw addasu’r ffordd rydych chi’n dal eich baban ac yn dod â’ch baban at eich bron (safle a chydio yn y deth). Weithiau gall addasiad bach wneud gwahaniaeth mawr, o ran pa mor gyfforddus ydych chi a faint o laeth y mae eich baban yn ei gael. Gall rhywun sy’n cynnig cefnogaeth bwydo ar y fron eich helpu i addasu eich safle a’r ffordd y mae’r baban yn cydio yn y deth, gan roi cyfle i chi ddod o hyd i safle sy’n gyfforddus i chi. Gyda chefnogaeth ac ychydig o ymarfer, mae’r rhan fwyaf o famau a rhieni yn canfod yn fuan iawn eu bod yn gallu bwydo ar y fron yn gyfforddus.   Gallwch chi ddarllen mwy yma am sut i roi eich baban yn y safle priodol a’i gael i gydio yn y deth, a mwy am achosion posibl eraill o boen yn y deth ar fron yma

Os yw bwydo ar y fron yn boenus i chi, mae’n well cael cymorth cyn gynted â phosib. Gallwch chi alw heibio un o’n grwpiau cymorth neu gysylltu â’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron.

  • How long should a mother breastfeed? (La Leche League International)

  • What are the benefits of breastfeeding my toddler? (La Leche League International)

  • Toddler Breastfeeding – Why on Earth? (Jack Newman’s Site)

Siaradwch ag aelod o’r criw cofrestredig sy’n cynnig cefnogaeth Bwydo ar y Fron

Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Neu siaradwch â ni trwy we-sgwrs pan fydd ar gael.

0300 100 0212

Footer

Contact us

Helplines | Online chat

Copyright © 2025 The Breastfeeding Network. Registered Charity No SC027007
Accessibility | Privacy Notice | Members area

Scroll Up